II CHRONICLES
Chapter 4
II C | WelBeibl | 4:2 | Yna dyma fe'n gwneud basn anferth i ddal dŵr. Roedd hwn wedi'i wneud o bres wedi'i gastio, ac yn cael ei alw ‛Y Môr‛. Roedd yn bedwar metr a hanner ar draws o un ochr i'r llall, dros ddau fetr o ddyfnder ac un deg tri metr a hanner o'i hamgylch. | |
II C | WelBeibl | 4:3 | O gwmpas ‛Y Môr‛, o dan y rhimyn, roedd dwy res o addurniadau bach yn edrych fel teirw, un bob rhyw bedwar centimetr a hanner. | |
II C | WelBeibl | 4:4 | Roedd ‛Y Môr‛ wedi'i osod ar gefn un deg dau o ychen. Roedd tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de a thri tua'r dwyrain. Roedden nhw i gyd yn wynebu tuag allan gyda'u cynffonnau at i mewn. | |
II C | WelBeibl | 4:5 | Roedd y basn tua lled dwrn o drwch, ac roedd ei ymyl fel ymyl cwpan siâp blodyn lili. Roedd yn dal tua saith deg mil litr o ddŵr. | |
II C | WelBeibl | 4:6 | Gwnaeth ddeg dysgl bres hefyd, a gosod pump ar ochr y de a phump ar ochr y gogledd. Roedd yr offer i gyflwyno'r aberthau oedd i'w llosgi yn cael eu golchi yn y rhain, ond roedd yr offeiriaid yn ymolchi yn y basn mawr oedd yn cael ei alw ‛Y Môr‛. | |
II C | WelBeibl | 4:7 | Yna dyma fe'n gwneud deg stand aur i ddal lampau, yn unol â'r patrwm, a'u gosod yn y deml. Roedd pump ar yr ochr dde a phump ar y chwith. | |
II C | WelBeibl | 4:8 | Ac yna dyma fe'n gwneud deg bwrdd, a gosod y rhain yn y deml, pump ar yr ochr dde a phump ar y chwith. Gwnaeth gant o fowlenni aur hefyd. | |
II C | WelBeibl | 4:9 | Wedyn, dyma fe'n gwneud iard yr offeiriaid a'r cwrt mawr a'r drysau oedd wedi'u gorchuddio gyda pres. | |
II C | WelBeibl | 4:11 | Huram wnaeth y bwcedi lludw, y rhawiau a'r powlenni taenellu hefyd. Gorffennodd y cwbl o'r gwaith roedd y Brenin Solomon wedi'i roi iddo i'w wneud ar deml Dduw. | |
II C | WelBeibl | 4:12 | Roedd wedi gwneud: y ddau biler, y capiau i'w gosod ar ben y ddau biler, dau set o batrymau wedi'u plethu i fynd dros y capiau, | |
II C | WelBeibl | 4:13 | pedwar cant o bomgranadau i'w gosod yn ddwy res ar y ddau set o batrymau oedd wedi'u plethu ar y capiau ar ben y pileri. | |
II C | WelBeibl | 4:16 | a hefyd y bwcedi lludw, y rhawiau a'r ffyrc. Roedd yr holl gelfi yma wnaeth Huram i'r Brenin Solomon ar gyfer teml yr ARGLWYDD wedi'u gwneud o bres gloyw. | |
II C | WelBeibl | 4:17 | Roedd y cwbl wedi cael eu castio mewn clai yn y ffowndri sydd rhwng Swccoth a Sereda, wrth afon Iorddonen. | |
II C | WelBeibl | 4:18 | Gwnaeth Solomon gymaint o'r pethau yma, doedd dim posib gwybod beth oedd eu pwysau. | |
II C | WelBeibl | 4:19 | Dyma Solomon yn gwneud yr holl bethau yma ar gyfer teml yr ARGLWYDD hefyd: yr allor aur, a'r byrddau roedden nhw'n rhoi'r bara arno oedd i'w osod o flaen Duw, | |
II C | WelBeibl | 4:20 | y canwyllbrennau o aur pur, a'u lampau yn llosgi yn ôl y ddefod, wrth y fynedfa i'r gell fewnol gysegredig. | |