JOSHUA
Chapter 16
Josh | WelBeibl | 16:1 | Roedd y tir gafodd ei roi i ddisgynyddion Joseff yn ymestyn o afon Iorddonen gyferbyn â ffynnon Jericho, drwy'r anialwch, ac i fyny o Jericho i fryniau Bethel. | |
Josh | WelBeibl | 16:2 | Roedd y ffin yn y de yn ymestyn o Bethel i Lws, ac yn croesi i dir yr Arciaid yn Ataroth. | |
Josh | WelBeibl | 16:3 | Yna roedd yn mynd i lawr i'r gorllewin i dir y Jaffletiaid, yna i Beth-choron Isaf, Geser ac at Fôr y Canoldir. | |
Josh | WelBeibl | 16:5 | Y tir gafodd y teuluoedd oedd yn perthyn i lwyth Effraim: Roedd y ffin yn mynd o Atroth-adar yn y dwyrain i Beth-choron Uchaf, | |
Josh | WelBeibl | 16:6 | yna ymlaen at y Môr. O Michmethath yn y gogledd roedd ffin y dwyrain yn mynd heibio Taanath-Seilo i Ianoach. | |
Josh | WelBeibl | 16:7 | Wedyn roedd yn mynd i lawr o Ianoach i Ataroth a Naära, cyn cyffwrdd Jericho a mynd ymlaen at afon Iorddonen. | |
Josh | WelBeibl | 16:8 | O Tapŵach roedd yn mynd i gyfeiriad y gorllewin i Ddyffryn Cana, ac yna at y Môr. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Effraim. | |
Josh | WelBeibl | 16:9 | Roedd hefyd yn cynnwys rhai trefi oedd y tu mewn i diriogaeth Manasse, gyda'r pentrefi o'u cwmpas. | |