AMOS
Chapter 3
Amos | WelBeibl | 3:1 | Bobl Israel, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD yn eich erbyn chi. Chi, y bobl ddois i â nhw allan o wlad yr Aifft. | |
Amos | WelBeibl | 3:2 | “O blith holl bobloedd y ddaear, chi ydy'r rhai wnes i ddewis – a dyna pam mae'n rhaid i mi eich galw chi i gyfrif am yr holl ddrwg dych chi wedi'i wneud.” | |
Amos | WelBeibl | 3:4 | Ydy llew yn rhuo yn y goedwig pan does ganddo ddim ysglyfaeth? Ydy llew ifanc yn grwnian yn fodlon yn ei ffau oni bai ei fod wedi dal rhywbeth? | |
Amos | WelBeibl | 3:5 | Ydy aderyn yn cael ei ddal mewn rhwyd os nad oes abwyd yn y trap? Ydy trap ar lawr yn cau yn sydyn heb fod rhywbeth wedi'i ddal ynddo? | |
Amos | WelBeibl | 3:6 | Ydy pobl ddim yn dychryn yn y dre wrth glywed y corn hwrdd yn seinio fod ymosodiad? Ydy dinistr yn gallu dod ar ddinas heb i'r ARGLWYDD adael i'r peth ddigwydd? | |
Amos | WelBeibl | 3:7 | Dydy fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn gwneud dim byd heb ddangos ei gynllun i'w weision y proffwydi. | |
Amos | WelBeibl | 3:8 | Pan mae'r llew yn rhuo, pwy sydd ddim yn ofni? Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, wedi siarad, felly pwy sy'n mynd i wrthod proffwydo? | |
Amos | WelBeibl | 3:9 | Cyhoedda hyn i'r rhai sy'n byw yn y plastai yn Ashdod ac yn y plastai yng ngwlad yr Aifft! Dywed: “Dewch at eich gilydd i ben bryniau Samaria i weld yr anhrefn llwyr sydd yn y ddinas, a'r gormes sy'n digwydd yno. | |
Amos | WelBeibl | 3:10 | Allan nhw ddim gwneud beth sy'n iawn!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Yn eu plastai maen nhw'n storio trysorau sydd wedi'u dwyn drwy drais.” | |
Amos | WelBeibl | 3:11 | Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Bydd gelyn yn amgylchynu'r wlad! Bydd yn rhwygo popeth oddi arni ac yn ei gadael yn noeth. Bydd ei chaerau amddiffynnol yn cael eu hysbeilio'n llwyr!” | |
Amos | WelBeibl | 3:12 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Fel bugail yn ‛achub‛ unrhyw beth o safn y llew – dwy goes, neu ddarn o'r glust – dyna'r math o ‛achub‛ fydd ar bobl Israel sy'n byw yn Samaria. Dim ond coes y gwely neu gornel y fatras fydd ar ôl!” | |
Amos | WelBeibl | 3:13 | “Gwranda ar hyn, a rhybuddia bobl Jacob” —fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, y Duw hollbwerus. | |
Amos | WelBeibl | 3:14 | “Pan fydda i'n cosbi Israel am wrthryfela, bydda i'n dinistrio'r allor sydd yn Bethel. Bydd y cyrn ar gorneli'r allor yn cael eu torri ac yn disgyn ar lawr. | |