Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
HABAKKUK
1 2 3
Prev Up Next
Chapter 2
Haba WelBeibl 2:1  Dw i'n mynd i sefyll ar y tŵr gwylio, ac edrych allan o wal y ddinas. Disgwyl i weld beth fydd Duw yn ei ddweud, a sut fydd e'n ateb y gŵyn sydd gen i.”
Haba WelBeibl 2:2  A dyma'r ARGLWYDD yn ateb: “Ysgrifenna'r neges yma yn glir ar lechi, i'r negeswr sy'n rhedeg allu ei ddarllen yn hawdd.
Haba WelBeibl 2:3  Mae'n weledigaeth o beth sy'n mynd i ddigwydd; mae'n dangos sut fydd pethau yn y diwedd. Os nad ydy e'n digwydd yn syth, bydd yn amyneddgar – mae'n siŵr o ddod ar yr amser iawn.
Haba WelBeibl 2:4  A dyma'r neges: Mae'r gelyn mor falch a'i gymhellion yn ddrwg, ond bydd yr un cyfiawn yn byw drwy ei ffyddlondeb.
Haba WelBeibl 2:5  Bydd gwin ei lwyddiant yn achos cwymp i'r gelyn balch, anfodlon. Mae ganddo chwant bwyd fel y bedd; fel marwolaeth, dydy e byth yn fodlon. Dyna pam mae'r gelyn yn casglu ac yn concro un wlad ar ôl y llall.
Haba WelBeibl 2:6  Bydd y gwledydd hynny yn ei wawdio ryw ddydd! Byddan nhw'n gwneud hwyl am ei ben ar gân! – ‘Gwae'r un sy'n cymryd eiddo oddi ar bobl! (Am faint mae hyn i ddigwydd?) Gwneud ei hun yn gyfoethog drwy elwa ar draul eraill!’
Haba WelBeibl 2:7  Bydd y bobl wyt ti mewn dyled iddyn nhw yn codi heb unrhyw rybudd. Byddan nhw'n deffro'n sydyn, yn dy ddychryn ac yn cymryd dy eiddo di.
Haba WelBeibl 2:8  Am dy fod ti wedi dwyn oddi ar lawer o wledydd, bydd y rhai sydd ar ôl yn dwyn oddi arnat ti. Bydd hyn yn digwydd am dy fod wedi lladd cymaint o bobl, a dinistrio gwledydd a dinasoedd.
Haba WelBeibl 2:9  Gwae chi sydd wedi ennill cyfoeth i'ch teulu drwy fanteisio'n annheg ar bobl eraill. Chi sydd wedi gwneud yn siŵr fod eich nyth eich hunain yn saff – yn uchel, allan o gyrraedd unrhyw berygl.
Haba WelBeibl 2:10  Mae eich sgam wedi dwyn cywilydd ar eich teulu. Drwy ddinistrio cymaint o wledydd dych chi wedi dwyn dinistr arnoch eich hunain.
Haba WelBeibl 2:11  Bydd y cerrig yn waliau dy dŷ yn gweiddi allan, a'r trawstiau pren yn tystio yn dy erbyn.
Haba WelBeibl 2:12  Gwae'r un sy'n tywallt gwaed i adeiladu dinas, ac yn gosod ei sylfeini ar anghyfiawnder.
Haba WelBeibl 2:13  Gwylia di! Mae'r ARGLWYDD hollbwerus wedi datgan: Bydd ymdrechion y bobloedd yn cael eu llosgi. Bydd holl lafur y gwledydd i ddim byd.
Haba WelBeibl 2:14  Fel mae'r môr yn llawn dop o ddŵr, bydd pawb drwy'r byd yn gwybod mor wych ydy'r ARGLWYDD.
Haba WelBeibl 2:15  Gwae'r un sy'n gorfodi pobl eraill i yfed y gwin sy'n cael ei dywallt o gwpan dy ddigofaint. Eu meddwi nhw er mwyn edrych arnyn nhw'n noeth.
Haba WelBeibl 2:16  Byddi di'n feddw o gywilydd, nid mawredd! Dy dro di i oryfed a dangos dy rannau preifat. Mae cwpan digofaint yr ARGLWYDD yn dod i ti! Byddi'n chwydu cywilydd yn lle brolio dy ysblander mawreddog!
Haba WelBeibl 2:17  Byddi'n talu am ddinistrio coedwigoedd Libanus! Byddi'n dychryn am dy fywyd am i ti ladd yr holl fywyd gwyllt yno; am dy fod ti wedi lladd cymaint o bobl, a dinistrio gwledydd a dinasoedd.
Haba WelBeibl 2:18  Ydy delw wedi'i gerfio o unrhyw werth? Neu eilun o fetel sy'n camarwain pobl? Pam fyddai'r crefftwr wnaeth ei lunio yn ei drystio? Rhyw ‛dduw‛ diwerth sydd ddim yn gallu siarad!
Haba WelBeibl 2:19  Gwae'r un sy'n dweud wrth ddarn o bren, ‘Deffra!’ neu wrth garreg fud, ‘Gwna rywbeth!’ Ydy peth felly'n gallu rhoi arweiniad? Mae wedi'i orchuddio'n grand gydag aur neu arian, ond does dim bywyd ynddo!
Haba WelBeibl 2:20  Ond mae'r ARGLWYDD yn ei balas sanctaidd. Ust! Mae'r byd i gyd yn fud o'i flaen!”