I TIMOTHY
Chapter 2
I Ti | WelBeibl | 2:1 | O flaen popeth arall dw i'n pwyso arnoch chi i weddïo dros bawb – pledio a gweddïo'n daer; gofyn a diolch i Dduw ar eu rhan nhw. | |
I Ti | WelBeibl | 2:2 | Dylech chi wneud hynny dros frenhinoedd a phawb arall mewn safle o awdurdod, er mwyn i ni gael heddwch a llonydd i fyw bywydau duwiol a gweddus. | |
I Ti | WelBeibl | 2:5 | Mae am iddyn nhw ddeall mai un Duw sydd, ac mai dim ond un person sy'n gallu pontio'r gagendor rhwng Duw a phobl. Iesu y Meseia ydy hwnnw, ac roedd e'n ddyn. | |
I Ti | WelBeibl | 2:6 | Rhoddodd ei fywyd yn aberth i dalu'r pris am ollwng pobl yn rhydd. Daeth i roi tystiolaeth am fwriad Duw ar yr amser iawn. | |
I Ti | WelBeibl | 2:7 | A dyma pam ces i fy newis yn negesydd ac yn gynrychiolydd personol iddo, i ddysgu pobl o genhedloedd eraill am beth sy'n wir, a'r angen i gredu yn Iesu Grist. A'r gwir dw i'n ei gyhoeddi, heb air o gelwydd! | |
I Ti | WelBeibl | 2:8 | Felly, ble bynnag mae pobl yn cyfarfod i addoli, dw i am i'r dynion sy'n gweddïo fyw bywydau sy'n dda yng ngolwg Duw, a pheidio gwylltio a dadlau. | |
I Ti | WelBeibl | 2:9 | A'r gwragedd yr un fath. Dylen nhw beidio gwisgo dillad i dynnu sylw atyn nhw eu hunain, dim ond dillad sy'n weddus, yn synhwyrol ac yn bwrpasol. Dim steil gwallt a thlysau aur a pherlau a dillad costus sy'n bwysig, | |
I Ti | WelBeibl | 2:10 | ond gwneud daioni. Dyna sy'n gwneud gwragedd sy'n proffesu eu bod yn addoli Duw yn ddeniadol. | |
I Ti | WelBeibl | 2:11 | Rhaid i wraig, wrth gael ei dysgu, fod yn dawel a dangos ei bod yn barod i ymostwng yn llwyr. | |
I Ti | WelBeibl | 2:12 | Dw i ddim am ganiatáu i wraig hyfforddi a bod fel teyrn dros ddyn; rhaid iddi ddysgu yn dawel. | |