Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II KINGS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 5
II K WelBeibl 5:1  Roedd yna ddyn pwysig yn Syria o'r enw Naaman, pennaeth y fyddin, ac roedd gan ei feistr, y brenin, barch mawr ato. Drwyddo fe roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi llwyddiant milwrol i wlad Syria. Ond yna cafodd y milwr dewr yma ei daro'n wael gan glefyd heintus ar y croen.
II K WelBeibl 5:2  Un tro pan oedd milwyr Syria yn ymosod ar Israel, roedden nhw wedi cymryd merch ifanc yn gaeth. Roedd hi'n gweithio fel morwyn i wraig Naaman.
II K WelBeibl 5:3  A dyma hi'n dweud wrth ei meistres, “Dyna biti na fyddai'r meistr yn gallu mynd i weld y proffwyd sydd yn Samaria. Gallai e ei wella.”
II K WelBeibl 5:4  Aeth Naaman i rannu gyda'i feistr, y brenin, beth roedd yr eneth o wlad Israel wedi'i ddweud.
II K WelBeibl 5:5  A dyma frenin Syria'n dweud wrtho, “Dos yno. Gwna i ysgrifennu llythyr at frenin Israel.” Felly i ffwrdd â Naaman. Aeth â tri chant pedwar deg cilogram o arian, chwe deg wyth cilogram o aur a deg set o ddillad gydag e.
II K WelBeibl 5:6  A dyma fe'n mynd â llythyr ei feistr at frenin Israel. Roedd y llythyr yn dweud, “Dw i'n anfon fy ngwas Naaman atat ti er mwyn i ti ei wella o'r afiechyd sydd ar ei groen.”
II K WelBeibl 5:7  Ar ôl darllen y llythyr dyma frenin Israel yn rhwygo'i ddillad a gweiddi, “Ai Duw ydw i? Oes gen i awdurdod dros fywyd a marwolaeth, neu awdurdod i iacháu'r dyn yma mae e wedi'i anfon ata i? Gwyliwch chi, chwilio am esgus i ymosod arnon ni mae e!”
II K WelBeibl 5:8  Ond pan glywodd y proffwyd Eliseus fod y brenin wedi rhwygo'i ddillad, dyma fe'n anfon neges ato: “Pam wyt ti wedi rhwygo dy ddillad? Anfon e ata i, iddo gael gwybod bod yna broffwyd yn Israel.”
II K WelBeibl 5:9  Felly dyma Naaman yn mynd, gyda'i feirch a'i gerbydau, a sefyll y tu allan i dŷ Eliseus.
II K WelBeibl 5:10  A dyma Eliseus yn anfon neges ato. “Dos i ymolchi saith gwaith yn afon Iorddonen, a bydd dy groen di'n gwella a byddi'n lân eto.”
II K WelBeibl 5:11  Ond dyma Naaman yn gwylltio a mynd i ffwrdd. “Rôn i'n disgwyl iddo ddod allan ata i, a sefyll a gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw, symud ei law dros y man lle mae'r afiechyd, a'm gwella i.
II K WelBeibl 5:12  A beth bynnag, onid ydy afonydd Abana a Parpar yn Damascus yn well na holl afonydd Israel gyda'i gilydd? Allwn i ddim bod wedi ymolchi yn y rheiny i gael fy iacháu?” Ac i ffwrdd ag e mewn tymer.
II K WelBeibl 5:13  Ond dyma'i weision yn mynd ato, a dweud, “Syr, petai'r proffwyd wedi gofyn i ti wneud rhywbeth anodd, oni fyddet wedi'i wneud o? Y cwbl mae e'n ei ofyn ydy, ‘Dos i ymolchi, a byddi'n lân.’”
II K WelBeibl 5:14  Felly dyma fe'n mynd ac ymdrochi saith gwaith yn afon Iorddonen fel roedd y proffwyd wedi dweud. A dyma'i groen yn dod yn lân fel croen plentyn bach.
II K WelBeibl 5:15  Yna dyma fe, a'i filwyr i gyd, yn mynd yn ôl at y proffwyd. Safodd o'i flaen a dweud wrtho, “Dw i'n gwybod nawr fod yna ddim Duw go iawn yn unman arall ond yn Israel! Plîs, wnei di dderbyn anrheg gen i, dy was?”
II K WelBeibl 5:16  Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD dw i'n ei wasanaethu yn fyw, wna i gymryd dim gen ti.” Ac er i Namaan bwyso arno roedd yn dal i wrthod.
II K WelBeibl 5:17  Yna yn y diwedd dyma Naaman yn gofyn iddo, “Os wnei di ddim derbyn rhodd, yna plîs wnei di roi llwyth o bridd i mi – digon i ddau ful ei gario. Achos o hyn ymlaen fydda i ddim yn cyflwyno offrwm ac aberth i unrhyw dduw arall, dim ond i'r ARGLWYDD.
II K WelBeibl 5:18  Er, mae yna un peth bach dw i'n gobeithio y bydd yr ARGLWYDD yn ei faddau i mi: Pan fydd fy meistr, y brenin, yn mynd i deml Rimmon i addoli, bydd yn pwyso ar fy mraich i. Bydd rhaid i mi ymgrymu o flaen Rimmon pan fydd e'n gwneud hynny. Gobeithio bydd yr ARGLWYDD yn maddau i mi am hyn.”
II K WelBeibl 5:19  A dyma Eliseus yn dweud, “Dos adre'n dawel dy feddwl.” Doedd Naaman ddim wedi mynd yn bell,
II K WelBeibl 5:20  pan feddyliodd Gehasi, gwas y proffwyd Eliseus: “Mae fy meistr wedi gwneud pethau'n rhy hawdd i'r Syriad yna, Namaan, drwy wrthod derbyn beth roedd yn ei gynnig iddo. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, dw i'n mynd ar ei ôl i gael rhywbeth ganddo.”
II K WelBeibl 5:21  Felly dyma fe'n brysio ar ôl Naaman. Pan welodd Naaman rywun yn rhedeg ar ei ôl, daeth i lawr o'i gerbyd i'w gyfarfod, a gofyn, “Ydy popeth y iawn?”
II K WelBeibl 5:22  A dyma Gehasi yn ateb, “Ydy, mae popeth yn iawn. Mae fy meistr wedi f'anfon i ddweud fod dau broffwyd ifanc newydd gyrraedd o fryniau Effraim. Plîs wnei di roi tri deg cilogram o arian a dau set o ddillad iddyn nhw?”
II K WelBeibl 5:23  “Ar bob cyfri,” meddai Naaman, “gad i mi roi dwywaith hynny i ti.” Roedd yn mynnu, a dyma fe'n rhoi chwe deg cilogram o arian mewn dau fag, gyda dau set o ddillad. A dyma fe'n eu rhoi nhw i ddau was i'w cario i Gehasi.
II K WelBeibl 5:24  Wedi iddyn nhw gyrraedd y bryn, dyma Gehasi'n cymryd yr arian a'r dillad ganddyn nhw a'u cuddio nhw yn y tŷ. Yna dyma fe'n anfon y dynion i ffwrdd.
II K WelBeibl 5:25  Pan aeth Gehasi at ei feistr, dyma Eliseus yn gofyn iddo, “Ble wyt ti wedi bod Gehasi?” A dyma fe'n ateb, “Dw i ddim wedi bod i unman yn arbennig.”
II K WelBeibl 5:26  A dyma Eliseus yn dweud wrtho, “Rôn i wedi mynd gyda ti yn yr ysbryd pan ddaeth y dyn i lawr o'i gerbyd i dy gyfarfod di. Wnest ti ddim derbyn arian i brynu dillad a gerddi olewydd a gwinllannoedd a defaid a gwartheg a gweision a morynion?
II K WelBeibl 5:27  Bydd y clefyd heintus roedd Naaman yn dioddef ohono arnat ti a dy deulu am byth!” Aeth Gehasi i ffwrdd oddi wrtho, ac roedd y clefyd ar ei groen yn wyn fel yr eira.