Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II CHRONICLES
Prev Up Next
Chapter 16
II C WelBeibl 16:1  Pan oedd Asa wedi bod yn frenin ers bron dri deg chwech o flynyddoedd, dyma Baasha, brenin Israel, yn ymosod ar Jwda ac yn adeiladu Rama yn gaer filwrol i rwystro pobl rhag mynd a dod i diriogaeth Asa brenin Jwda.
II C WelBeibl 16:2  Dyma Asa yn cymryd y cwbl o'r arian a'r aur oedd ar ôl yn stordai teml yr ARGLWYDD a stordai palas y brenin, a'i anfon gyda'r neges yma i Ben-hadad, brenin Syria, yn Damascus:
II C WelBeibl 16:3  “Dw i eisiau gwneud cytundeb heddwch gyda ti, fel roedd yn arfer bod rhwng fy nhad a dy dad di. Dw i'n anfon yr arian a'r aur yma i ti. Dw i eisiau i ti dorri'r cytundeb sydd rhyngot ti a Baasha, brenin Israel, er mwyn iddo stopio ymosod arnon ni.”
II C WelBeibl 16:4  Dyma Ben-hadad yn derbyn cynnig y Brenin Asa, a dyma fe'n dweud wrth swyddogion ei fyddin am ymosod ar drefi Israel. Dyma nhw'n taro Îon, Dan, Abel-maim a chanolfannau storfeydd Nafftali.
II C WelBeibl 16:5  Pan glywodd Baasha am hyn, dyma fe'n rhoi'r gorau i'r prosiect o adeiladu Rama.
II C WelBeibl 16:6  Yna dyma'r Brenin Asa yn anfon pobl Jwda i nôl y cerrig a'r coed roedd Baasha wedi bod yn eu defnyddio i adeiladu Rama. Yna dyma Asa yn eu defnyddio nhw i adeiladau Geba yn Benjamin a Mitspa.
II C WelBeibl 16:7  Tua'r adeg honno dyma'r proffwyd Chanani yn mynd at Asa, brenin Jwda, a dweud wrtho, “Am dy fod wedi gofyn am help brenin Syria yn lle trystio'r ARGLWYDD, dy Dduw, wnei di byth orchfygu byddin Syria.
II C WelBeibl 16:8  Oedd gan yr Affricaniaid a'r Libiaid ddim byddinoedd mawr gyda llawer iawn o gerbydau a marchogion? Ond am dy fod wedi trystio'r ARGLWYDD dyma fe'n gadael i ti ennill y frwydr.
II C WelBeibl 16:9  Mae'r ARGLWYDD yn gwylio popeth sy'n digwydd ar y ddaear, ac yn barod i helpu'r rhai sy'n ei drystio fe'n llwyr. Ti wedi bod yn ffŵl. Byddi di'n ymladd rhyfeloedd yn ddi-stop o hyn ymlaen.”
II C WelBeibl 16:10  Roedd Asa wedi gwylltio gyda'r proffwyd am siarad fel yna, a dyma fe'n ei roi yn y carchar. Bryd hynny dechreuodd Asa orthrymu rhai o'r bobl hefyd.
II C WelBeibl 16:11  Mae hanes Asa, o'r dechrau i'r diwedd, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda ac Israel.
II C WelBeibl 16:12  Pan oedd Asa wedi bod yn frenin am bron dri deg naw o flynyddoedd dyma fe'n dechrau dioddef o glefyd ar ei draed. Er ei fod e'n dioddef yn ddifrifol o'r afiechyd wnaeth e ddim gofyn am help yr ARGLWYDD, dim ond y meddygon.
II C WelBeibl 16:13  Pan fuodd Asa farw, ar ôl bod yn frenin am dros bedwar deg o flynyddoedd;
II C WelBeibl 16:14  cafodd ei gladdu yn y bedd roedd e wedi trefnu ei chloddio o'r graig yn ninas Dafydd. Cafodd ei roi i orwedd ar elor oedd wedi'i gorchuddio gyda pherlysiau a gwahanol bersawrau. A dyma nhw'n llosgi coelcerth enfawr i'w anrhydeddu.