II CHRONICLES
Chapter 19
II C | WelBeibl | 19:2 | dyma'r proffwyd Jehw fab Chanani yn mynd i'w weld. Dyma fe'n dweud wrth y brenin, “Ydy'n iawn dy fod ti'n helpu'r dyn drwg yna, Ahab, a gwneud ffrindiau hefo pobl sy'n casáu yr ARGLWYDD? Mae'r ARGLWYDD wedi digio go iawn hefo ti am wneud y fath beth. | |
II C | WelBeibl | 19:3 | Ac eto ti wedi gwneud pethau da. Rwyt ti wedi cael gwared â pholion y dduwies Ashera o'r wlad ac wedi bod yn benderfynol o ddilyn yr ARGLWYDD.” | |
II C | WelBeibl | 19:4 | Roedd Jehosaffat yn byw yn Jerwsalem, ond roedd yn mynd allan at y bobl i bob rhan o'r wlad, o Beersheba i fryniau Effraim, i'w hannog nhw i droi'n ôl at yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid. | |
II C | WelBeibl | 19:6 | a dweud wrthyn nhw, “Gwyliwch beth dych chi'n wneud. Dim plesio pobl ydy'ch gwaith chi. Dych chi'n barnu ar ran yr ARGLWYDD, a bydd e gyda chi wrth i chi wneud hynny. | |
II C | WelBeibl | 19:7 | Dangoswch barch ato a gwneud beth sy'n iawn. Dydy'r ARGLWYDD ddim yn hoffi anghyfiawnder, dangos ffafriaeth na derbyn breib.” | |
II C | WelBeibl | 19:8 | Yn Jerwsalem dyma Jehosaffat hefyd yn penodi Lefiaid, offeiriaid a rhai o benaethiaid Israel i farnu ar ran yr ARGLWYDD ac i ddyfarnu unrhyw achosion rhwng y bobl. | |
II C | WelBeibl | 19:9 | Dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Rhaid i chi ddangos parch at yr ARGLWYDD a gwneud y gwaith yn onest ac yn ddidwyll. | |
II C | WelBeibl | 19:10 | Pan fydd eich pobl sy'n byw yn y pentrefi yn dod ag achos atoch, rhybuddiwch nhw i beidio pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. (Bydd achosion o dywallt gwaed a materion eraill yn ymwneud â'r gyfraith a deddfau a rheolau gwahanol.) Os na wnewch chi eu rhybuddio nhw bydd Duw yn ddig gyda chi a'ch cydweithwyr. Ond os byddwch chi'n ufudd, fyddwch chi ddim yn euog. | |
II C | WelBeibl | 19:11 | Amareia'r offeiriad fydd â'r gair olaf ar unrhyw fater yn ymwneud â cyfraith yr ARGLWYDD. A Sebadeia fab Ishmael, arweinydd llwyth Jwda, fydd yn delio gyda phopeth sy'n ymwneud â'r brenin. Bydd y Lefiaid yn gweithredu fel swyddogion gweinyddol. Gwnewch eich gwaith yn hyderus! Bydd yr ARGLWYDD gyda'r rhai sy'n gwneud job dda ohoni!” | |