Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II THESSALONIANS
1 2 3
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 2
II T WelBeibl 2:1  Gadewch i ni sôn am y ffaith fod yr Arglwydd Iesu Grist yn dod yn ôl, a sut fyddwn ni'n cael ein casglu ato.
II T WelBeibl 2:2  Ffrindiau annwyl, plîs peidiwch cynhyrfu na chael eich drysu gan bobl sy'n honni bod y diwrnod hwnnw eisoes wedi dod. Peidiwch cymryd sylw o unrhyw un sy'n mynnu mai dyna mae'r Ysbryd yn ei ddweud. A pheidiwch gwrando ar unrhyw stori neu lythyr sy'n dweud mai dyna dŷn ni'n ei gredu.
II T WelBeibl 2:3  Peidiwch gadael i neb eich twyllo chi. Cyn i'r diwrnod hwnnw ddod bydd y gwrthryfel mawr olaf yn erbyn Duw yn digwydd. Bydd yr un sy'n ymgorfforiad o ddrygioni yn dod i'r golwg, sef yr un sydd wedi'i gondemnio i gael ei ddinistrio gan Dduw.
II T WelBeibl 2:4  Dyma elyn mawr Duw, yr un sy'n meddwl ei fod yn well na'r bodau ysbrydol i gyd ac unrhyw ‛dduw‛ arall sy'n cael ei addoli. Yn y diwedd bydd yn gosod ei hun yn nheml y Duw byw, ac yn cyhoeddi mai fe ydy Duw.
II T WelBeibl 2:5  Ydych chi ddim yn cofio mod i wedi dweud hyn i gyd pan oeddwn i gyda chi?
II T WelBeibl 2:6  Dylech wybod, felly, am y grym sy'n ei ddal yn ôl rhag iddo ddod i'r golwg cyn i'r amser iawn gyrraedd.
II T WelBeibl 2:7  Wrth gwrs, mae'r dylanwad dirgel sy'n hybu drygioni eisoes ar waith. Ond fydd y dirgelwch ddim ond yn aros nes bydd yr un sy'n ei ddal yn ôl ar hyn o bryd yn cael ei symud o'r neilltu.
II T WelBeibl 2:8  Wedyn bydd yr un sy'n ymgorfforiad o ddrygioni yn dod i'r golwg. Ond bydd yr Arglwydd Iesu yn ei ladd drwy ddim ond chwythu arno! Bydd yn ei ddinistrio wrth ddod yn ôl gyda'r fath ysblander.
II T WelBeibl 2:9  Pan fydd yr un drwg yn dod, bydd yn gwneud gwaith Satan. Bydd ganddo'r nerth i wneud gwyrthiau syfrdanol, a rhyfeddodau ffug eraill.
II T WelBeibl 2:10  Bydd yn gwneud pob math o bethau drwg ac yn twyllo'r rhai sy'n mynd i ddistryw am eu bod nhw wedi gwrthod credu'r gwir fyddai'n eu hachub nhw.
II T WelBeibl 2:11  Mae Duw yn eu barnu nhw drwy anfon rhith twyllodrus fydd yn gwneud iddyn nhw gredu celwydd.
II T WelBeibl 2:12  Felly bydd pawb sy'n gwrthod credu'r gwir ac sydd wedi bod yn mwynhau gwneud drygioni yn cael eu cosbi.
II T WelBeibl 2:13  Ond mae'n rhaid i ni ddiolch i Dduw amdanoch chi bob amser. Ffrindiau annwyl, chi sydd wedi'ch caru gan yr Arglwydd. Dych chi ymhlith y rhai cyntaf ddewisodd Duw i gael eu hachub drwy'r Ysbryd sy'n eich gwneud chi'n lân a thrwy i chi gredu'r gwir.
II T WelBeibl 2:14  Galwodd Duw chi i rannu yn hyn i gyd wrth i ni gyhoeddi'r newyddion da, a byddwch yn cael rhannu ysblander ein Harglwydd Iesu Grist.
II T WelBeibl 2:15  Felly, ffrindiau annwyl, arhoswch yn ffyddlon iddo, a daliwch eich gafael yn y cwbl wnaethon ni ei ddysgu i chi, ar lafar ac yn ein llythyr atoch chi.
II T WelBeibl 2:16  Dw i'n gweddïo y bydd ein Harglwydd Iesu Grist, a Duw ein Tad (sydd wedi'n caru ni, ac wedi bod mor hael yn rhoi hyder ddaw byth i ben a dyfodol sicr i ni),
II T WelBeibl 2:17  yn eich cysuro ac yn rhoi nerth i chi wneud a dweud beth sy'n dda.