II CHRONICLES
Chapter 2
II C | WelBeibl | 2:1 | Dyma Solomon yn gorchymyn adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD a phalas brenhinol iddo'i hun. | |
II C | WelBeibl | 2:2 | Roedd gan Solomon 70,000 o labrwyr, 80,000 o chwarelwyr yn y bryniau, a 3,600 o fformyn i arolygu'r gweithwyr. | |
II C | WelBeibl | 2:3 | Dyma Solomon yn anfon neges at Huram, brenin Tyrus: “Wnei di fy helpu i, fel gwnest ti helpu fy nhad Dafydd? Gwnest ti anfon coed cedrwydd iddo fe i adeiladu ei balas. | |
II C | WelBeibl | 2:4 | Dw i'n mynd i adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD fy Nuw. Bydd yn cael ei chysegru i losgi arogldarth persawrus iddo, gosod y bara o'i flaen, a chyflwyno offrymau sydd i'w llosgi'n llwyr iddo bob bore a nos, ar y Sabothau, y lleuadau newydd ac unrhyw adegau eraill mae'r ARGLWYDD ein Duw yn eu pennu. Mae pobl Israel i fod i wneud y pethau yma bob amser. | |
II C | WelBeibl | 2:5 | Dw i'n mynd i adeiladu teml wych iddo, am fod ein Duw ni yn fwy na'r duwiau eraill i gyd. | |
II C | WelBeibl | 2:6 | Ond wedyn, pwy sy'n gallu adeiladu teml iddo fe, gan fod yr awyr a'r nefoedd uchod ddim digon mawr iddo? Pwy ydw i i adeiladu teml iddo! Dim ond lle i aberthu iddo fydd hi. | |
II C | WelBeibl | 2:7 | “Anfon grefftwr medrus ata i sy'n gweithio gydag aur, arian, pres a haearn, a hefyd lliain porffor, coch a glas, ac yn gallu cerfio. Gall e weithio gyda'r crefftwyr sydd gen i yma yn Jerwsalem a Jwda, y rhai wnaeth fy nhad Dafydd eu dewis. | |
II C | WelBeibl | 2:8 | Ac mae gen ti weision sy'n arbenigo mewn trin coed yn Libanus. Felly anfon goed i mi hefyd – cedrwydd, pinwydd, a pren algwm. Gall y gweithwyr sydd gen i helpu dy weithwyr di | |
II C | WelBeibl | 2:9 | i gasglu digonedd o goed i mi, achos mae'r deml dw i'n mynd i'w hadeiladu yn mynd i fod yn un fawr, wych. | |
II C | WelBeibl | 2:10 | Gwna i dalu i dy weision di am dorri'r coed – dwy fil o dunelli o wenith, dwy fil o dunelli o haidd, cant dau ddeg mil o alwyni o win, a chant dau ddeg mil o alwyni o olew olewydd.” | |
II C | WelBeibl | 2:11 | Dyma Huram, brenin Tyrus yn anfon llythyr yn ôl at Solomon, yn dweud, “Mae'r ARGLWYDD wedi dy wneud di'n frenin ar ei bobl am ei fod yn eu caru nhw.” | |
II C | WelBeibl | 2:12 | Dwedodd hefyd, “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr un wnaeth greu'r nefoedd a'r ddaear! Mae wedi rhoi mab doeth i Dafydd – mab llawn dirnadaeth a deall. Bydd yn adeiladu teml i'r ARGLWYDD, a phalas brenhinol iddo'i hun. | |
II C | WelBeibl | 2:14 | Mae ei fam yn dod o lwyth Dan, ond ei dad o Tyrus. Mae e'n gallu gweithio gydag aur, arian, pres, haearn, carreg a choed, a hefyd lliain main porffor, glas a coch. Mae'n gallu cerfio unrhyw gynllun sy'n cael ei roi iddo. Gall e weithio gyda dy grefftwyr di a'r rhai ddewisodd Dafydd dy dad. | |
II C | WelBeibl | 2:16 | a gwnawn ni ddarparu'r holl goed sydd gen ti ei angen o Libanus, a'i anfon dros y môr ar rafftiau i Jopa. Gelli di wedyn drefnu i symud y cwbl i Jerwsalem.” | |
II C | WelBeibl | 2:17 | Dyma Solomon yn cynnal cyfrifiad o'r holl fewnfudwyr oedd yn byw yn Israel, yn dilyn y cyfrifiad roedd Dafydd ei dad wedi'i gynnal. Roedd yna 153,600 i gyd. | |