II KINGS
Chapter 8
II K | WelBeibl | 8:1 | Roedd Eliseus wedi dweud wrth y wraig y daeth e a'i mab hi yn ôl yn fyw, “Dylet ti a dy deulu symud i fyw i rywle arall dros dro. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud fod newyn yn mynd i daro Israel am saith mlynedd.” | |
II K | WelBeibl | 8:2 | Ac roedd hi wedi gwneud fel roedd y proffwyd yn dweud. Roedd hi a'i theulu wedi mynd i fyw i wlad y Philistiaid. | |
II K | WelBeibl | 8:3 | Yna, ar ddiwedd y saith mlynedd, dyma hi a'i theulu'n dod yn ôl. A dyma hi'n mynd at y brenin i apelio am gael ei thŷ a'i thir yn ôl. | |
II K | WelBeibl | 8:4 | Yn digwydd bod, roedd y brenin wrthi'n siarad â Gehasi, gwas Eliseus. Roedd e wedi gofyn i Gehasi ddweud wrtho am yr holl bethau rhyfeddol roedd Eliseus wedi'u gwneud. | |
II K | WelBeibl | 8:5 | A tra oedd Gehasi yn adrodd hanes Eliseus yn dod â'r bachgen marw yn ôl yn fyw, dyma'r wraig (sef mam y bachgen) yn cyrraedd i ofyn am ei thŷ a'i thir. A dyma Gehasi'n dweud, “Syr, fy mrenin, hon ydy'r union wraig roeddwn i'n sôn amdani; ei mab hi wnaeth Eliseus ei godi yn ôl yn fyw!” | |
II K | WelBeibl | 8:6 | Dyma'r brenin yn ei holi hi, a dyma hi'n dweud yr hanes i gyd wrtho. Yna dyma fe'n penodi swyddog i ofalu amdani, a dweud wrtho, “Rho ei heiddo i gyd yn ôl iddi; a hefyd gynnyrch y tir am y cyfnod y buodd hi i ffwrdd.” | |
II K | WelBeibl | 8:7 | Aeth Eliseus i Damascus, prifddinas Syria. Roedd Ben-hadad, brenin Syria yn sâl. Pan ddwedon nhw wrth y brenin fod proffwyd Duw wedi cyrraedd, | |
II K | WelBeibl | 8:8 | dyma'r brenin yn dweud wrth Hasael, ei swyddog, “Dos i weld y proffwyd, a dos â rhodd gyda ti. Gofyn iddo holi'r ARGLWYDD os bydda i'n gwella o'r salwch yma.” | |
II K | WelBeibl | 8:9 | Felly, dyma Hasael yn mynd i weld y proffwyd, gyda rhodd iddo – pethau gorau Damascus wedi'u llwytho ar bedwar deg o gamelod. Safodd o'i flaen a dweud, “Mae dy was, Ben-hadad, brenin Syria, eisiau gwybod fydd e'n gwella o'i salwch?” | |
II K | WelBeibl | 8:10 | Dyma Eliseus yn ateb, “Dos a dywed wrtho, ‘Rwyt ti'n bendant yn mynd i wella,’ – er fod yr ARGLWYDD wedi dangos i mi y bydd e'n marw.” | |
II K | WelBeibl | 8:11 | Roedd Eliseus yn syllu ar Hasael, nes iddo ddechrau teimlo'n anghyfforddus. Yna dyma'r proffwyd yn dechrau crio. | |
II K | WelBeibl | 8:12 | Gofynnodd Hasael iddo, “Pam wyt ti'n crio, syr?” A dyma Eliseus yn ateb, “Am mod i'n gwybod y niwed wyt ti'n mynd i'w wneud i bobl Israel. Ti'n mynd i losgi'n trefi ni a lladd ein dynion ifanc yn y rhyfel. Byddi'n curo'n plant bach i farwolaeth, ac yn rhwygo'r gwragedd beichiog yn agored.” | |
II K | WelBeibl | 8:13 | A dyma Hasael yn gofyn, “Sut allwn i wneud pethau mor ofnadwy? Dw i ddim gwell na ci bach.” Atebodd Eliseus, “Mae'r ARGLWYDD wedi dangos i mi y byddi di'n frenin ar Syria.” | |
II K | WelBeibl | 8:14 | Yna dyma fe'n gadael Eliseus a mynd yn ôl at ei feistr. Pan ofynnodd hwnnw iddo, “Beth ddwedodd Eliseus wrthot ti?” Dyma fe'n ateb, “Dwedodd dy fod ti'n bendant yn mynd i wella.” | |
II K | WelBeibl | 8:15 | Ond y diwrnod wedyn, dyma Hasael yn cymryd blanced a'i gwlychu, ac yna ei rhoi dros wyneb Ben-hadad a'i fygu. Dyna sut bu farw Ben-hadad, a dyma Hasael yn dod yn frenin yn ei le. | |
II K | WelBeibl | 8:16 | Roedd Joram, mab Ahab, wedi bod yn frenin ar Israel ers pum mlynedd pan gafodd Jehoram, mab Jehosaffat, ei wneud yn frenin ar Jwda. | |
II K | WelBeibl | 8:17 | Roedd yn dri deg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am wyth mlynedd. | |
II K | WelBeibl | 8:18 | Ond roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel ac Ahab a'i deulu. Roedd wedi priodi merch Ahab, ac yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. | |
II K | WelBeibl | 8:19 | (Ond doedd yr ARGLWYDD ddim am ddinistrio Jwda o achos ei was Dafydd. Roedd wedi addo iddo byddai ei linach yn teyrnasu am byth.) | |
II K | WelBeibl | 8:20 | Yn ei gyfnod e dyma Edom yn gwrthryfela yn erbyn Jwda, a dewis eu brenin eu hunain. | |
II K | WelBeibl | 8:21 | Felly dyma Jehoram yn croesi i Sair gyda'i gerbydau rhyfel. Roedd byddin Edom wedi'i amgylchynu, a dyma fe'n ymosod arnyn nhw ganol nos. Ond colli'r frwydr wnaeth e, a dyma'i fyddin yn ffoi adre. | |
II K | WelBeibl | 8:22 | Mae Edom yn dal i wrthryfela yn erbyn Jwda hyd heddiw. Roedd tref Libna hefyd wedi gwrthryfela yr un pryd. | |
II K | WelBeibl | 8:23 | Mae gweddill hanes Jehoram, a chofnod o'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. | |
II K | WelBeibl | 8:24 | Pan fuodd Jehoram farw cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd, a dyma'i fab, Ahaseia, yn dod yn frenin yn ei le. | |
II K | WelBeibl | 8:25 | Roedd Joram, mab Ahab, wedi bod yn frenin ar Israel am un deg dwy o flynyddoedd pan gafodd Ahaseia, mab Jehoram, ei wneud yn frenin ar Jwda. | |
II K | WelBeibl | 8:26 | Roedd Ahaseia yn ddau ddeg dau pan ddaeth yn frenin ar Jwda, a bu'n frenin am flwyddyn. Ei fam oedd Athaleia, wyres Omri, brenin Israel. | |
II K | WelBeibl | 8:27 | Roedd yn ymddwyn yr un fath ag Ahab a'i deulu. Roedd yn perthyn iddo drwy briodas, ac yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. | |
II K | WelBeibl | 8:28 | Ymunodd gyda Joram, mab Ahab, i ryfela yn erbyn Hasael, brenin Syria, yn Ramoth-gilead. Cafodd Joram ei anafu yn y frwydr, | |