Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II CORINTHIANS
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13
Prev Up Next
Chapter 9
II C WelBeibl 9:1  Does dim wir angen i mi ysgrifennu atoch chi am y casgliad yma i helpu Cristnogion Jerwsalem.
II C WelBeibl 9:2  Dw i'n gwybod eich bod chi'n awyddus i helpu. Dw i wedi bod yn sôn am y peth wrth bobl Macedonia, ac yn dweud wrthyn nhw eich bod chi yn nhalaith Achaia wedi bod yn barod ers y flwyddyn ddiwethaf. Clywed am eich brwdfrydedd chi sydd wedi ysgogi y rhan fwya ohonyn nhw i wneud rhywbeth!
II C WelBeibl 9:3  Ond dw i'n anfon y brodyr yma atoch chi er mwyn gwneud yn siŵr y bydd ein brolio ni amdanoch ddim yn troi allan i fod yn wag, ac y byddwch yn barod, fel dw i wedi dweud y byddwch chi.
II C WelBeibl 9:4  Os bydd rhai o dalaith Macedonia gyda ni pan ddown ni i'ch gweld chi, a darganfod eich bod chi ddim yn barod, byddwn ni, heb sôn amdanoch chi, yn teimlo cywilydd go iawn.
II C WelBeibl 9:5  Dyna pam o'n i'n teimlo bod rhaid anfon y brodyr atoch chi ymlaen llaw. Byddan nhw'n gallu gwneud trefniadau i dderbyn y rhodd dych chi wedi'i haddo. Bydd yn disgwyl amdanon ni wedyn fel rhodd sy'n dangos mor hael ydych chi, a dim fel rhywbeth wedi'i wasgu allan ohonoch chi.
II C WelBeibl 9:6  Cofiwch hyn: Os mai ychydig dych chi'n ei hau, bach fydd y cynhaeaf; ond os dych chi'n hau yn hael, cewch gynhaeaf mawr.
II C WelBeibl 9:7  Dylai pob un ohonoch chi roi o'i wirfodd, dim yn anfodlon neu am fod pwysau arnoch chi. Mae Duw'n mwynhau gweld pobl sydd wrth eu boddau yn rhoi.
II C WelBeibl 9:8  Mae Duw'n gallu rhoi mwy na digon o bethau'n hael i chi, er mwyn i chi fod â popeth sydd arnoch ei angen, a bydd digonedd dros ben i chi allu gwneud gwaith da bob amser.
II C WelBeibl 9:9  Fel mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd: “Mae'r duwiol yn rhoi yn hael i'r tlodion; bydd pobl yn cofio ei haelioni bob amser.”
II C WelBeibl 9:10  Duw sy'n rhoi'r had i'r heuwr a bwyd i bobl ei fwyta. Bydd yn cynyddu eich stôr chi o ‛had‛ ac yn gwneud i gynhaeaf eich gweithredoedd da chi lwyddo.
II C WelBeibl 9:11  Bydd yn eich gwneud chi'n gyfoethog ym mhob ffordd er mwyn i chi allu bod yn hael bob amser. Bydd llawer o bobl yn diolch i Dduw pan fyddwn ni'n mynd â'ch rhodd chi i Jerwsalem.
II C WelBeibl 9:12  Nid dim ond cwrdd ag angen pobl Dduw mae beth dych chi'n ei wneud – mae'n llawer mwy na hynny. Bydd yn gwneud i lawer o bobl ddweud diolch wrth Dduw.
II C WelBeibl 9:13  Bydd pobl yn moli Duw am fod eich haelioni chi wrth rannu gyda nhw a phawb arall yn profi eich bod chi'n ufudd i'r newyddion da dych wedi'i gredu am y Meseia.
II C WelBeibl 9:14  Byddan nhw'n gweddïo drosoch chi, ac yn hiraethu amdanoch chi, am fod Duw wedi'ch galluogi chi i fod mor hael.
II C WelBeibl 9:15  A diolch i Dduw am ei fod e wedi rhoi rhodd i ni sydd y tu hwnt i eiriau!