HABAKKUK
Chapter 1
Haba | WelBeibl | 1:2 | “ARGLWYDD, am faint mwy rhaid i mi alw cyn i ti fy ateb i? Dw i'n gweiddi, ‘Trais!’ ond ti ddim yn achub. | |
Haba | WelBeibl | 1:3 | Pam wyt ti'n caniatáu y fath anghyfiawnder? Pam wyt ti'n gadael i'r fath ddrygioni fynd yn ei flaen? Does dim i'w weld ond dinistr a thrais! Dim byd ond ffraeo a mwy o wrthdaro! | |
Haba | WelBeibl | 1:4 | Mae'r gyfraith wedi colli ei grym, a does dim cyfiawnder byth. Mae pobl ddrwg yn bygwth pobl ddiniwed, a chyfiawnder wedi'i dwistio'n gam.” | |
Haba | WelBeibl | 1:5 | “Edrychwch ar y cenhedloedd, a cewch sioc go iawn. Mae rhywbeth ar fin digwydd fyddwch chi ddim yn ei gredu, petai rhywun yn dweud wrthoch chi! | |
Haba | WelBeibl | 1:6 | Dw i'n codi'r Babiloniaid – y genedl greulon a gwyllt sy'n ysgubo ar draws y byd yn concro a dwyn cartrefi pobl eraill. | |
Haba | WelBeibl | 1:7 | Maen nhw'n codi braw ac arswyd ar bawb. Maen nhw'n falch ac yn gwneud fel y mynnant. | |
Haba | WelBeibl | 1:8 | Mae eu ceffylau yn gyflymach na'r llewpard, ac yn fwy siarp na bleiddiaid yn y nos. Maen nhw'n carlamu am bellter enfawr, ac yn disgyn fel fwlturiaid ar ysglyfaeth. | |
Haba | WelBeibl | 1:9 | Trais ydy eu hunig fwriad. Maen nhw'n hollol benderfynol, ac yn casglu carcharorion rif y tywod. | |
Haba | WelBeibl | 1:10 | Maen nhw'n gwneud sbort o frenhinoedd, ac yn chwerthin ar lywodraethwyr. Dydy caer amddiffynnol yn ddim byd ond jôc iddyn nhw; maen nhw'n codi rampiau, yn gwarchae a gorchfygu. | |
Haba | WelBeibl | 1:11 | Yna i ffwrdd â nhw fel y gwynt! Dynion sy'n addoli eu grym milwrol; a byddan nhw'n cael eu galw i gyfri.” | |
Haba | WelBeibl | 1:12 | “Ond ARGLWYDD, ti ydy'r Duw oedd ar waith yn yr hen ddyddiau! Ti ydy'r Duw Sanctaidd, fyddi di byth yn marw! ARGLWYDD, ti'n eu defnyddio nhw i farnu! Ein Craig, rwyt ti wedi'u penodi nhw i gosbi! | |
Haba | WelBeibl | 1:13 | Mae dy lygaid yn rhy lân i edrych ar ddrygioni! Sut alli di esgusodi annhegwch? Sut wyt ti'n gallu dioddef pobl mor dwyllodrus? Sut alli di eistedd yn dawel tra mae pobl ddrwg yn llyncu pobl sy'n well na nhw? | |
Haba | WelBeibl | 1:15 | Mae'r gelyn yn eu dal nhw gyda bachyn; mae'n eu llusgo nhw yn y rhwyd a daflodd. Wrth eu casglu gyda'i rwyd bysgota mae'n dathlu'n llawen ar ôl gwneud mor dda. | |
Haba | WelBeibl | 1:16 | Wedyn mae'n cyflwyno aberthau ac yn llosgi arogldarth i'w rwydau. Nhw sy'n rhoi bywyd bras iddo, a digonedd i'w fwyta. | |