II CORINTHIANS
Chapter 12
II C | WelBeibl | 12:1 | Rhaid i mi ddal ati i frolio. Does dim i'w ennill o wneud hynny, ond dw i am fynd ymlaen i sôn am weledigaethau a phethau mae'r Arglwydd wedi'u dangos i mi. | |
II C | WelBeibl | 12:2 | Dw i'n gwybod am un o ddilynwyr y Meseia gafodd ei gipio i uchder y nefoedd bedair blynedd ar ddeg yn ôl. Wn i ddim a ddigwyddodd hynny'n gorfforol neu beidio – dim ond Duw sy'n gwybod. | |
II C | WelBeibl | 12:4 | wedi cael ei gymryd i baradwys, a'i fod wedi clywed pethau sydd y tu hwnt i eiriau – does gan neb hawl i'w hailadrodd. | |
II C | WelBeibl | 12:5 | Dw i'n fodlon brolio am y person hwnnw, ond wna i ddim brolio amdana i fy hun – dim ond am beth sy'n dangos mod i'n wan. | |
II C | WelBeibl | 12:6 | Gallwn i ddewis brolio, a fyddwn i ddim yn actio'r ffŵl taswn i yn gwneud hynny, achos byddwn i'n dweud y gwir. Ond dw i ddim am wneud hynny, rhag i rywun feddwl yn rhy uchel ohono i – mwy na beth ddylen nhw. Dw i eisiau i'w barn nhw amdana i fod yn seiliedig ar beth maen nhw wedi fy ngweld i'n ei wneud neu'n ei ddweud. | |
II C | WelBeibl | 12:7 | Ond dw i wedi gorfod dioddef poenau corfforol (rhag i mi droi'n greadur rhy falch am fod Duw wedi datguddio pethau rhyfeddol i mi). Mae Satan wedi cael anfon negesydd i'm ffistio i. | |
II C | WelBeibl | 12:9 | ond ei ateb oedd, “Mae fy haelioni i'n hen ddigon i ti. Mae fy nerth i'n gweithio orau mewn gwendid.” Felly dw i'n hapus iawn i frolio am beth sy'n dangos mod i'n wan, er mwyn i nerth y Meseia ddal i weithio trwof fi. | |
II C | WelBeibl | 12:10 | Ydw, dw i'n falch fy mod i'n wan, yn cael fy sarhau, yn cael amser caled, yn cael fy erlid, ac weithiau'n anobeithio, er mwyn y Meseia. Achos pan dw i'n wan, mae gen i nerth go iawn. | |
II C | WelBeibl | 12:11 | Dw i wedi actio'r ffŵl, ond eich bai chi ydy hynny. Chi ddylai fod yn fy nghanmol i, achos dw i ddim yn israddol o gwbl i'r ‛ffansi-apostolion‛ yna. Er, dw i'n gwybod mod i'n neb. | |
II C | WelBeibl | 12:12 | Cafodd pethau sy'n dangos pwy ydy cynrychiolwyr go iawn y Meseia eu gwneud yn eich plith chi'n gyson, yn ogystal â gwyrthiau syfrdanol a phethau rhyfeddol eraill. | |
II C | WelBeibl | 12:13 | Wnes i lai i chi na wnes i i'r eglwysi eraill? Dim ond peidio bod yn faich ariannol arnoch chi! … O, maddeuwch i mi am wneud cam â chi! | |
II C | WelBeibl | 12:14 | Bellach dw i'n barod i ymweld â chi am y trydydd tro. A dw i ddim yn mynd i fod yn faich arnoch chi y tro yma chwaith. Chi sy'n bwysig i mi, nid eich arian chi! Rhieni sydd i gynnal eu plant; does dim disgwyl i'r plant gynilo er mwyn cynnal eu rhieni. | |
II C | WelBeibl | 12:15 | A dw i'n fwy na pharod i wario'r cwbl sydd gen i arnoch chi – a rhoi fy hun yn llwyr i chi. Ydych chi'n mynd i ngharu i'n llai am fy mod i'n eich caru chi gymaint? | |
II C | WelBeibl | 12:16 | Felly wnes i ddim eich llethu chi'n ariannol. Ond wedyn mae rhai'n dweud fy mod i mor slei! Maen nhw'n dweud fy mod i wedi llwyddo i'ch twyllo chi! | |
II C | WelBeibl | 12:17 | Sut felly? Wnes i ddefnyddio'r bobl anfonais i atoch chi i gymryd mantais ohonoch chi? | |
II C | WelBeibl | 12:18 | Dyma fi'n annog Titus i fynd i'ch gweld chi ac anfon ein brawd gydag e. Wnaeth Titus fanteisio arnoch chi? Na, mae ganddo fe yr un agwedd â mi, a dŷn ni'n ymddwyn yr un fath â'n gilydd. | |
II C | WelBeibl | 12:19 | Ydych chi'n meddwl ein bod ni wedi bod yn amddiffyn ein hunain o'ch blaen chi? Na, fel Cristnogion dŷn ni wedi bod yn siarad yn gwbl agored o flaen Duw, a hynny er mwyn eich cryfhau chi, ffrindiau annwyl. | |
II C | WelBeibl | 12:20 | Ond pan fydda i'n dod acw, mae gen i ofn y byddwch chi ddim yn ymddwyn fel y baswn i'n hoffi. Wedyn fydda i ddim yn ymateb fel y byddech chi'n hoffi! Mae gen i ofn y bydd yna ffraeo, cenfigennu, gwylltio ac uchelgais hunanol, pobl yn enllibio, hel straeon, yn llawn ohonyn nhw eu hunain ac yn creu anhrefn llwyr. | |