Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II CHRONICLES
Prev Up Next
Chapter 34
II C WelBeibl 34:1  Wyth oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri deg un o flynyddoedd.
II C WelBeibl 34:2  Roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD, ac yn dilyn esiampl y Brenin Dafydd, ei hynafiad, heb grwydro oddi wrth hynny o gwbl.
II C WelBeibl 34:3  Pan oedd wedi bod yn frenin am wyth mlynedd, ac yn dal yn fachgen ifanc un deg chwech oed, dechreuodd addoli Duw fel y Brenin Dafydd. Yna pan oedd yn ugain oed aeth ati i lanhau a phuro Jwda a Jerwsalem drwy gael gwared â'r holl allorau lleol, polion y dduwies Ashera, y delwau cerrig a'r delwau o fetel tawdd.
II C WelBeibl 34:4  Gorchmynnodd fod allorau Baal i gael eu chwalu, a'r allorau arogldarth uwch eu pennau. Cafodd polion y dduwies Ashera eu torri i lawr, a'r eilunod a'r delwau o fetel eu malu. Roedden nhw'n eu malu'n llwch mân, ac yna'n taflu'r llwch ar feddau'r bobl oedd wedi bod yn aberthu arnyn nhw.
II C WelBeibl 34:5  Yna cafodd esgyrn yr offeiriaid paganaidd eu llosgi ar eu hallorau eu hunain. Ar ôl puro Jwda a Jerwsalem,
II C WelBeibl 34:6  dyma fe'n gwneud yr un fath yn y trefi ac adfeilion y pentrefi o'u cwmpas yn ardaloedd Manasse, Effraim a Simeon, a chyn belled a Nafftali.
II C WelBeibl 34:7  Chwalodd yr allorau a'r polion Ashera, malu'r delwau yn llwch mân, a dinistrio'r allorau arogldarth drwy diroedd gwlad Israel i gyd. Yna aeth yn ôl i Jerwsalem.
II C WelBeibl 34:8  Pan oedd wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd roedd yn dal i buro'r wlad a'r deml. Anfonodd Shaffan fab Atsaleia, gyda Maaseia, rheolwr y ddinas a Ioach fab Ioachas y cofnodydd, i atgyweirio teml yr ARGLWYDD ei Dduw.
II C WelBeibl 34:9  Dyma nhw'n mynd at Chilceia, yr archoffeiriad, a rhoi'r arian oedd wedi'i gasglu yn y deml iddo. Roedd y Lefiaid oedd yn gwarchod y drysau wedi'i gasglu gan bobl Manasse ac Effraim, a phawb oedd ar ôl yn Israel, a hefyd pobl Jwda, Benjamin a'r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem.
II C WelBeibl 34:10  A dyma nhw'n ei basio ymlaen i'r rhai oedd yn goruchwylio'r gwaith ar y deml, i dalu'r gweithwyr oedd yn gwneud y gwaith atgyweirio.
II C WelBeibl 34:11  Cafodd yr arian ei roi i'r seiri coed a'r adeiladwyr i brynu cerrig wedi'u naddu, a choed ar gyfer y trawstiau a'r distiau, i atgyweirio'r adeiladau roedd brenhinoedd Jwda wedi'u hesgeuluso.
II C WelBeibl 34:12  Roedd y gweithwyr yn onest ac yn gydwybodol. Lefiaid oedd yn goruchwylio – Iachath ac Obadeia oedd yn ddisgynyddion Merari, a Sechareia a Meshwlam yn ddisgynyddion i Cohath. Roedd Lefiaid eraill oedd yn gerddorion dawnus
II C WelBeibl 34:13  yn goruchwylio'r labrwyr a'r gweithwyr eraill. Roedd rhai o'r Lefiaid yn ysgrifenyddion, neu yn swyddogion neu yn gofalu am y drysau.
II C WelBeibl 34:14  Wrth iddyn nhw ddod â'r arian oedd wedi'i roi yn y deml allan, dyma Chilceia yr offeiriad yn ffeindio sgrôl o'r Gyfraith roddodd yr ARGLWYDD i Moses.
II C WelBeibl 34:15  Felly dyma Chilceia'n dweud wrth Shaffan yr ysgrifennydd, “Dw i wedi ffeindio sgrôl o'r Gyfraith yn y deml!” A dyma fe'n rhoi'r sgrôl i Shaffan.
II C WelBeibl 34:16  Yna dyma Shaffan yn mynd â'r sgrôl a dweud wrth y brenin, “Mae dy weision wedi gwneud popeth wnest ti ddweud wrthyn nhw.
II C WelBeibl 34:17  Maen nhw wedi cyfri'r arian oedd yn y deml, ac wedi'i drosglwyddo i'r dynion sy'n goruchwylio ac i'r gweithwyr.”
II C WelBeibl 34:18  Yna aeth Shaffan yn ei flaen i ddweud wrth y brenin, “Mae Chilceia'r offeiriad wedi rhoi'r sgrôl yma i mi.” A dyma fe'n darllen ohoni i'r brenin.
II C WelBeibl 34:19  Pan glywodd y brenin eiriau'r Gyfraith, dyma fe'n rhwygo'i ddillad.
II C WelBeibl 34:20  Yna dyma fe'n galw am Chilceia, Achicam fab Shaffan, Abdon fab Micha, Shaffan yr ysgrifennydd ac Asaia ei was personol.
II C WelBeibl 34:21  A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Ewch i holi'r ARGLWYDD ar fy rhan i a'r bobl sydd ar ôl yn Israel a Jwda, am beth mae'r sgrôl yma'n ddweud. Mae'r ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda ni am fod ein hynafiaid heb fod yn ufudd iddo a gwneud beth mae'r sgrôl yma'n ddweud.”
II C WelBeibl 34:22  Felly dyma Chilceia a'r rhai eraill ddewisodd y brenin yn mynd at Hulda y broffwydes. Roedd hi'n wraig i Shalwm (mab Ticfa ac ŵyr Chasra) oedd yn gofalu am y gwisgoedd. Roedd hi'n byw yn Jerwsalem yn y rhan newydd o'r ddinas. A dyma nhw'n dweud yr hanes wrthi.
II C WelBeibl 34:23  Yna dyma hi'n dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dwedwch wrth y dyn wnaeth eich anfon chi ata i
II C WelBeibl 34:24  mod i'n mynd i ddod â dinistr ofnadwy ar y wlad yma ac ar y bobl sy'n byw yma. Bydd yn union fel mae'r melltithion yn y sgrôl sydd wedi'i darllen i frenin Jwda yn dweud.
II C WelBeibl 34:25  Dw i wedi gwylltio'n lân gyda nhw, a does dim yn mynd i newid hynny. Maen nhw wedi bod yn llosgi arogldarth i dduwiau eraill, a'm gwylltio i gyda'r delwau maen nhw wedi'u gwneud.’
II C WelBeibl 34:26  Ond dwedwch hefyd wrth frenin Jwda, sydd wedi'ch anfon chi i holi'r ARGLWYDD, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am beth rwyt ti wedi'i glywed:
II C WelBeibl 34:27  “Am dy fod ti wedi teimlo i'r byw ac edifarhau pan glywaist ti fy mod i wedi rhybuddio'r lle yma; am dy fod ti wedi edifarhau a rhwygo dy ddillad ac wylo o mlaen i, dw i wedi gwrando,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
II C WelBeibl 34:28  “Cei di farw a chael dy gladdu mewn heddwch. Fydd dim rhaid i ti fyw i weld y dinistr ofnadwy fydd yn dod ar y wlad yma a'i phobl.”’” A dyma'r dynion yn mynd â'r neges yn ôl i'r brenin.
II C WelBeibl 34:29  Dyma'r brenin Joseia yn galw arweinwyr Jwda i gyd at ei gilydd yn Jerwsalem.
II C WelBeibl 34:30  Yna dyma fe'n mynd i'r deml, ac roedd pobl Jwda a Jerwsalem, yr offeiriaid a'r Lefiaid gydag e. Roedd pawb yno, o'r ifancaf i'r hynaf. Yna dyma sgrôl yr ymrwymiad oedd wedi'i darganfod yn y deml yn cael ei darllen yng nghlyw pawb.
II C WelBeibl 34:31  A dyma'r brenin yn sefyll yn ei le ac addo o flaen yr ARGLWYDD, i wneud ei orau glas i ddilyn yr ARGLWYDD a chadw'i orchmynion, ei ofynion a'i reolau. Roedd yn addo cadw amodau'r ymrwymiad oedd yn y sgrôl.
II C WelBeibl 34:32  A dyma fe'n galw ar bawb yn Jerwsalem a Benjamin i wneud yr un fath. Gwnaeth pobl Jerwsalem hynny, ac adnewyddu'r ymrwymiad gyda Duw eu hynafiaid.
II C WelBeibl 34:33  Felly dyma Joseia'n cael gwared a'r holl bethau ffiaidd oedd yn Israel, ac annog pobl Israel i gyd i addoli'r ARGLWYDD eu Duw. A tra buodd e'n frenin wnaethon nhw ddim stopio addoli'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.