ZEPHANIAH
Chapter 2
Zeph | WelBeibl | 2:2 | Dewch cyn i'r cwbl ddod yn wir, ac i'ch cyfle olaf ddiflannu fel us – Cyn i'r ARGLWYDD wylltio'n lân gyda chi; cyn i'w ddydd barn eich dal chi! | |
Zeph | WelBeibl | 2:3 | Gofynnwch i'r ARGLWYDD eich helpu, chi sy'n cael eu cam-drin yn y wlad ac sy'n ufudd i'w orchmynion. Gwnewch beth sy'n iawn. Byddwch yn ostyngedig. Falle y cewch eich cuddio mewn lle saff ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu. | |
Zeph | WelBeibl | 2:4 | Bydd tref Gasa'n wag ac Ashcelon yn adfeilion. Bydd pobl Ashdod wedi'u gyrru i ffwrdd cyn canol dydd, a tref Ecron wedi'i bwrw i lawr. | |
Zeph | WelBeibl | 2:5 | Gwae chi sy'n byw ar lan y môr – bobl Philistia ddaeth o Creta. Amdanat ti Canaan, wlad y Philistiaid, mae'r ARGLWYDD wedi dweud yn dy erbyn: “Bydda i'n dy ddinistrio, a fydd neb ar ôl!” | |
Zeph | WelBeibl | 2:7 | Bydd tir y glannau yn eiddo i'r bobl sydd ar ôl o Jwda; Nhw fydd yn pori yno ac yn cysgu'r nos yn nhai Ashcelon. Bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn dod atyn nhw, a rhoi llwyddiant iddyn nhw eto. | |
Zeph | WelBeibl | 2:8 | “Dw i wedi clywed Moab yn gwawdio a phobl Ammon yn enllibio – gwawdio fy mhobl, a bygwth eu ffiniau. | |
Zeph | WelBeibl | 2:9 | Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel. “Bydd Moab fel Sodom ac Ammon fel Gomorra! – yn llawn chwyn a phyllau halen, ac yn dir diffaith am byth. Bydd y rhai sydd ar ôl o'm pobl yn dwyn eu heiddo, a'r gweddill o'm gwlad yn cymryd eu tir.” | |
Zeph | WelBeibl | 2:11 | Bydd yr ARGLWYDD yn eu dychryn, a bydd holl dduwiau'r ddaear yn ddim. Yna bydd pobl pob cenedl yn addoli'r ARGLWYDD yn eu gwledydd eu hunain. | |
Zeph | WelBeibl | 2:13 | Bydd yr ARGLWYDD yn taro'r gogledd ac yn dinistrio Asyria. Bydd dinas Ninefe yn adfeilion; yn sych fel anialwch diffaith. | |
Zeph | WelBeibl | 2:14 | Bydd pob math o anifeiliaid gwyllt yn gorwedd yn ei chanol. Bydd tylluanod yn clwydo yn ei hadfeilion, ac yn hwtian yn y ffenestri. Bydd rwbel ar bob rhiniog a'r waliau'n noeth am fod yr holl waith coed wedi'i rwygo allan. | |