Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II KINGS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 15
II K WelBeibl 15:1  Pan oedd Jeroboam wedi bod yn frenin ar Israel am ddau ddeg saith o flynyddoedd, dyma Wseia, mab Amaseia, yn dod yn frenin ar Jwda.
II K WelBeibl 15:2  Un deg chwech oedd e pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am bum deg dwy o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Iecholeia, ac roedd hi'n dod o Jerwsalem.
II K WelBeibl 15:3  Fel ei dad Amaseia roedd Wseia yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.
II K WelBeibl 15:4  Ond wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw.
II K WelBeibl 15:5  Dyma'r ARGLWYDD yn ei daro'n wael – bu'n dioddef o glefyd heintus ar y croen nes iddo farw. Roedd rhaid iddo fyw ar wahân i bawb am weddill ei oes. Jotham, mab y brenin, oedd yn rhedeg y palas ac yn rheoli'r wlad bryd hynny.
II K WelBeibl 15:6  Mae gweddill hanes Wseia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
II K WelBeibl 15:7  Pan fuodd Wseia farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd. Yna daeth Jotham, ei fab, yn frenin yn ei le.
II K WelBeibl 15:8  Pan oedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg naw o flynyddoedd daeth Sechareia fab Jeroboam yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am chwe mis.
II K WelBeibl 15:9  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei hynafiaid o'i flaen. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu.
II K WelBeibl 15:10  Dyma Shalwm fab Jabesh, yn cynllwynio yn ei erbyn a'i ladd o flaen pawb, yna dod yn frenin yn ei le.
II K WelBeibl 15:11  Mae gweddill hanes Sechareia i'w gael yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
II K WelBeibl 15:12  Roedd y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jehw wedi dod yn wir: “Bydd dy ddisgynyddion di yn teyrnasu ar wlad Israel am bedair cenhedlaeth ar dy ôl.” A dyna'n union oedd wedi digwydd.
II K WelBeibl 15:13  Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg naw o flynyddoedd pan ddaeth Shalwm fab Jabesh yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am fis.
II K WelBeibl 15:14  Roedd Menachem fab Gadi wedi dod o Tirtsa i Samaria, lladd Shalwm, a chymryd ei le fel brenin.
II K WelBeibl 15:15  Mae gweddill hanes Shalwm, a'r cynllwyn drefnodd e, i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
II K WelBeibl 15:16  Pan ddaeth Menachem o Tirtsa aeth i ymosod ar dre Tiffsa am i'r bobl yno wrthod ei dderbyn. Lladdodd bawb oedd yn byw yn y dre ac yn yr ardal o'i chwmpas, a hyd yn oed rhwygo'n agored yr holl wragedd beichiog oedd yno.
II K WelBeibl 15:17  Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg naw o flynyddoedd pan ddaeth Menachem fab Gadi yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am ddeg mlynedd.
II K WelBeibl 15:18  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ar hyd ei oes. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu.
II K WelBeibl 15:19  Pan oedd Menachem yn frenin dyma Tiglath-Pileser, brenin Asyria, yn ymosod ar y wlad. Ond dyma Menachem yn rhoi tri deg tair tunnell o arian iddo, er mwyn ennill ei gefnogaeth a chadw'i afael yn ei safle fel brenin.
II K WelBeibl 15:20  Roedd Menachem wedi codi'r arian drwy drethu pobl gyfoethog Israel. Cododd dreth o dros bum can gram o arian ar bob un ohonyn nhw, a'i dalu i frenin Asyria. Felly dyma fyddin Tiglath-Pileser yn troi'n ôl; wnaethon nhw ddim aros yn y wlad.
II K WelBeibl 15:21  Mae gweddill hanes Menachem, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
II K WelBeibl 15:22  Pan fu farw Menachem, dyma'i fab, Pecacheia, yn dod yn frenin yn ei le.
II K WelBeibl 15:23  Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am bum deg o flynyddoedd pan ddaeth Pecacheia, mab Menachem, yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am ddwy flynedd.
II K WelBeibl 15:24  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu.
II K WelBeibl 15:25  Dyma'i is-gapten, Pecach fab Remaleia, yn cynllwynio yn ei erbyn. Aeth gyda hanner cant o ddynion o Gilead, a thorri i mewn i gaer y palas a lladd y Brenin Pecacheia, Argob ac Arie. Yna dyma Pecach yn cymryd ei le fel brenin.
II K WelBeibl 15:26  Mae gweddill hanes Pecacheia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
II K WelBeibl 15:27  Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am bum deg dwy o flynyddoedd, pan ddaeth Pecach fab Remaleia, yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am ugain mlynedd.
II K WelBeibl 15:28  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu.
II K WelBeibl 15:29  Pan oedd Pecach yn frenin ar Israel, dyma Tiglath-pileser, brenin Asyria, yn dod a gorchfygu gogledd y wlad i gyd – trefi Îon, Abel-beth-maacha, Ianoach, Cedesh, a Chatsor, hefyd ardaloedd Gilead, Galilea, a thir Nafftali i gyd. A dyma fe'n mynd â'r bobl i gyd yn gaethion i Asyria.
II K WelBeibl 15:30  Yna dyma Hoshea fab Ela yn cynllwynio yn erbyn Pecach, ei ladd, a dod yn frenin yn ei le. Digwyddodd hyn pan oedd Jotham fab Wseia, wedi bod yn frenin am ugain mlynedd.
II K WelBeibl 15:31  Mae gweddill hanes Pecach, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
II K WelBeibl 15:32  Yn ystod yr ail flwyddyn i Pecach fab Remaleia fel brenin ar Israel, daeth Jotham fab Wseia yn frenin at Jwda.
II K WelBeibl 15:33  Roedd yn ddau ddeg pump pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Ierwsa, merch Sadoc.
II K WelBeibl 15:34  Fel ei dad Wseia, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.
II K WelBeibl 15:35  Ond wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw. Jotham wnaeth adeiladu Giât Uchaf y deml.
II K WelBeibl 15:36  Mae gweddill hanes Jotham, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
II K WelBeibl 15:37  Dyma pryd wnaeth yr ARGLWYDD ddechrau anfon Resin, brenin Syria, a Pecach fab Remaleia, i ymosod ar Jwda.
II K WelBeibl 15:38  Pan fuodd Jotham farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd; a daeth ei fab Ahas yn frenin yn ei le.