II CHRONICLES
Chapter 28
II C | WelBeibl | 28:1 | Roedd Ahas yn ugain oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Ond wnaeth e ddim plesio'r ARGLWYDD fel gwnaeth y Brenin Dafydd. | |
II C | WelBeibl | 28:2 | Roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel. Yn waeth na hynny, gwnaeth ddelwau metel o dduwiau Baal, | |
II C | WelBeibl | 28:3 | aberthu iddyn nhw yn Nyffryn Ben-hinnom, a llosgi ei fab yn aberth – arferiad cwbl ffiaidd y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi'u gyrru allan o'r wlad o flaen Israel. | |
II C | WelBeibl | 28:4 | Roedd yn aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth ar yr allorau lleol ar y bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog. | |
II C | WelBeibl | 28:5 | Felly dyma'r ARGLWYDD yn gadael i frenin Syria ymosod arno a'i goncro. Cafodd llawer o'r bobl eu cymryd yn gaeth i Damascus. Wedyn dyma frenin Israel yn ei orchfygu hefyd, a chafodd llawer iawn o'i fyddin eu lladd. | |
II C | WelBeibl | 28:6 | Lladdwyd 120,000 o filwyr Jwda mewn un diwrnod gan fyddin Pecach fab Remaleia, brenin Israel. Digwyddodd hyn i gyd am fod Jwda wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. | |
II C | WelBeibl | 28:7 | Roedd Sichri, un o arwyr Effraim, wedi lladd Maaseia mab y brenin, Asricam prif swyddog y palas, ac Elcana y swyddog uchaf yn y deyrnas ar ôl y brenin ei hun. | |
II C | WelBeibl | 28:8 | Cymerodd yr Israeliaid 200,000 o bobl yn gaeth – gwragedd a phlant. Ac roedden nhw wedi dwyn lot fawr o bethau gwerthfawr hefyd a mynd â'r cwbl yn ôl i Samaria. | |
II C | WelBeibl | 28:9 | Roedd yna broffwyd i'r ARGLWYDD o'r enw Oded yn Samaria. Dyma fe'n mynd i gyfarfod y fyddin wrth iddyn nhw gyrraedd y ddinas, a dwedodd wrthyn nhw, “Gwrandwch. Roedd yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi digio gyda Jwda, a gadawodd i chi eu trechu nhw. Ond dych chi wedi mynd dros ben llestri, a lladd yn gwbl ddidrugaredd, ac mae Duw wedi sylwi. | |
II C | WelBeibl | 28:10 | A dyma chi nawr yn bwriadu gorfodi pobl Jwda a Jerwsalem i fod yn gaethweision a chaethferched i chi. Ydych chi hefyd ddim wedi gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw? | |
II C | WelBeibl | 28:11 | Nawr, gwrandwch arna i. Anfonwch y rhai dych chi wedi'u cymryd yn gaeth yn ôl adre. Mae'r ARGLWYDD wedi gwylltio gyda chi.” | |
II C | WelBeibl | 28:12 | Yna dyma rai o arweinwyr Effraim (sef Asareia fab Iehochanan, Berecheia fab Meshilemoth, Iechisceia fab Shalwm ac Amasa fab Hadlai), yn mynd i wynebu'r rhai oedd wedi dod yn ôl o'r frwydr. | |
II C | WelBeibl | 28:13 | Dyma nhw'n dweud wrthyn nhw, “Gewch chi ddim dod â'r bobl gymeroch chi'n gaethion yma, i'n gwneud ni'n euog hefyd. Mae'r ARGLWYDD wedi digio gydag Israel fel y mae hi, heb fynd i wneud pethau'n waeth.” | |
II C | WelBeibl | 28:14 | Felly o flaen yr arweinwyr a phawb dyma'r milwyr yn rhyddhau'r bobl oedd wedi'u cymryd yn gaeth, a rhoi popeth roedden nhw wedi'i gymryd yn ysbail yn ôl. | |
II C | WelBeibl | 28:15 | Cafodd dynion eu dewis i ofalu am y bobl. Dyma nhw'n ffeindio dillad o'r ysbail i'r rhai oedd yn noeth eu gwisgo, rhoi sandalau, bwyd a diod iddyn nhw, ac olew i'w rwbio ar eu croen. Yna dyma nhw'n rhoi pawb oedd yn methu cerdded ar asynnod, a mynd â nhw i gyd yn ôl at eu perthnasau i Jericho, dinas y palmwydd. Wedyn dyma'r dynion yn dod yn ôl adre i Samaria. | |
II C | WelBeibl | 28:18 | Roedd y Philistiaid hefyd wedi bod yn ymosod ar drefi Jwda yn yr iseldir a'r Negef. Roedden nhw wedi concro a setlo yn Beth-shemesh, Aialon a Gederoth, a hefyd Socho, Timna a Gimso a'r pentrefi o'u cwmpas. | |
II C | WelBeibl | 28:19 | Roedd yr ARGLWYDD yn dysgu gwers i Jwda am fod Ahas yn anffyddlon i'r ARGLWYDD ac wedi gadael i bethau fynd allan o reolaeth yn llwyr. | |
II C | WelBeibl | 28:20 | Daeth Tiglath-pileser brenin Asyria ato, ond gwnaeth bethau'n waeth iddo yn lle ei helpu. | |
II C | WelBeibl | 28:21 | Cymerodd Ahas drysorau o'r deml, y palas, ac o dai ei swyddogion a rhoi'r cwbl i frenin Asyria. Ond wnaeth hynny ddim ei helpu e. | |
II C | WelBeibl | 28:22 | Drwy'r holl drafferthion i gyd roedd Ahas yn mynd o ddrwg i waeth, ac yn fwy anffyddlon nag erioed. | |
II C | WelBeibl | 28:23 | Dechreuodd aberthu i dduwiau Damascus oedd wedi'i orchfygu. Roedd yn meddwl, “Gwnaeth duwiau Syria eu helpu nhw. Os gwna i aberthu iddyn nhw, falle y gwnân nhw fy helpu i.” Ond achosodd hynny ei gwymp e a Jwda gyfan. | |
II C | WelBeibl | 28:24 | Dyma Ahas yn casglu holl lestri'r deml a'u malu'n ddarnau. Yna dyma fe'n cau drysau teml yr ARGLWYDD a chodi allorau paganaidd ar gornel pob stryd yn Jerwsalem. | |
II C | WelBeibl | 28:25 | Cododd allorau lleol ym mhob tref yn Jwda i losgi arogldarth i dduwiau eraill. Roedd yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid, wedi gwylltio'n lân gydag e. | |
II C | WelBeibl | 28:26 | Mae gweddill hanes Ahas, a'r hyn wnaeth e, o'r dechrau i'r diwedd, i'w gweld yn y sgrôl Brenhinoedd Jwda ac Israel. | |