Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
REVELATION OF JOHN
Prev Up Next
Chapter 4
Reve WelBeibl 4:1  Yna ces i weledigaeth. Roedd drws agored yn y nefoedd o mlaen i. A dyma'r llais rôn i wedi'i glywed yn siarad â mi ar y cychwyn (y llais hwnnw oedd fel sŵn utgorn), yn dweud: “Tyrd i fyny yma, a bydda i'n dangos i ti beth sy'n mynd i ddigwydd ar ôl hyn.”
Reve WelBeibl 4:2  Yn sydyn roeddwn i dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, ac o mlaen i roeddwn i'n gweld gorsedd yn y nefoedd gyda rhywun yn eistedd arni.
Reve WelBeibl 4:3  Roedd yr Un oedd yn eistedd arni yn disgleirio fel gemau iasbis a sardion, ac roedd enfys hardd fel emrallt o gwmpas yr orsedd.
Reve WelBeibl 4:4  Roedd dau ddeg pedair gorsedd arall o'i chwmpas hefyd, gydag arweinydd ysbrydol yn eistedd ar bob un. Roedden nhw'n gwisgo dillad gwyn ac roedd coronau aur ar eu pennau.
Reve WelBeibl 4:5  Roedd mellt a sŵn taranau yn dod o'r orsedd, ac o'i blaen roedd saith lamp yn llosgi, sef Ysbryd cyflawn perffaith Duw.
Reve WelBeibl 4:6  Hefyd o flaen yr orsedd roedd rhywbeth tebyg i fôr o wydr, yn glir fel grisial. Yn y canol o gwmpas yr orsedd, roedd pedwar creadur byw gyda llygaid yn eu gorchuddio, o'r tu blaen a'r tu ôl.
Reve WelBeibl 4:7  Roedd y creadur cyntaf yn debyg i lew, yr ail yn debyg i lo, roedd gan y trydydd wyneb dynol, ac roedd y pedwerydd fel eryr yn hedfan.
Reve WelBeibl 4:8  Roedd gan bob un o'r creaduriaid chwe adain wedi'u gorchuddio'n llwyr gyda llygaid, hyd yn oed o dan yr adenydd. Roedden nhw'n siantio drosodd a throsodd, heb orffwys nos na dydd: “Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd ydy'r Arglwydd Dduw Hollalluog, yr Un oedd, ac sydd, ac sy'n mynd i ddod.”
Reve WelBeibl 4:9  Yna wrth i'r creaduriaid byw roi clod ac anrhydedd a diolch i'r Un sy'n eistedd ar yr orsedd, sef yr Un sy'n byw am byth bythoedd,
Reve WelBeibl 4:10  roedd y dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn ei addoli hefyd. Wrth osod eu coronau ar lawr o flaen yr orsedd roedden nhw'n dweud:
Reve WelBeibl 4:11  “Ein Harglwydd a'n Duw! Rwyt ti'n deilwng o'r clod a'r anrhydedd a'r nerth. Ti greodd bob peth, ac mae popeth wedi'u creu yn bodoli am mai dyna oeddet ti eisiau.”