Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
NAHUM
1 2 3
Prev Up Next
Chapter 1
Nahu WelBeibl 1:1  Neges am ddinas Ninefe: Cofnod o weledigaeth Nahum o Elcosh.
Nahu WelBeibl 1:2  Mae'r ARGLWYDD yn Dduw eiddigeddus sy'n dial; Mae'r ARGLWYDD yn dial, ac mae ei ddicter yn ffyrnig. Mae'r ARGLWYDD yn dial ar ei elynion, ac yn wyllt gyda'i wrthwynebwyr.
Nahu WelBeibl 1:3  Mae'r ARGLWYDD yn amyneddgar ac yn gryf – ond dydy e ddim yn gadael i'r euog osgoi'r gosb. Mae'n martsio yn y corwynt a'r storm, ac mae'r cymylau fel llwch dan ei draed.
Nahu WelBeibl 1:4  Mae'n gweiddi ar y môr a'i sychu, ac yn sychu'r afonydd i gyd. Mae porfa Bashan a Carmel yn gwywo, ac mae blodau Libanus yn gwywo.
Nahu WelBeibl 1:5  Mae'r mynyddoedd yn crynu a'r bryniau'n toddi o'i flaen. Mae'r tir yn troi'n ddiffeithwch o'i flaen, y byd, a phopeth sy'n byw ynddo.
Nahu WelBeibl 1:6  Pwy all oroesi o flaen ei ddicter? Pwy all wrthsefyll ei ffyrnigrwydd? Mae'n tywallt ei lid fel tân, ac mae'r creigiau'n cael eu dryllio ganddo.
Nahu WelBeibl 1:7  Mae'r ARGLWYDD yn dda, ac yn gaer ddiogel mewn argyfwng; Mae'n gofalu am y rhai sy'n troi ato am help.
Nahu WelBeibl 1:8  Ond mae'n gyrru ei elynion i'r tywyllwch; fel llifogydd sy'n ysgubo popeth ymaith, bydd yn rhoi diwedd ar Ninefe'n llwyr.
Nahu WelBeibl 1:9  Unrhyw gynlluniau sydd gen ti yn ei erbyn, bydd yr ARGLWYDD yn eu dinistrio'n llwyr: fydd ei elyn ddim yn codi yn ei erbyn yr ail waith!
Nahu WelBeibl 1:10  Byddan nhw fel dynion wedi meddwi'n gaib; Byddan nhw'n cael eu llosgi fel drysni o ddrain, neu fonion gwellt wedi sychu'n llwyr.
Nahu WelBeibl 1:11  Ohonot ti, Ninefe, y daeth un oedd yn cynllwynio drwg yn erbyn yr ARGLWYDD – strategydd drygioni!
Nahu WelBeibl 1:12  Ond dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Er eu bod nhw'n gryf ac yn niferus, byddan nhw'n cael eu torri i lawr, ac yn diflannu. Er fy mod i wedi dy gosbi di, Jwda, fydda i ddim yn dy gosbi di eto;
Nahu WelBeibl 1:13  dw i'n mynd i dorri'r iau roddodd e ar dy war a dryllio'r rhaffau sy'n dy rwymo.”
Nahu WelBeibl 1:14  Mae'r ARGLWYDD wedi datgan am Ninefe, “Fydd gen ti ddim disgynyddion bellach. Dw i'n mynd i gael gwared â'r eilunod a'r delwau metel o demlau dy dduwiau. Bydda i'n paratoi bedd i ti fydd yn dangos mor ddibwys oeddet ti.”
Nahu WelBeibl 1:15  Edrychwch! Mae negesydd yn dod dros y mynyddoedd yn cyhoeddi heddwch! “Dathla dy wyliau crefyddol, O Jwda, a chadw dy addewidion! Fydd y rhai drwg byth yn dy orchfygu eto; byddan nhw'n cael eu dinistrio'n llwyr.”