Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOSHUA
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 14
Josh WelBeibl 14:1  Dyma gofnod o'r ffordd gafodd y tir yn Canaan ei rannu rhwng pobl Israel gan Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel.
Josh WelBeibl 14:2  Cafodd y tir ei rannu rhwng y naw llwyth a hanner drwy daflu coelbren, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Josh WelBeibl 14:3  Roedd Moses eisoes wedi rhoi tir yr ochr arall i afon Iorddonen i ddau lwyth a hanner, a doedd e ddim wedi rhoi tir i lwyth Lefi.
Josh WelBeibl 14:4  Roedd disgynyddion Joseff, ar y llaw arall, yn cael eu cyfrif fel dau lwyth – Manasse ac Effraim. Doedd llwyth Lefi ddim i gael tir; roedden nhw i gael rhai trefi arbennig i fyw ynddyn nhw, gyda'r tir o'u cwmpas yn borfa i'w hanifeiliaid.
Josh WelBeibl 14:5  Felly dyma bobl Israel yn rhannu'r tir yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Josh WelBeibl 14:6  Pan oedden nhw yn Gilgal, dyma ddynion o lwyth Jwda yn mynd i weld Josua. Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad oedd yn siarad ar eu rhan, ac meddai, “Ti'n cofio beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, dyn Duw, amdanon ni'n dau, yn Cadesh-barnea?
Josh WelBeibl 14:7  Pedwar deg oed oeddwn i pan anfonodd Moses fi o Cadesh-barnea i ysbïo ar y wlad. A dyma fi'n rhoi adroddiad cwbl onest iddo pan ddes i yn ôl.
Josh WelBeibl 14:8  Roedd y dynion eraill aeth gyda ni wedi dychryn y bobl a gwneud iddyn nhw ddigalonni. Ond roeddwn i wedi aros yn ffyddlon i'r ARGLWYDD fy Nuw.
Josh WelBeibl 14:9  A'r diwrnod hwnnw dyma Moses yn addo ar lw: ‘Bydd y tir lle buoch chi'n cerdded yn cael ei roi i ti a dy deulu am byth, am dy fod ti wedi bod yn ffyddlon i'r ARGLWYDD dy Dduw.’
Josh WelBeibl 14:10  Ac mae'r ARGLWYDD wedi cadw ei addewid. Dyma fi, yn dal yn fyw, bedwar deg pum mlynedd yn ddiweddarach. Dyna faint o amser sydd wedi mynd heibio ers i'r ARGLWYDD siarad â Moses pan oedd pobl Israel yn crwydro yn yr anialwch. Dw i'n wyth deg pum mlwydd oed bellach,
Josh WelBeibl 14:11  ac yn dal mor gryf ag oeddwn i pan anfonodd Moses fi allan! Dw i'n dal i allu ymladd a gwneud popeth roeddwn i'n ei wneud bryd hynny.
Josh WelBeibl 14:12  Felly rho i mi'r bryniau wnaeth yr ARGLWYDD eu haddo i mi. Mae'n siŵr y byddi'n cofio fod disgynyddion Anac yn byw yno, mewn trefi caerog mawr. Ond gyda help yr ARGLWYDD, bydda i'n cael gwared â nhw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo.”
Josh WelBeibl 14:13  Felly dyma Josua yn bendithio Caleb fab Jeffwnne, a rhoi tref Hebron iddo.
Josh WelBeibl 14:14  Mae disgynyddion Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad yn dal i fyw yn Hebron hyd heddiw, am ei fod wedi bod yn ffyddlon i'r ARGLWYDD, Duw Israel.
Josh WelBeibl 14:15  Yr hen enw ar Hebron oedd Ciriath-arba, wedi'i enwi ar ôl Arba, oedd yn un o arwyr yr Anaciaid. Ac roedd heddwch yn y wlad.