II CHRONICLES
Chapter 12
II C | WelBeibl | 12:1 | Pan oedd teyrnas Rehoboam wedi'i sefydlu a'i chryfhau, dyma fe a phobl Jwda i gyd yn troi cefn ar gyfraith yr ARGLWYDD. | |
II C | WelBeibl | 12:2 | Felly, yn ystod pumed flwyddyn Rehoboam fel brenin dyma Shishac, brenin yr Aifft, yn ymosod ar Jerwsalem. Roedden nhw wedi bod yn anffyddlon i'r ARGLWYDD. | |
II C | WelBeibl | 12:3 | Roedd gan Shishac 1,200 o gerbydau rhyfel, 60,000 o farchogion, a gormod o filwyr i'w cyfrif! Roedden nhw wedi dod gydag e o'r Aifft, ac yn cynnwys milwyr o Libia, Swccoth ac Affrica. | |
II C | WelBeibl | 12:5 | Roedd Rehoboam ac arweinwyr Jwda wedi dod at ei gilydd i Jerwsalem o achos ymosodiaid Shishac. Dyma'r proffwyd Shemaia yn mynd atyn nhw a dweud wrthyn nhw, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am eich bod chi wedi troi cefn arna i, dw i wedi troi cefn arnoch chi. Dw i'n mynd i adael i Shishac eich dal chi.’” | |
II C | WelBeibl | 12:6 | Yna dyma arweinwyr Israel a'r brenin yn cyfaddef eu bai a dweud, “Mae'r ARGLWYDD yn iawn.” | |
II C | WelBeibl | 12:7 | Pan welodd yr ARGLWYDD eu bod nhw wedi syrthio ar eu bai, dyma fe'n rhoi'r neges yma i Shemaia: “Am eu bod wedi syrthio ar eu bai wna i ddim eu dinistrio nhw. Cân nhw eu hachub yn fuan. Dw i ddim yn mynd i ddefnyddio Shishac i dywallt fy llid ar Jerwsalem. | |
II C | WelBeibl | 12:8 | Ond er hynny bydd rhaid iddyn nhw fod yn weision iddo, a byddan nhw'n dod i ddeall y gwahaniaeth rhwng fy ngwasanaethu i a gwasanaethu teyrnasoedd y byd.” | |
II C | WelBeibl | 12:9 | Felly dyma Shishac, brenin yr Aifft, yn ymosod ar Jerwsalem, a dwyn trysorau teml yr ARGLWYDD a'r palas brenhinol – cymerodd y cwbl, gan gynnwys yr holl darianau aur roedd Solomon wedi'u gwneud! | |
II C | WelBeibl | 12:10 | Roedd rhaid i'r brenin Rehoboam wneud tarianau pres yn eu lle i'w rhoi i swyddogion y gwarchodlu brenhinol oedd yn amddiffyn y palas. | |
II C | WelBeibl | 12:11 | Roedd y gwarchodlu brenhinol yn eu defnyddio bob tro roedd y brenin yn mynd i'r deml, ond yna'n mynd â nhw'n ôl i ystafell y gwarchodlu. | |
II C | WelBeibl | 12:12 | Pan syrthiodd Rehoboam ar ei fai wnaeth yr ARGLWYDD ddim ei ddinistrio'n llwyr. Yna buodd pethau'n dda ar Jwda. | |
II C | WelBeibl | 12:13 | Dyma Rehoboam yn cryfhau ei deyrnas yn Jerwsalem. Roedd e'n bedwar deg un pan gafodd ei wneud yn frenin, a bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg a saith o flynyddoedd. Jerwsalem, y ddinas roedd yr ARGLWYDD wedi dewis byw ynddi o holl lwythau Israel. Enw mam Rehoboam oedd Naamâ, ac roedd hi'n dod o wlad Ammon. | |
II C | WelBeibl | 12:15 | Mae hanes Rehoboam, o'r dechrau i'r diwedd, a hanes ei deulu, i'w weld yn Negeseuon Shemaia y Proffwyd ac Ido y Gweledydd. Roedd Rehoboam yn rhyfela yn erbyn Jeroboam, brenin Israel, drwy gydol ei deyrnasiad. | |