HOSEA
Chapter 1
Hose | WelBeibl | 1:1 | Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Hosea fab Beëri. Roedd yn proffwydo pan oedd Wseia, Jotham, Ahas a Heseceia yn frenhinoedd ar Jwda, a Jeroboam fab Jehoas, yn frenin ar Israel. | |
Hose | WelBeibl | 1:2 | Pan ddechreuodd yr ARGLWYDD siarad drwy Hosea, dwedodd wrtho: “Dos, a priodi gwraig sy'n puteinio. Bydd hi'n puteinio ac yn cael plant siawns. Mae fel y wlad yma, sy'n puteinio o hyd drwy droi cefn arna i, yr ARGLWYDD.” | |
Hose | WelBeibl | 1:3 | Felly dyma Hosea yn priodi Gomer, merch Diblaim. Dyma hi'n cael ei hun yn feichiog, ac yn geni mab iddo. | |
Hose | WelBeibl | 1:4 | A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Hosea, “Galw fe'n Jesreel, achos yn fuan iawn dw i'n mynd i gosbi llinach frenhinol Jehw am y tywallt gwaed yn Jesreel. Dw i'n mynd i ddod â theyrnas Israel i ben. | |
Hose | WelBeibl | 1:6 | Pan oedd Gomer yn disgwyl babi eto, dyma hi'n cael merch y tro yma. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Hosea, “Galw hi'n Lo-rwhama (sef ‛dim trugaredd‛). Fydda i'n dangos dim trugaredd at wlad Israel o hyn ymlaen. Maen nhw wedi fy mradychu i. | |
Hose | WelBeibl | 1:7 | Ond bydda i'n dangos trugaredd at wlad Jwda. Fi, yr ARGLWYDD eu Duw, fydd yn eu hachub nhw, nid arfau a grym milwrol a rhyfela.” | |
Hose | WelBeibl | 1:8 | Cyn gynted ag roedd Gomer wedi stopio bwydo Lo-rwhama ar y fron, roedd hi'n feichiog eto, a dyma hi'n cael mab arall. | |
Hose | WelBeibl | 1:9 | Dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Galw fe'n Lo-ammi (sef ‛dim fy mhobl‛). Achos dych chi ddim yn bobl i mi, a dw i ddim yn Dduw i chi.” | |
Hose | WelBeibl | 1:10 | Ond yn y dyfodol, bydd poblogaeth Israel fel y tywod ar lan y môr – yn amhosib i'w cyfrif. Yn yr union le lle dwedwyd wrthyn nhw, “Dych chi ddim yn bobl i mi” byddan nhw'n cael eu galw yn “blant y Duw byw”! | |