Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZRA
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 3
Ezra WelBeibl 3:1  Roedd pobl Israel i gyd wedi setlo i lawr yn eu trefi. Yna yn y seithfed mis dyma pawb yn dod at ei gilydd i Jerwsalem.
Ezra WelBeibl 3:2  A dyma Ieshŵa fab Iotsadac a'r offeiriaid oedd gydag e, a Serwbabel fab Shealtiel a'i ffrindiau, yn ailadeiladu allor Duw Israel. Wedyn gallen nhw ddod ag offrymau i'w llosgi a dilyn y cyfarwyddiadau roedd Duw wedi'u rhoi i Moses, ei broffwyd.
Ezra WelBeibl 3:3  Er bod ganddyn nhw ofn y bobl leol, dyma nhw'n gosod yr allor ar ei safle wreiddiol, a dechrau llosgi offrymau i'r ARGLWYDD arni bob bore a nos.
Ezra WelBeibl 3:4  Dyma nhw'n dathlu Gŵyl y Pebyll, a chyflwyno'r nifer cywir o offrymau i'w llosgi bob dydd, fel roedd y cyfarwyddiadau'n dweud.
Ezra WelBeibl 3:5  Wedyn dyma nhw'n dod â'r offrymau arferol oedd i'w llosgi – yr offrymau misol ar ŵyl y lleuad newydd, a'r offrymau ar gyfer y gwyliau eraill pan oedd pobl yn dod at ei gilydd i addoli; a hefyd yr offrymau roedd pobl yn eu rhoi yn wirfoddol.
Ezra WelBeibl 3:6  Dechreuon nhw losgi offrymau i'r ARGLWYDD ar ddiwrnod cynta'r seithfed mis. Ond doedd y gwaith o ailadeiladu teml yr ARGLWYDD ddim wedi dechrau eto.
Ezra WelBeibl 3:7  Felly dyma'r bobl yn rhoi arian i gyflogi seiri maen a seiri coed i weithio ar y Deml. A dyma nhw'n prynu coed cedrwydd gan bobl Sidon a Tyrus a thalu am y rheiny gyda cyflenwad o fwyd, diodydd ac olew olewydd. Roedden nhw'n dod â'r coed i lawr o fryniau Libanus i'r arfordir, ac yna ar rafftiau i borthladd Jopa. Roedd y Brenin Cyrus o Persia wedi rhoi caniatâd i hyn ddigwydd.
Ezra WelBeibl 3:8  Dyma'r gwaith o adeiladu teml Dduw yn dechrau flwyddyn a mis ar ôl iddyn nhw ddod yn ôl o Babilon i Jerwsalem. Serwbabel fab Shealtiel a Ieshŵa fab Iotsadac ddechreuodd y gwaith, gyda'r offeiriaid, y Lefiaid, a phawb arall oedd wedi dod yn ôl i Jerwsalem o'r gaethglud. A dyma nhw'n penodi Lefiaid oedd dros ugain oed i arolygu'r gwaith oedd yn cael ei wneud ar deml yr ARGLWYDD.
Ezra WelBeibl 3:9  Dyma Ieshŵa yn penodi ei feibion a'i berthnasau ei hun, Cadmiel a Binnŵi (sef meibion Hodafïa), i fod yn gyfrifol am y gweithwyr. Hefyd meibion Chenadad, a'u meibion nhw, a'u perthnasau o lwyth Lefi.
Ezra WelBeibl 3:10  Pan gafodd sylfeini teml yr ARGLWYDD eu gosod, dyma'r offeiriaid yn eu gwisgoedd seremonïol yn canu utgyrn, a'r Lefiaid (sef meibion Asaff) yn taro symbalau, i foli'r ARGLWYDD. Roedden nhw'n dilyn y drefn roedd Dafydd, brenin Israel, wedi'i gosod.
Ezra WelBeibl 3:11  Roedden nhw'n canu mewn antiffoni, wrth foli ac addoli'r ARGLWYDD: “Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni i Israel yn ddiddiwedd!” A dyma'r dyrfa i gyd yn gweiddi'n uchel a moli'r ARGLWYDD am fod sylfeini'r deml wedi'u gosod.
Ezra WelBeibl 3:12  Ond yng nghanol yr holl weiddi a'r dathlu, roedd llawer o'r offeiriaid, Lefiaid a'r arweinwyr hŷn yn beichio crio. Roedden nhw'n cofio'r deml fel roedd hi, pan oedd hi'n dal i sefyll.
Ezra WelBeibl 3:13  Ond doedd neb wir yn gallu gwahaniaethu rhwng sŵn y dathlu a sŵn y crio. Roedd pobl yn gweiddi mor uchel roedd i'w glywed o bell.