LAMENTATIONS
Chapter 4
Lame | WelBeibl | 4:1 | Y proffwyd: O! Mae'r aur wedi colli ei sglein. Dydy'r aur pur ddim yn edrych fel aur ddim mwy! Mae gemau gwerthfawr ar chwâl ar gornel pob stryd. | |
Lame | WelBeibl | 4:2 | Roedd plant gwerthfawr Seion yn werth eu pwysau mewn aur. Ond bellach – O! maen nhw mor ddiwerth a photiau pridd wedi'u gwneud gan grochenydd! | |
Lame | WelBeibl | 4:3 | Mae hyd yn oed y siacal yn magu ei rai bach ac yn eu bwydo ar y fron, ond mae fy mhobl i yn esgeulus o'u plant fel yr estrys yn yr anialwch. | |
Lame | WelBeibl | 4:4 | Mae tafodau'r babanod yn glynu i dop eu cegau am fod syched arnyn nhw. Mae plant bach yn cardota am fwyd, ond does neb yn rhoi unrhyw beth iddyn nhw. | |
Lame | WelBeibl | 4:5 | Mae'r bobl oedd yn arfer gwledda ar fwydydd moethus yn marw o newyn ar y strydoedd. Mae'r rhai gafodd eu magu mewn dillad crand yn crafu drwy'r sbwriel am rywbeth bach. | |
Lame | WelBeibl | 4:6 | Mae fy mhobl wedi cael eu cosbi am eu pechod fwy na gafodd Sodom am ei gwrthryfel. Cafodd Sodom ei dinistrio'n sydyn gan Dduw, heb i neb droi llaw i'w helpu. | |
Lame | WelBeibl | 4:7 | Roedd arweinwyr Jerwsalem yn lanach na'r eira ac wyn fel llaeth. Roedd eu cyrff yn iach, ac yn sgleinio fel cwrel neu saffir. | |
Lame | WelBeibl | 4:8 | Ond bellach mae eu hwynebau yn ddu fel parddu. Does neb yn eu nabod nhw ar y strydoedd. Dŷn nhw'n ddim byd ond croen ac asgwrn, ac mae eu croen wedi sychu fel pren. | |
Lame | WelBeibl | 4:9 | Roedd y rhai gafodd eu lladd gyda'r cleddyf yn fwy ffodus na'r rhai sy'n marw o newyn – y rhai mae bywyd yn llifo'n araf ohonyn nhw, am fod ganddyn nhw ddim i'w fwyta. | |
Lame | WelBeibl | 4:10 | Pan gafodd fy mhobl eu dinistrio, roedd mamau, oedd unwaith yn dyner, yn coginio eu plant i'w bwyta! | |
Lame | WelBeibl | 4:11 | Dyma'r ARGLWYDD yn bwrw arnom ei lid i gyd. Tywalltodd ei ddig ffyrnig a chynnau tân wnaeth losgi sylfeini Seion. | |
Lame | WelBeibl | 4:12 | Doedd dim un brenin wedi dychmygu, na neb arall drwy'r byd i gyd, y gallai unrhyw elyn neu ymosodwr goncro dinas Jerwsalem. | |
Lame | WelBeibl | 4:13 | Ond dyna ddigwyddodd, am fod ei phroffwydi wedi pechu a'i hoffeiriaid wedi gwrthryfela. Nhw oedd gyfrifol am ladd pobl ddiniwed yn y ddinas. | |
Lame | WelBeibl | 4:14 | Maen nhw'n crwydro'r strydoedd fel pobl ddall. Does neb yn beiddio cyffwrdd eu dillad nhw, am fod y gwaed wnaethon nhw ei dywallt wedi'u gwneud nhw'n aflan. | |
Lame | WelBeibl | 4:15 | Mae pobl yn gweiddi arnyn nhw, “Cadwch draw! Dych chi'n aflan! Ewch i ffwrdd! Peidiwch cyffwrdd ni!” Felly dyma nhw'n ffoi ac maen nhw'n crwydro o gwmpas o un wlad i'r llall heb gael croeso yn unman. | |
Lame | WelBeibl | 4:16 | Yr ARGLWYDD ei hun wnaeth eu gyrru ar chwâl, a dydy e ddim yn gofalu amdanyn nhw ddim mwy. Does neb yn dangos parch at yr offeiriaid, a does neb yn malio am yr arweinwyr. | |
Lame | WelBeibl | 4:17 | Roedd ein llygaid ni wedi blino wrth i ni wastraffu'n hamser yn edrych am help. Roedden ni'n edrych allan o'r tŵr gwylio yn disgwyl am wlad wnaeth ddim dod i'n hachub ni. | |
Lame | WelBeibl | 4:18 | Roedd ein gelynion yn ein hela bob cam o'r ffordd. Doedd hi ddim yn saff i ni fynd allan i'r strydoedd hyd yn oed. Roedd y diwedd yn agos; roedd ein dyddiau wedi'u rhifo; oedd, roedd y diwedd wedi dod! | |
Lame | WelBeibl | 4:19 | Daeth y gelyn ar ein holau. Roedden nhw'n gyflymach nag eryrod. Roedden nhw'n ein hela ni ar y bryniau, ac yn disgwyl i ymosod arnon ni yn yr anialwch. | |
Lame | WelBeibl | 4:20 | Cafodd anadl bywyd y genedl, sef y brenin oedd wedi'i eneinio gan yr ARGLWYDD, ei ddal mewn trap ganddyn nhw. Dyma'r un oedden ni'n credu fyddai'n ein hamddiffyn, a'n galluogi i oroesi yng nghanol y cenhedloedd. | |
Lame | WelBeibl | 4:21 | Chwarddwch chi am y tro, bobl Edom, a chi sy'n byw yn ngwlad Us, ond mae'ch tro chi yn dod! Bydd rhaid i chithau yfed o gwpan barn Duw, nes byddwch chi'n feddw ac yn noeth. | |