II CORINTHIANS
Chapter 5
| II C | WelBeibl | 5:1 | Mae'r amser yn dod pan fydd y babell ddaearol dŷn ni'n byw ynddi (sef ein corff) yn cael ei thynnu i lawr. Ond dŷn ni'n gwybod fod gan Dduw adeilad ar ein cyfer ni – cartref parhaol yn y nefoedd wedi'i adeiladu ganddo fe'i hun. | |
| II C | WelBeibl | 5:4 | Tra'n byw yn y babell ddaearol, dŷn ni'n griddfan ac yn gorfod cario beichiau. Ond dŷn ni ddim am fod yn noeth a heb gorff – dŷn ni eisiau gwisgo'r corff nefol. Dŷn ni eisiau i'r corff marwol sydd gynnon ni gael ei lyncu gan y bywyd sy'n para am byth. | |
| II C | WelBeibl | 5:5 | Mae Duw ei hun wedi'n paratoi ni ar gyfer hyn, ac wedi rhoi'r Ysbryd Glân i ni yn flaendal o'r cwbl sydd i ddod. | |
| II C | WelBeibl | 5:6 | Felly dŷn ni'n gwbl hyderus, ac yn deall ein bod oddi cartref tra'n byw yn ein corff daearol, ac wedi'n gwahanu oddi wrth yr Arglwydd Iesu. | |
| II C | WelBeibl | 5:8 | Dw i'n dweud eto ein bod ni'n gwbl hyderus o beth sydd i ddod. Er, wrth gwrs byddai'n well gynnon ni adael y corff hwn er mwyn cael bod adre gyda'r Arglwydd! | |
| II C | WelBeibl | 5:10 | Achos bydd pob un ohonon ni'n cael ein barnu gan y Meseia ryw ddydd. Bydd pawb yn derbyn beth mae'n ei haeddu am y ffordd mae wedi ymddwyn, pa un ai da neu ddrwg. | |
| II C | WelBeibl | 5:11 | Felly, am ein bod ni'n gwybod fod yr Arglwydd i'w ofni, dŷn ni'n ceisio perswadio pobl. Mae Duw yn gwybod sut rai ydyn ni, a dw i'n hyderus eich bod chi'n gwybod eich bod chi'n gallu'n trystio ni hefyd. | |
| II C | WelBeibl | 5:12 | Dim ceisio canmol ein hunain ydyn ni eto. Na, dim ond eisiau i chi fod yn falch ohonon ni. Dŷn ni eisiau i chi allu ateb y rhai sydd ddim ond yn ymfalchïo yn yr allanolion a ddim yn beth sydd yn y galon. | |
| II C | WelBeibl | 5:13 | Os ydyn ni'n ymddangos fel ffanatics, mae hynny am ein bod ar dân dros Dduw. Os ydyn ni'n siarad yn gall, mae hynny er eich lles chi. | |
| II C | WelBeibl | 5:14 | Cariad y Meseia sy'n ein gyrru ni'n ein blaenau. A dyma'n argyhoeddiad ni: mae un dyn wedi marw dros bawb, ac felly mae pawb wedi marw. | |
| II C | WelBeibl | 5:15 | Mae e wedi marw dros bawb er mwyn i'r rhai sy'n cael bywyd tragwyddol beidio byw i blesio nhw eu hunain o hyn allan. Maen nhw i fyw i blesio'r un fuodd farw drostyn nhw a chael ei godi yn ôl yn fyw eto. | |
| II C | WelBeibl | 5:16 | Bellach dŷn ni wedi stopio edrych ar bobl fel mae'r byd yn gwneud. Er ein bod ni ar un adeg wedi edrych ar y Meseia ei hun felly, dŷn ni ddim yn gwneud hynny mwyach. | |
| II C | WelBeibl | 5:17 | Pan mae rhywun yn dod yn Gristion mae wedi'i greu yn berson newydd: mae'r hen drefn wedi mynd! Edrychwch, mae bywyd newydd wedi cymryd ei le! | |
| II C | WelBeibl | 5:18 | A Duw sy'n gwneud y cwbl – mae wedi gwneud heddwch rhyngon ni ag e'i hun drwy beth wnaeth y Meseia. Ac mae wedi rhoi'r gwaith i ni o rannu'r neges gyda phobl eraill. | |
| II C | WelBeibl | 5:19 | Ydy, mae Duw wedi sicrhau heddwch rhyngddo fe'i hun â'r byd drwy beth wnaeth y Meseia. Dydy e ddim yn dal methiant pobl yn eu herbyn nhw! Ac mae wedi rhoi i ni'r gwaith o ddweud am hyn wrth bobl. | |
| II C | WelBeibl | 5:20 | Dŷn ni'n llysgenhadon yn cynrychioli'r Meseia, ac mae Duw yn anfon ei apêl allan trwon ni. Ar ran y Meseia, dŷn ni'n crefu arnoch chi: Dewch i berthynas newydd gyda Duw! | |