II CHRONICLES
Chapter 31
II C | WelBeibl | 31:1 | Pan oedd yr Ŵyl drosodd, dyma'r holl bobl oedd wedi bod yn bresennol yn mynd allan i drefi Jwda, Benjamin, Effraim a Manasse a malu'r colofnau cysegredig, torri i lawr bolion y dduwies Ashera a chwalu'r allorau lleol drwy holl Jwda. Wedyn dyma nhw i gyd yn mynd adre i'w trefi eu hunain. | |
II C | WelBeibl | 31:2 | Dyma Heseceia'n gosod yr offeiriaid a'r Lefiaid mewn grwpiau gwahanol i gyflawni eu dyletswyddau – sef cyflwyno'r offrymau i'w llosgi a'r offrymau i ofyn am fendith yr ARGLWYDD, ac i weini, rhoi diolch a chanu mawl wrth y giatiau i deml yr ARGLWYDD. | |
II C | WelBeibl | 31:3 | Roedd y brenin yn rhoi cyfran o'i anifeiliaid ei hun yn offrymau i'w llosgi'n llwyr bob bore a nos, ar y Sabothau, y lleuadau newydd ac unrhyw adegau eraill wedi'u pennu yn y Gyfraith. | |
II C | WelBeibl | 31:4 | Yna dyma fe'n gorchymyn i'r bobl oedd yn byw yn Jerwsalem i gyfrannu siâr yr offeiriaid a'r Lefiaid fel roedd Cyfraith yr ARGLWYDD yn dweud. | |
II C | WelBeibl | 31:5 | Pan glywodd pobl Israel hyn dyma nhw'n ymateb drwy ddod â'r gyfran gyntaf o'r ŷd, sudd grawnwin, olew olewydd, mêl a phopeth arall oedd yn tyfu yn eu caeau. Daethon nhw â lot fawr o stwff – un rhan o ddeg o bopeth. | |
II C | WelBeibl | 31:6 | Roedd pobl Israel a Jwda oedd yn byw yn nhrefi Jwda hefyd yn cyfrannu un o bob deg o'u teirw a'u defaid, a phopeth arall roedden nhw wedi'i osod o'r neilltu i'w roi i'r ARGLWYDD. Cafodd y cwbl ei osod yn bentyrrau. | |
II C | WelBeibl | 31:7 | Dechreuodd y pentyrru yn y trydydd mis, ac roedd hi'r seithfed mis erbyn iddyn nhw orffen. | |
II C | WelBeibl | 31:8 | Pan welodd Heseceia a'i swyddogion yr holl bentyrrau, dyma nhw'n bendithio'r ARGLWYDD a'i bobl Israel. | |
II C | WelBeibl | 31:10 | A dyma Asareia yr archoffeiriad, oedd o deulu Sadoc, yn dweud “Ers i'r bobl ddechrau dod â rhoddion i'r deml dŷn ni wedi cael digonedd i'w fwyta, ac mae lot fawr dros ben. Mae'r ARGLWYDD wedi bendithio'i bobl, ac mae yna gymaint o stwff dros ben.” | |
II C | WelBeibl | 31:11 | Felly dyma Heseceia'n gorchymyn iddyn nhw baratoi stordai yn nheml yr ARGLWYDD. Dyma nhw'n gwneud felly, | |
II C | WelBeibl | 31:12 | a dod â'r offrymau, y degymau, a'r pethau oedd wedi'u cysegru i'r ARGLWYDD. Un o'r Lefiaid, Conaneia, oedd yn gyfrifol am y gwaith, a'i frawd Shimei yn ddirprwy iddo. | |
II C | WelBeibl | 31:13 | Yna dyma'r Brenin Heseceia ac Asareia, pennaeth y deml, yn trefnu i Iechiel, Asaseia, Nachath, Asahel, Ierimoth, Iosafad, Eliel, Ismacheia, Machat a Benaia i weithio oddi tanyn nhw. | |
II C | WelBeibl | 31:14 | Core fab Imna, Lefiad oedd yn gwarchod y giât ddwyreiniol, oedd yn gyfrifol am yr offrymau gwirfoddol. Fe hefyd oedd i ddosbarthu'r rhoddion oedd wedi'u cyflwyno i'r ARGLWYDD, a'r eitemau wedi'u cysegru. | |
II C | WelBeibl | 31:15 | Wedyn roedd Eden, Miniamîn, Ieshŵa, Shemaia, Amareia a Shechaneia yn ei helpu yn nhrefi'r offeiriad. Roedden nhw i fod i rannu'r rhoddion yn deg rhwng y gwahanol deuluoedd o offeiriaid, ifanc a hen fel ei gilydd. | |
II C | WelBeibl | 31:16 | Roedd pob gwryw oedd dros dair oed ar y cofrestrau teuluol i dderbyn rhoddion – y rhai fyddai yn eu tro yn mynd i deml yr ARGLWYDD i gyflawni dyletswyddau'r grŵp roedden nhw'n perthyn iddi. | |
II C | WelBeibl | 31:17 | Hefyd yr offeiriaid oedd wedi'u rhestru yn y cofrestrau teuluol, a'r Lefiaid oedd dros ugain oed ac wedi'u rhestru yn ôl eu dyletswyddau a'u grwpiau. | |
II C | WelBeibl | 31:18 | A'r plant lleiaf hefyd, y gwragedd, a'r meibion a'r merched i gyd – pawb oedd ar y cofrestrau teuluol. Roedden nhw i gyd wedi bod yn ffyddlon a chysegru eu hunain. | |
II C | WelBeibl | 31:19 | Wedyn roedd rhai wedi cael eu dewis ym mhob tref i rannu eu siâr i ddisgynyddion Aaron, sef yr offeiriad oedd yn byw yn yr ardal o gwmpas pob tref. Roedd pob gwryw o deulu offeiriadol a phob un o'r Lefiaid oedd ar y cofrestrau teuluol i gael eu siâr. | |
II C | WelBeibl | 31:20 | Trefnodd y Brenin Heseceia fod hyn i ddigwydd drwy Jwda gyfan. Gwnaeth beth oedd yn dda; gwnaeth y peth iawn; ac roedd yn ffyddlon yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw. | |