Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
LAMENTATIONS
1 2 3 4 5
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 2
Lame WelBeibl 2:1  Y proffwyd: O! Mae'r Meistr wedi digio'n lân, ac wedi rhoi Jerwsalem dan gwmwl tywyll! Mae'r ddinas oedd yn ysblander Israel wedi'i bwrw i lawr i'r llwch o'r nefoedd. Yn ei lid ffyrnig, mae Duw wedi gwrthod ei deml, sef ei stôl droed sydd ar y ddaear.
Lame WelBeibl 2:2  Mae wedi dinistrio cartrefi pobl Jacob heb ddangos trugaredd o gwbl. Yn ei ddig mae wedi dinistrio'r trefi caerog oedd yn amddiffyn Jwda. Mae wedi bwrw i lawr y wlad a'i harweinwyr ac achosi cywilydd mawr.
Lame WelBeibl 2:3  Yn ei lid ffyrnig mae wedi dinistrio grym byddin Israel yn llwyr. Stopiodd eu hamddiffyn nhw pan oedd y gelyn yn ymosod. Roedd fel tân yn llosgi drwy'r wlad ac yn difa popeth ar dir Jacob.
Lame WelBeibl 2:4  Roedd fel gelyn yn anelu ei fwa saeth, a'i law dde yn barod i saethu. Lladdodd bawb oedd yn annwyl yn ei olwg. Do, tywalltodd ei lid fel tân ar gartrefi Jerwsalem.
Lame WelBeibl 2:5  Roedd yr Arglwydd fel gelyn yn dinistrio Israel. Mae wedi dinistrio'r plastai i gyd, a dymchwel ei chaerau amddiffynnol. Bellach, dim ond griddfan a galar sydd i'w glywed drwy wlad Jwda.
Lame WelBeibl 2:6  Mae wedi chwalu ei deml fel caban mewn gwinllan. Mae wedi dinistrio canolfan y gwyliau sanctaidd. Daeth pob Gŵyl grefyddol a Saboth i ben yn Seion. Yn ei lid ffyrnig trodd ei gefn ar y brenin a'r offeiriaid.
Lame WelBeibl 2:7  Mae'r Meistr wedi gwrthod ei allor. Mae wedi troi cefn ar ei deml. Mae wedi gadael i'r gelyn rwygo ei waliau i lawr. Roedd sŵn y gelyn yn gweiddi yn nheml yr ARGLWYDD fel sŵn pobl yn dathlu yno ar ddydd Gŵyl.
Lame WelBeibl 2:8  Roedd yr ARGLWYDD yn benderfynol o droi waliau dinas Jerwsalem yn adfeilion. Roedd wedi cynllunio'n ofalus beth i'w wneud, ac aeth ati i'w dinistrio nhw'n llwyr. Bellach mae'r waliau oedd yn amddiffyn y ddinas yn gorwedd yn llesg fel pobl yn galaru.
Lame WelBeibl 2:9  Mae giatiau'r ddinas yn gorwedd ar lawr, a'r barrau oedd yn eu cloi wedi malu. Mae'r brenin a'r arweinwyr wedi'u cymryd yn gaeth. Does neb i roi arweiniad o'r Gyfraith, a does gan y proffwydi ddim gweledigaeth gan yr ARGLWYDD.
Lame WelBeibl 2:10  Mae'r henoed sydd ar ôl yn Jerwsalem yn eistedd ar lawr yn hollol dawel. Maen nhw wedi taflu pridd ar eu pennau ac yn gwisgo sachliain yn eu tristwch. Mae merched ifanc Jerwsalem yn syllu ar lawr yn ddigalon.
Lame WelBeibl 2:11  Mae fy llygaid innau'n llawn dagrau. Mae fy stumog yn corddi y tu mewn i mi. Mae'r hyn sydd wedi digwydd i'm pobl yn fy ngwneud i'n sâl. Mae plant a babis bach yn llwgu a llewygu ar strydoedd y ddinas!
Lame WelBeibl 2:12  Mae plant yn galw ar eu mamau. “Dw i eisiau bwyd. Dw i eisiau diod.” Maen nhw'n llewygu ar y strydoedd fel milwyr wedi'u hanafu. Maen nhw'n marw yn araf ym mreichiau eu mamau.
Lame WelBeibl 2:13  Dw i ddim yn gwybod beth i'w ddweud. Dw i wedi gweld dim byd tebyg. Jerwsalem annwyl, beth alla i ei wneud i dy helpu di? Mae dy anaf mor ddwfn â'r môr mawr; does neb yn gallu dy iacháu.
Lame WelBeibl 2:14  Roedd gweledigaethau dy broffwydi yn gelwydd ac yn dwyll! Yn lle gwneud pethau'n iawn eto drwy ddangos dy bechod i ti, roedden nhw'n cyhoeddi pethau ffals ac yn dy gamarwain di.
Lame WelBeibl 2:15  Mae pawb sy'n pasio heibio yn curo dwylo'n wawdlyd. Maen nhw'n chwibanu'n ddirmygus ac yn ysgwyd eu pennau ar Jerwsalem druan. “Ha! Felly dyma'r un oedd yn cael ei disgrifio fel ‘y ddinas harddaf un sy'n gwneud yr holl fyd yn hapus’?”
Lame WelBeibl 2:16  Mae dy elynion i gyd yn gwneud hwyl am dy ben; yn gwawdio ac yn gwneud ystumiau arnat. “Dŷn ni wedi'i dinistrio hi!” medden nhw. “Roedden ni wedi edrych ymlaen at y diwrnod yma, ac o'r diwedd mae wedi dod!”
Lame WelBeibl 2:17  Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud beth oedd yn ei fwriadu. Mae wedi gwneud beth oedd yn ei ddweud. Roedd wedi bygwth hyn ers talwm. Mae wedi dinistrio heb ddangos trugaredd. Mae wedi gadael i'r gelyn ddathlu dy orchfygu, ac ymffrostio fod ei fyddin mor bwerus.
Lame WelBeibl 2:18  Gwaeddwch yn daer ar yr Arglwydd! O, waliau Jerwsalem, gadewch i'r dagrau lifo fel afon ddydd a nos! Peidiwch gorffwyso; peidiwch gadael i'r dagrau stopio!
Lame WelBeibl 2:19  Cod! Gwaedda am help yn y nos! Gwna hynny drosodd a throsodd. Tywallt beth sydd ar dy galon o flaen yr Arglwydd! Estyn dy ddwylo ato mewn gweddi, i bledio dros y plant sy'n marw o newyn ar gornel pob stryd.
Lame WelBeibl 2:20  Edrych! ARGLWYDD, meddylia am y peth! I bwy arall wyt ti wedi gwneud hyn? Ydy'n iawn fod gwragedd yn bwyta'r plant maen nhw wedi gofalu amdanyn nhw? Ddylai offeiriaid a phroffwydi gael eu lladd yn nheml yr ARGLWYDD?
Lame WelBeibl 2:21  Mae hen ac ifanc yn gorwedd yn farw ar lwch y strydoedd. Bechgyn a merched ifanc wedi'u taro â chleddyf y gelyn. Ti wnaeth hyn pan ddangosaist dy lid ffyrnig. Lleddaist nhw yn ddidrugaredd.
Lame WelBeibl 2:22  Cafodd y gelyn, oedd yn creu dychryn ym mhobman, wahoddiad gen ti, fel petai'n ddydd Gŵyl. Ond diwrnod i ti ddangos dy lid ffyrnig oedd e, a doedd neb i ddianc na chael byw. Do, lladdodd y gelyn y plant wnes i eu mwytho a'u magu.