II CHRONICLES
Chapter 5
II C | WelBeibl | 5:1 | Wedi i Solomon orffen adeiladu'r deml i'r ARGLWYDD, dyma fe'n dod â'r holl bethau roedd ei dad Dafydd wedi'u cysegru i Dduw (arian, aur a chelfi eraill), a'u rhoi yn stordai teml Dduw. | |
II C | WelBeibl | 5:2 | Yna dyma Solomon yn galw arweinwyr Israel (pennaeth pob llwyth a phob teulu) ato i Jerwsalem. Roedd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD i gael ei symud o Ddinas Dafydd (sef Seion) i'w chartref newydd yn y deml. | |
II C | WelBeibl | 5:3 | Roedd pobl Israel i gyd wedi dod at y brenin adeg Gŵyl y Pebyll yn y seithfed mis. | |
II C | WelBeibl | 5:4 | Wedi i'r arweinwyr i gyd gyrraedd, dyma'r seremoni yn dechrau. Dyma'r Lefiaid yn codi'r Arch. | |
II C | WelBeibl | 5:5 | Yna dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cario Arch Duw, pabell presenoldeb Duw a'r holl gelfi cysegredig oedd yn y babell. | |
II C | WelBeibl | 5:6 | Roedd y Brenin Solomon, a holl bobl Israel oedd gydag e, yn mynd o flaen yr Arch ac yn aberthu defaid a gwartheg i Dduw. Cafodd cymaint o anifeiliaid eu haberthu roedd hi'n amhosibl eu cyfri i gyd! | |
II C | WelBeibl | 5:7 | Dyma'r offeiriaid yn mynd ag Arch Ymrwymiad Duw i mewn i'r deml a'i gosod yn ei lle yn y gell fewnol, sef y Lle Mwyaf Sanctaidd, o dan adenydd y cerwbiaid. | |
II C | WelBeibl | 5:8 | Roedd adenydd y cerwbiaid wedi'u lledu dros ble roedd yr Arch yn eistedd. Roedd eu hadenydd yn cysgodi'r Arch a'i pholion. | |
II C | WelBeibl | 5:9 | Ond roedd y polion mor hir, roedd hi'n bosibl gweld eu pennau nhw o'r ystafell o flaen y Gell Gysegredig Fewnol; ond doedden nhw ddim i'w gweld o'r tu allan. Maen nhw yno hyd heddiw. | |
II C | WelBeibl | 5:10 | Does yna ddim byd yn yr Arch ond y ddwy lechen roedd Moses wedi'u rhoi ynddi yn Sinai, sef llechi'r ymrwymiad roedd yr ARGLWYDD wedi'i wneud gyda phobl Israel pan ddaeth â nhw allan o'r Aifft. | |
II C | WelBeibl | 5:11 | Dyma'r offeiriaid yn dod allan o'r Lle Sanctaidd. Roedd pob un ohonyn nhw, o bob grŵp, wedi cysegru eu hunain. | |
II C | WelBeibl | 5:12 | Roedd yr holl Lefiaid oedd yn gerddorion – Asaff, Heman a Iedwthwn, gyda'u meibion a'u brodyr – yn gwisgo dillad o liain main gwyn. Roedden nhw'n sefyll i'r dwyrain o'r allor yn canu eu symbalau, nablau a thelynau. Wrth eu hymyl roedd cant dau ddeg o offeiriaid yn canu utgyrn. | |
II C | WelBeibl | 5:13 | Roedd y cerddorion a'r trwmpedwyr fel un, yn canu gyda'i gilydd i roi mawl a diolch i'r ARGLWYDD. I gyfeiliant yr utgyrn, y symbalau a'r offerynnau eraill, roedd pawb yn moli'r ARGLWYDD a chanu'r geiriau, “Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!” Tra oedden nhw'n canu fel hyn daeth cwmwl a llenwi'r deml. | |