II CORINTHIANS
Chapter 8
II C | WelBeibl | 8:1 | Dw i eisiau dweud wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, am y ddawn o haelioni mae Duw wedi'i rhoi i'r eglwysi yn nhalaith Macedonia. | |
II C | WelBeibl | 8:2 | Er eu bod nhw wedi bod drwy amser caled ofnadwy, roedd eu llawenydd nhw'n gorlifo yng nghanol tlodi eithafol. Buon nhw'n anhygoel o hael! | |
II C | WelBeibl | 8:3 | Dw i'n dweud wrthoch chi eu bod nhw wedi rhoi cymaint ag oedden nhw'n gallu ei fforddio – do, a mwy! Nhw, ohonyn nhw'u hunain, | |
II C | WelBeibl | 8:4 | oedd yn pledio'n daer arnon ni am gael y fraint o rannu yn y gwaith o helpu Cristnogion Jerwsalem. | |
II C | WelBeibl | 8:5 | Dyma nhw'n gwneud llawer mwy nag oedden ni'n ei ddisgwyl, drwy roi eu hunain yn y lle cyntaf i'r Arglwydd, ac wedyn i ninnau hefyd. Dyna'n union oedd Duw eisiau iddyn nhw ei wneud! | |
II C | WelBeibl | 8:6 | I hyn dw i'n dod: dw i wedi annog Titus, gan mai fe ddechreuodd y gwaith da yma yn eich plith chi, i'ch helpu chi i orffen eich rhan chi yn y gwaith. | |
II C | WelBeibl | 8:7 | Mae gynnoch chi fwy na digon o ddoniau – ffydd, siaradwyr da, gwybodaeth, brwdfrydedd, a chariad aton ni. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi ar y blaen wrth roi'n hael hefyd. | |
II C | WelBeibl | 8:8 | Dim rhoi gorchymyn i chi ydw i. Ond dw i yn defnyddio brwdfrydedd pobl eraill fel maen prawf i weld pa mor real ydy'ch cariad chi. | |
II C | WelBeibl | 8:9 | A dych chi'n gwybod mor hael oedd yr Arglwydd Iesu Grist ei hun. Er ei fod e'n gyfoethog yng ngwir ystyr y gair, gwnaeth ei hun yn dlawd er eich mwyn chi! – a hynny er mwyn i chi ddod yn gyfoethog yn eich perthynas â Duw! | |
II C | WelBeibl | 8:10 | Dim ond eisiau awgrymu'r ffordd orau i ddelio gyda'r mater ydw i. Chi oedd y rhai cyntaf i benderfynu gwneud rhywbeth y flwyddyn ddiwethaf, a'r cyntaf i ddechrau arni. | |
II C | WelBeibl | 8:11 | Mae'n bryd i chi orffen y gwaith. Dangoswch yr un brwdfrydedd wrth wneud beth gafodd ei benderfynu. Rhowch gymaint ag y gallwch chi. | |
II C | WelBeibl | 8:12 | Os dych chi wir eisiau rhoi, rhowch chi beth allwch chi, a bydd hynny'n dderbyniol. Does dim disgwyl i chi roi beth sydd ddim gynnoch chi i'w roi! | |
II C | WelBeibl | 8:13 | Dw i ddim eisiau gwneud bywyd yn anodd i chi am eich bod chi'n rhoi i geisio helpu pobl eraill. Beth dw i eisiau ydy tegwch. | |
II C | WelBeibl | 8:14 | Ar hyn o bryd mae gynnoch chi hen ddigon, a gallwch chi helpu'r rhai sydd mewn angen. Wedyn byddan nhw'n gallu'ch helpu chi pan fyddwch chi angen help. Mae pawb yn gyfartal felly. | |
II C | WelBeibl | 8:15 | Fel mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd: “Doedd dim byd dros ben gan y rhai gasglodd lawer, a doedd y rhai gasglodd ychydig ddim yn brin.” | |
II C | WelBeibl | 8:17 | Mae e'n dod atoch chi dim yn unig am ein bod ni wedi gofyn iddo, ond am ei fod e'n frwd i wneud hynny ei hun – roedd e wir eisiau dod. | |
II C | WelBeibl | 8:18 | Dŷn ni'n anfon gydag e frawd sy'n cael ei ganmol yn yr eglwysi i gyd am ei waith yn cyhoeddi'r newyddion da. | |
II C | WelBeibl | 8:19 | Yn wir, mae e hefyd wedi cael ei ddewis gan yr eglwysi i fynd gyda ni pan fyddwn yn mynd â'r rhodd i Jerwsalem – rhodd sy'n anrhydeddu'r Arglwydd ei hun a hefyd yn dangos ein bod ni'n frwd i helpu. | |
II C | WelBeibl | 8:20 | Dŷn ni eisiau gwneud yn siŵr fod neb yn gallu'n beirniadu ni am y ffordd dŷn ni wedi delio gyda'r rhodd hael yma. | |
II C | WelBeibl | 8:21 | Dŷn ni am wneud beth sy'n iawn, dim yn unig yng ngolwg yr Arglwydd ei hun, ond yng ngolwg pawb arall hefyd. | |
II C | WelBeibl | 8:22 | Dŷn ni'n anfon brawd arall gyda nhw hefyd – un sydd wedi dangos lawer gwaith mor frwdfrydig ydy e. Ac mae'n fwy brwd fyth nawr gan ei fod yn ymddiried yn llwyr ynoch chi. | |
II C | WelBeibl | 8:23 | Os oes cwestiwn yn codi am Titus – fy mhartner i ydy e, yn gweithio gyda mi i'ch helpu chi. Os oes unrhyw gwestiwn am y brodyr eraill – nhw sy'n cynrychioli'r eglwysi ac maen nhw'n glod i'r Meseia ei hun. | |