REVELATION OF JOHN
Chapter 6
Reve | WelBeibl | 6:1 | Rôn i'n gwylio'r Oen yn agor y gyntaf o'r saith sêl. A chlywais un o'r pedwar creadur byw yn galw'n uchel mewn llais oedd yn swnio fel taran, “Tyrd allan!” | |
Reve | WelBeibl | 6:2 | Yn sydyn roedd ceffyl gwyn o mlaen i, a marchog ar ei gefn yn cario bwa a saeth. Cafodd ei goroni, ac yna aeth i ffwrdd ar gefn y ceffyl fel un oedd yn mynd i goncro'r gelyn, yn benderfynol o ennill y frwydr. | |
Reve | WelBeibl | 6:3 | Pan agorodd yr Oen yr ail sêl, clywais yr ail greadur byw yn galw'n uchel, “Tyrd allan!” | |
Reve | WelBeibl | 6:4 | Yna daeth ceffyl arall allan – un fflamgoch. Cafodd y marchog ar ei gefn awdurdod i gymryd heddwch o'r byd fel bod pobl yn lladd ei gilydd. Dyma gleddyf mawr yn cael ei roi iddo. | |
Reve | WelBeibl | 6:5 | Pan agorodd yr Oen y drydedd sêl, clywais y trydydd creadur byw yn cyhoeddi'n uchel, “Tyrd allan!” Edrychais, ac yn sydyn roedd ceffyl du o mlaen i, a'r marchog ar ei gefn yn dal clorian yn ei law. | |
Reve | WelBeibl | 6:6 | Yna clywais lais yn dod o ble roedd y pedwar creadur byw, yn cyhoeddi'n uchel: “Cyflog diwrnod llawn am lond dwrn o wenith, neu am ryw ychydig o haidd! Ond paid gwneud niwed i'r coed olewydd a'r gwinwydd!” | |
Reve | WelBeibl | 6:7 | Pan agorodd yr Oen y bedwaredd sêl, clywais lais y pedwerydd creadur byw yn galw'n uchel, “Tyrd allan!” | |
Reve | WelBeibl | 6:8 | Edrychais, ac yn sydyn roedd ceffyl llwyd o mlaen i! Marwolaeth oedd enw'r marchog oedd ar ei gefn, ac roedd Byd y Meirw yn dilyn yn glòs y tu ôl iddo. Dyma nhw'n cael awdurdod dros chwarter y ddaear – awdurdod i ladd gyda'r cleddyf, newyn a haint, ac anifeiliaid gwyllt. | |
Reve | WelBeibl | 6:9 | Pan agorodd y bumed sêl, gwelais o dan yr allor y rhai oedd wedi cael eu lladd am gyhoeddi neges Duw yn ffyddlon. | |
Reve | WelBeibl | 6:10 | Roedden nhw'n gweiddi'n uchel, “O Feistr Sofran, sanctaidd a gwir! Faint mwy sydd raid i ni aros cyn i ti farnu'r bobl sy'n perthyn i'r ddaear, a dial arnyn nhw am ein lladd ni?” | |
Reve | WelBeibl | 6:11 | Yna dyma fantell wen yn cael ei rhoi i bob un ohonyn nhw. A gofynnwyd iddyn nhw aros ychydig yn hirach, nes i nifer cyflawn y rhai oedd yn gwasanaethu gyda nhw gyrraedd, sef y brodyr a'r chwiorydd fyddai'n cael eu lladd fel cawson nhw eu lladd. | |
Reve | WelBeibl | 6:12 | Wrth i mi wylio'r Oen yn agor y chweched sêl buodd daeargryn mawr. Trodd yr haul yn ddu fel dillad galar, a'r lleuad yn goch i gyd fel gwaed. | |
Reve | WelBeibl | 6:13 | Dyma'r sêr yn dechrau syrthio fel ffigys gwyrdd yn disgyn oddi ar goeden pan mae gwynt cryf yn chwythu. | |
Reve | WelBeibl | 6:14 | Diflannodd yr awyr fel sgrôl yn cael ei rholio. A chafodd pob mynydd ac ynys eu symud o'u lle. | |
Reve | WelBeibl | 6:15 | Aeth pawb i guddio mewn ogofâu a thu ôl i greigiau yn y mynyddoedd – brenhinoedd a'u prif swyddogion, arweinwyr milwrol, pobl gyfoethog, pobl bwerus, caethweision, dinasyddion rhydd – pawb! | |
Reve | WelBeibl | 6:16 | Roedden nhw'n gweiddi ar y mynyddoedd a'r creigiau, “Syrthiwch arnon ni a'n cuddio ni o olwg yr Un sy'n eistedd ar yr orsedd, ac oddi wrth ddigofaint yr Oen! | |