Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I TIMOTHY
1 2 3 4 5 6
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 3
I Ti WelBeibl 3:1  Mae beth sy'n cael ei ddweud mor wir: Mae rhywun sydd ag uchelgais i fod yn arweinydd yn yr eglwys yn awyddus i wneud gwaith da.
I Ti WelBeibl 3:2  Felly rhaid i arweinydd fod yn ddi-fai. Rhaid iddo fod yn ŵr sy'n ffyddlon i'w wraig, yn ymddwyn yn gyfrifol, yn synhwyrol ac yn gall, yn berson croesawgar, yn gallu dysgu eraill,
I Ti WelBeibl 3:3  ddim yn meddwi, ddim yn ymosodol ond yn deg, ddim yn achosi dadleuon, a ddim yn ariangar.
I Ti WelBeibl 3:4  Dylai allu cadw trefn ar ei deulu ei hun, a'i blant yn atebol iddo ac yn ei barchu.
I Ti WelBeibl 3:5  (Os ydy rhywun ddim yn gallu cadw trefn ar ei deulu ei hun, sut mae disgwyl iddo ofalu am eglwys Dduw?)
I Ti WelBeibl 3:6  Dylai e ddim bod yn rhywun sydd ddim ond newydd ddod yn Gristion, rhag iddo ddechrau meddwl ei hun a chael ei farnu fel cafodd y diafol ei farnu.
I Ti WelBeibl 3:7  Rhaid iddo hefyd fod ag enw da gan bobl y tu allan i'r eglwys, rhag iddo gael ei ddal ym magl y diafol a chael ei gywilyddio.
I Ti WelBeibl 3:8  A'r rhai sy'n gwasanaethu'r tlawd ar ran yr eglwys yr un fath. Rhaid iddyn nhw fod yn bobl sy'n haeddu eu parchu, ddim yn ddauwynebog, ddim yn yfed yn ormodol, nac yn elwa ar draul pobl eraill.
I Ti WelBeibl 3:9  Rhaid iddyn nhw ddal gafael yn beth mae Duw wedi'i ddangos sy'n wir, a byw gyda chydwybod lân.
I Ti WelBeibl 3:10  Dylai'r dynion hyn dreulio cyfnod ar brawf cyn cael eu penodi i wasanaethu. Wedyn byddan nhw'n gallu cael eu penodi os does dim rheswm i beidio gwneud hynny.
I Ti WelBeibl 3:11  A'r un fath gyda'r gwragedd hynny sy'n gwasanaethu. Dylen nhw fod yn wragedd sy'n cael eu parchu; ddim yn rhai sy'n hel clecs maleisus, ond yn wragedd cyfrifol ac yn rai dŷn ni'n gallu dibynnu'n llwyr arnyn nhw.
I Ti WelBeibl 3:12  Dylai unrhyw ddyn sy'n gwasanaethu'r tlawd ar ran yr eglwys fod yn ffyddlon i'w wraig, ac yn gallu cadw trefn ar ei blant ac ar ei gartref.
I Ti WelBeibl 3:13  Bydd y rhai sydd wedi gwasanaethu'n dda yn cael enw da ac yn gallu siarad yn hyderus am gredu yn y Meseia Iesu.
I Ti WelBeibl 3:14  Dw i'n gobeithio dod i dy weld di'n fuan. Ond dw i'n ysgrifennu atat ti rhag ofn i mi gael fy rhwystro,
I Ti WelBeibl 3:15  er mwyn i ti wybod sut dylai'r bobl sy'n perthyn i deulu Duw ymddwyn. Dyma eglwys y Duw byw, sy'n cynnal y gwirionedd fel mae sylfaen a thrawst yn dal tŷ gyda'i gilydd.
I Ti WelBeibl 3:16  Heb unrhyw amheuaeth, mae beth sydd wedi'i ddangos i fod yn wir am ein ffydd ni yn rhyfeddol: Daeth i'r golwg fel person o gig a gwaed; Cyhoeddodd yr Ysbryd Glân ei fod yn gyfiawn. Cafodd ei weld yn fyw gan angylion; Cafodd y newyddion da amdano ei gyhoeddi i'r cenhedloedd, a chredodd llawer o bobl y byd ynddo. Cafodd ei gymryd i fyny i ysblander y nefoedd.