Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II CORINTHIANS
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13
Prev Up Next
Chapter 7
II C WelBeibl 7:1  Felly ffrindiau annwyl, am fod Duw wedi addo'r pethau yma i ni, gadewch i ni lanhau'n hunain o unrhyw beth allai'n gwneud ni'n aflan. Am fod Duw i'w ofni, gadewch i ni gyrraedd at y nod o roi'n hunain iddo yn bobl lân.
II C WelBeibl 7:2  Derbyniwch ni. Wnaethon ni ddim cam â neb, na gwneud niwed i neb, na chymryd mantais o neb.
II C WelBeibl 7:3  Dw i ddim yn ceisio gweld bai arnoch chi drwy ddweud hyn. Fel dwedais i, dych chi'n sbesial iawn yn ein golwg ni. Fydd ein cariad ni ddim llai, doed a ddelo – byw neu farw
II C WelBeibl 7:4  Mae gen i hyder ynoch chi. Dw i wir yn falch ohonoch chi. Dw i wedi fy nghalonogi'n fawr. Dw i'n wirioneddol hapus er gwaetha'r holl drafferthion.
II C WelBeibl 7:5  Beth bynnag, pan gyrhaeddon ni dalaith Macedonia chawson ni ddim llonydd wedyn. Roedd trafferthion bob cam o'r ffordd! Gwrthwynebiad pobl o'r tu allan, ac ofnau o'n mewn ni.
II C WelBeibl 7:6  Ond mae Duw'n cysuro'r rhai sy'n ddigalon, a dyma fe'n ein cysuro ni pan ddaeth Titus aton ni.
II C WelBeibl 7:7  Roedd yn braf ei weld, ond hefyd i gael deall fel roeddech chi wedi'i gysuro fe. Roedd yn dweud fod gynnoch chi hiraeth amdanon ni, eich bod chi'n sori am beth ddigwyddodd, ac yn wirioneddol awyddus i bethau fod yn iawn rhyngon ni. Rôn i'n hapusach fyth wedyn!
II C WelBeibl 7:8  Dw i ddim yn sori mod i wedi anfon y llythyr, er ei fod wedi'ch brifo chi. Rôn i yn sori i ddechrau, wrth weld eich bod chi wedi cael eich brifo. Ond doedd hynny ddim ond dros dro.
II C WelBeibl 7:9  Felly dw i'n hapus bellach – dim am i chi gael eich gwneud yn drist, ond am fod hynny wedi gwneud i chi newid eich ffyrdd. Dyna'r math o dristwch mae Duw eisiau ei weld, felly wnaethon ni ddim drwg i chi.
II C WelBeibl 7:10  Mae'r math o dristwch mae Duw am ei weld yn gwneud i bobl newid eu ffyrdd a chael eu hachub. Dydy hynny byth yn rhywbeth i'w ddifaru! Ond dydy teimlo'n annifyr am rywbeth, heb droi at Dduw, ddim ond yn arwain i farwolaeth ysbrydol.
II C WelBeibl 7:11  Edrychwch beth mae'r tristwch mae Duw'n edrych amdano wedi'i wneud ynoch chi: mae wedi creu brwdfrydedd ac awydd i sortio'r peth allan, ac wedi'ch gwneud chi mor ddig fod y fath beth wedi digwydd. Mae wedi creu y fath barch ata i, y fath hiraeth amdana i, y fath sêl, y fath barodrwydd i gosbi'r troseddwr. Drwy'r cwbl i gyd dych wedi profi fod dim bai arnoch chi.
II C WelBeibl 7:12  Felly, roeddwn i'n ysgrifennu atoch chi fel gwnes i, dim i ddelio gyda'r un wnaeth y drwg, nac i ddangos fy mod i fy hun wedi cael cam. Rôn i'n ysgrifennu er eich mwyn chi! – i chi weld drosoch eich hunain mor bwysig ydy'n perthynas ni. Mae Duw'n gwybod!
II C WelBeibl 7:13  Felly dŷn ni wedi cael ein calonogi'n fawr! Ond yn fwy na hynny, roedden ni'n arbennig o falch o weld mor hapus oedd Titus. Cafodd y fath groeso gynnoch chi i gyd, ac mae wedi codi ei galon yn fawr.
II C WelBeibl 7:14  Rôn i wedi bod yn brolio amdanoch chi wrtho, a wnaethoch chi ddim fy siomi i. Yn union fel mae popeth dŷn ni wedi'i ddweud wrthoch chi'n wir, mae beth ddwedon ni amdanoch chi wrth Titus wedi troi allan i fod yn wir hefyd.
II C WelBeibl 7:15  Mae wedi dod mor hoff ohonoch chi. Mae e'n cofio sut fuoch chi i gyd mor ufudd, a dangos y fath barch a chonsýrn.
II C WelBeibl 7:16  Dw i'n hapus iawn, am fy mod i'n gallu ymddiried yn llwyr ynoch chi.