Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
AMOS
1 2 3 4 5 6 7 8 9
Prev Up Next
Chapter 2
Amos WelBeibl 2:1  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Moab wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw wedi cymryd esgyrn brenin Edom a'u llosgi nhw'n galch.
Amos WelBeibl 2:2  Felly bydda i'n anfon tân i losgi Moab, a dinistrio caerau amddiffynnol Cerioth. Bydd pobl Moab yn marw yn sŵn y brwydro, yng nghanol y bloeddio a sŵn y corn hwrdd yn seinio.
Amos WelBeibl 2:3  Bydda i'n cael gwared â'i brenin hi ac yn lladd ei holl swyddogion gydag e.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Amos WelBeibl 2:4  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Jwda wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw wedi troi'u cefnau ar gyfraith yr ARGLWYDD, a heb gadw'i orchmynion e. Maen nhw'n cael eu harwain ar gyfeiliorn gan y duwiau ffals oedd eu hynafiaid yn eu dilyn.
Amos WelBeibl 2:5  Felly bydda i'n anfon tân i losgi Jwda, a dinistrio caerau amddiffynnol Jerwsalem.”
Amos WelBeibl 2:6  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Israel wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw'n gwerthu'r dieuog am arian, a'r rhai mewn dyled am bâr o sandalau! –
Amos WelBeibl 2:7  sathru'r tlawd fel baw ar lawr, a gwthio'r gwan o'r ffordd! Ac mae dyn a'i dad yn cael rhyw gyda'r un gaethferch, ac yn amharchu fy enw glân i wrth wneud y fath beth.
Amos WelBeibl 2:8  Maen nhw'n gorwedd wrth ymyl yr allorau ar ddillad sydd wedi'u cadw'n warant am ddyled. Maen nhw'n yfed gwin yn nheml Duw – gwin wedi'i brynu gyda'r dirwyon roeson nhw i bobl!
Amos WelBeibl 2:9  Ac eto, fi wnaeth ddinistrio'r Amoriaid o flaen eich hynafiaid chi! – yr Amoriaid oedd yn dal fel cedrwydd ac yn gryf fel coed derw. Ond dyma fi'n eu torri nhw i lawr yn llwyr, o'u brigau uchaf i'w gwreiddiau!
Amos WelBeibl 2:10  Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft a'ch arwain chi drwy'r anialwch am bedwar deg o flynyddoedd, ac yna rhoi tir yr Amoriaid i chi!
Amos WelBeibl 2:11  Dewisais rai o'ch plant i fod yn broffwydi a rhai o'ch bechgyn ifanc i fod yn Nasareaid. Onid dyna ydy'r gwir, bobl Israel?” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Amos WelBeibl 2:12  “Ond bellach, dych chi'n gwneud i'r Nasareaid yfed gwin, ac yn dweud wrth y proffwydi am gau eu cegau!
Amos WelBeibl 2:13  Felly gwyliwch chi! Bydda i'n eich dal chi'n ôl, fel trol sydd ond yn gallu symud yn araf bach am fod llwyth trwm o ŷd arni.
Amos WelBeibl 2:14  Bydd y cyflymaf ohonoch chi'n methu dianc, a'r cryfaf yn teimlo'n hollol wan. Bydd y milwr yn methu amddiffyn ei hun,
Amos WelBeibl 2:15  a'r bwasaethwr yn methu dal ei dir. Bydd y rhedwr cyflyma'n methu dianc, a'r un sydd ar gefn ceffyl yn methu achub ei fywyd.
Amos WelBeibl 2:16  Bydd y milwyr mwyaf dewr yn gollwng eu harfau ac yn rhedeg i ffwrdd yn noeth ar y diwrnod hwnnw.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.