Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
LAMENTATIONS
1 2 3 4 5
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 5
Lame WelBeibl 5:1  Pobl Jerwsalem yn gweddïo am drugaredd. ARGLWYDD, cofia beth sydd wedi digwydd i ni. Edrycha arnon ni yn ein cywilydd!
Lame WelBeibl 5:2  Mae'n gwlad wedi'i rhoi yn nwylo'r gelyn, a'n cartrefi wedi'u meddiannu gan bobl estron.
Lame WelBeibl 5:3  Dŷn ni fel plant amddifad, heb dadau, ac mae ein mamau fel gwragedd gweddwon.
Lame WelBeibl 5:4  Rhaid i ni brynu dŵr i'w yfed, a thalu am y coed tân dŷn ni'n ei gasglu.
Lame WelBeibl 5:5  Dŷn ni'n cael ein gyrru fel anifeiliaid â iau ar eu gwarrau; wedi blino'n lân, ac yn cael dim gorffwys.
Lame WelBeibl 5:6  Gwnaethon gytundeb gyda'r Aifft ac Asyria, er mwyn cael digon o fwyd i fyw.
Lame WelBeibl 5:7  Roedd ein hynafiaid, sy'n farw bellach, wedi pechu; a dŷn ni'n diodde canlyniadau eu drygioni nhw.
Lame WelBeibl 5:8  Mae caethweision yn feistri arnon ni, a does neb yn gallu'n hachub ni o'u gafael nhw.
Lame WelBeibl 5:9  Dŷn ni'n gorfod mentro'n bywydau i nôl bwyd, am fod lladron arfog yn cuddio yng nghefn gwlad.
Lame WelBeibl 5:10  Mae newyn yn achosi i ni ddiodde o dwymyn; mae ein croen yn teimlo'n boeth fel ffwrn.
Lame WelBeibl 5:11  Mae'r gwragedd yn cael eu treisio yn Seion, a'r merched ifanc yn nhrefi Jwda.
Lame WelBeibl 5:12  Mae'r gelyn wedi crogi ein harweinwyr, a cham-drin y rhai hynaf ohonynt.
Lame WelBeibl 5:13  Mae'r dynion ifanc yn cael eu gorfodi i weithio'r maen melin, a'r bechgyn yn baglu wrth gario llwyth o goed.
Lame WelBeibl 5:14  Dydy'r arweinwyr hŷn ddim yn cyfarfod wrth giât y ddinas, ac mae'r bechgyn ifanc wedi stopio canu eu cerddoriaeth.
Lame WelBeibl 5:15  Mae pob llawenydd wedi diflannu; yn lle dawnsio dŷn ni'n galaru.
Lame WelBeibl 5:16  Mae'r dathlu wedi dod i ben. Gwae ni, dŷn ni wedi pechu!
Lame WelBeibl 5:17  Dŷn ni'n teimlo'n sâl, ac wedi colli pob hyder; mae'r sbarc wedi diflannu o'n llygaid,
Lame WelBeibl 5:18  am fod Mynydd Seion yn gorwedd yn wag; dim ond siacaliaid sydd yno'n prowla.
Lame WelBeibl 5:19  Ond rwyt ti, ARGLWYDD, yn teyrnasu am byth; mae dy orsedd yn para ar hyd y cenedlaethau.
Lame WelBeibl 5:20  Pam wyt ti wedi anghofio amdanon ni? Pam wyt ti wedi troi cefn arnon ni mor hir?
Lame WelBeibl 5:21  Tyn ni'n ôl atat dy hun, ARGLWYDD, i ni droi nôl. Gwna ni eto fel roedden ni ers talwm.
Lame WelBeibl 5:22  Neu wyt ti wedi'n gwrthod ni'n llwyr? Wyt ti wedi digio'n lân gyda ni?