Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I TIMOTHY
1 2 3 4 5 6
Prev Up Next
Chapter 6
I Ti WelBeibl 6:1  Dylai Cristnogion sy'n gaethweision barchu eu meistri, fel bod pobl ddim yn dweud pethau drwg am Dduw a beth dŷn ni'n ei ddysgu.
I Ti WelBeibl 6:2  A ddylid dim dangos llai o barch at y meistri hynny sy'n Gristnogion am eu bod nhw'n frodyr. Fel arall yn hollol – dylid gweithio'n galetach iddyn nhw, am fod y rhai sy'n elwa o'u gwasanaeth yn gredinwyr, ac yn annwyl yn eu golwg nhw. Dysga bobl ac annog nhw i wneud hyn i gyd.
I Ti WelBeibl 6:3  Mae rhai'n dysgu pethau sydd ddim yn wir, ac sy'n hollol groes i beth ddysgodd ein Harglwydd Iesu Grist – sut mae byw fel mae Duw am i ni fyw.
I Ti WelBeibl 6:4  Mae'n amlwg fod person felly yn llawn ohono'i hun ond yn deall dim byd mewn gwirionedd. Mae'n amlwg fod ganddo obsesiwn afiach am godi dadl a hollti blew am ystyr geiriau. Mae'n arwain i genfigen a ffraeo, enllibio, a phobl yn bod yn amheus o'u gilydd.
I Ti WelBeibl 6:5  Mae'n achosi dadleuon diddiwedd. Mae meddyliau pobl felly wedi'u llygru. Maen nhw wedi colli gafael yn beth sy'n wir. Dydy byw'n dduwiol yn ddim byd ond ffordd o wneud arian yn eu golwg nhw.
I Ti WelBeibl 6:6  Ond mae byw'n dduwiol yn cyfoethogi bywyd go iawn pan dŷn ni'n fodlon gyda beth sydd gynnon ni yn faterol.
I Ti WelBeibl 6:7  Doedd gynnon ni ddim pan gawson ni ein geni, a fyddwn ni'n gallu mynd â dim byd gyda ni pan fyddwn ni farw.
I Ti WelBeibl 6:8  Felly os oes gynnon ni fwyd a dillad, gadewch i ni fod yn fodlon gyda hynny.
I Ti WelBeibl 6:9  Mae pobl sydd eisiau bod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiwn ac yn cael eu trapio gan chwantau ffôl a niweidiol sy'n difetha ac yn dinistrio'u bywydau.
I Ti WelBeibl 6:10  Mae ariangarwch wrth wraidd pob math o ddrygioni. Ac mae rhai pobl, yn eu hawydd i wneud arian, wedi crwydro oddi wrth y ffydd, ac achosi pob math o loes a galar iddyn nhw'u hunain.
I Ti WelBeibl 6:11  Ond rwyt ti, Timotheus, yn was i Dduw. Felly dianc di rhag pethau felly. Dylet ti wneud dy orau i fyw yn iawn, fel mae Duw am i ti fyw – yn ffyddlon, yn llawn cariad, yn dal ati drwy bopeth ac yn addfwyn.
I Ti WelBeibl 6:12  Mae'r bywyd Cristnogol fel gornest yn y mabolgampau, a rhaid i ti ymdrechu i ennill. Bywyd tragwyddol ydy'r wobr. Mae Duw wedi dy alw di i hyn ac rwyt wedi dweud yn glir dy fod di'n credu o flaen llawer o dystion.
I Ti WelBeibl 6:13  Dw i'n rhoi'r siars yma i ti – a hynny o flaen Duw sy'n rhoi bywyd i bopeth, ac o flaen Iesu y Meseia, a ddwedodd y gwir yn glir pan oedd ar brawf o flaen Pontius Peilat.
I Ti WelBeibl 6:14  Gwna bopeth rwyt ti wedi dy alw i'w wneud, nes bydd yr Arglwydd Iesu Grist yn dod yn ôl.
I Ti WelBeibl 6:15  Bydd hynny'n digwydd pan mae Duw'n dweud – sef y Duw bendigedig, yr un sy'n rheoli pob peth, Brenin y brenhinoedd ac Arglwydd yr arglwyddi!
I Ti WelBeibl 6:16  Fe ydy'r unig un sy'n anfarwol yn ei hanfod. Mae'n byw mewn golau llachar na ellir mynd yn agos ato, a does neb wedi'i weld, nac yn mynd i allu ei weld. Pob anrhydedd iddo! Boed iddo deyrnasu am byth! Amen!
I Ti WelBeibl 6:17  Dwed wrth bobl gyfoethog y byd hwn i beidio bod yn falch, a hefyd i beidio meddwl fod rhywbeth sydd mor ansicr â chyfoeth yn bodloni. Duw ydy'r un i ymddiried ynddo. Mae'n rhoi popeth sydd ei angen arnon ni, i ni ei fwynhau.
I Ti WelBeibl 6:18  Dwed wrthyn nhw am ddefnyddio'u harian i wneud daioni. Dylen nhw fod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, yn hael, ac yn barod i rannu bob amser.
I Ti WelBeibl 6:19  Wrth wneud hynny byddan nhw'n casglu trysor go iawn iddyn nhw'u hunain – sylfaen gadarn i'r dyfodol, iddyn nhw gael gafael yn y bywyd sydd yn fywyd go iawn.
I Ti WelBeibl 6:20  Timotheus, cadw'n saff bopeth mae Duw wedi'i roi yn dy ofal. Cadw draw oddi wrth glebran bydol a'r math nonsens dwl sy'n cael ei alw ar gam yn ‛wybodaeth‛.
I Ti WelBeibl 6:21  Dyma beth mae rhai yn ei broffesu, ac wrth wneud hynny maen nhw wedi crwydro oddi wrth beth sy'n wir. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol Duw!