II KINGS
Chapter 10
II K | WelBeibl | 10:1 | Roedd gan Ahab saith deg o feibion yn Samaria. Felly dyma Jehw yn anfon llythyrau at swyddogion ac arweinwyr Jesreel, ac at y rhai oedd yn gofalu am feibion Ahab. Dyma oedd y llythyr yn ei ddweud: | |
II K | WelBeibl | 10:2 | “Mae meibion eich meistr i gyd gyda chi, ac mae gynnoch chi gerbydau a cheffylau, dinas gaerog ac arfau. Felly, pan dderbyniwch chi'r llythyr yma, | |
II K | WelBeibl | 10:3 | dewiswch chi y gorau a'r mwyaf abl o feibion eich meistr a'i wneud yn frenin yn lle ei dad. Ond yna byddwch barod i amddiffyn llinach eich meistr.” | |
II K | WelBeibl | 10:4 | Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Mae dau frenin wedi methu ei stopio fe. Pa obaith sydd gynnon ni?” medden nhw. | |
II K | WelBeibl | 10:5 | Felly dyma bennaeth y palas, pennaeth y ddinas, yr arweinwyr a'r rhai oedd â gofal am deulu Ahab, yn anfon y neges yma at Jehw: “Dŷn ni am fod yn weision i ti! Dŷn ni'n fodlon gwneud beth bynnag rwyt ti eisiau. Dŷn ni'n bwriadu gwneud neb arall yn frenin. Gwna di beth ti'n feddwl sy'n iawn.” | |
II K | WelBeibl | 10:6 | Anfonodd Jehw lythyr arall atyn nhw: “Os ydych chi wir ar fy ochr i, ac am fod yn ufudd i mi, yna torrwch bennau meibion Ahab i gyd, a dewch â nhw ata i i Jesreel erbyn yr adeg yma fory.” Pobl bwysig dinas Samaria oedd wedi bod yn magu y saith deg o feibion oedd gan y Brenin Ahab. | |
II K | WelBeibl | 10:7 | Ond ar ôl derbyn llythyr Jehw, dyma nhw'n eu dal nhw a lladd y cwbl. Yna dyma nhw'n rhoi eu pennau mewn basgedi a'u hanfon i Jesreel. | |
II K | WelBeibl | 10:8 | Pan ddaeth y neges fod y pennau wedi cyrraedd, dyma Jehw yn dweud, “Rhowch nhw mewn dau bentwr wrth giât y ddinas, a'i gadael nhw yno tan y bore.” | |
II K | WelBeibl | 10:9 | Yna'r bore wedyn dyma Jehw yn mynd allan yno, a dweud wrth y bobl, “Dych chi ddim ar fai. Fi ydy'r un wnaeth gynllwynio yn erbyn y Brenin Joram, fy meistr, a'i ladd. Ond pwy laddodd y rhain? | |
II K | WelBeibl | 10:10 | Mae'n hollol amlwg fod popeth ddwedodd yr ARGLWYDD yn erbyn teulu Ahab wedi dod yn wir. Fe sydd wedi gwneud yn union fel roedd wedi'i addo drwy ei was Elias.” | |
II K | WelBeibl | 10:11 | Yna dyma Jehw yn mynd ati i ladd pawb oedd ar ôl o deulu Ahab yn Jesreel, y rhai oedd wedi bod mewn swyddi amlwg yn ei lys, ei ffrindiau a'r offeiriaid oedd gydag e. Gafodd neb ei adael yn fyw. | |
II K | WelBeibl | 10:13 | dyma fe'n dod ar draws rhai o berthnasau Ahaseia, brenin Jwda. “Pwy ydych chi?” gofynnodd iddyn nhw. A dyma nhw'n ateb, “Perthnasau i Ahaseia. Dŷn ni ar ein ffordd i ymweld â plant y brenin a phlant y fam-frenhines.” | |
II K | WelBeibl | 10:14 | Yna dyma Jehw'n gorchymyn i'w filwyr, “Daliwch nhw'n fyw!” Dyma nhw'n eu dal nhw, ac yna mynd â nhw at bydew Beth-eced a'u lladd nhw i gyd yno, pedwar deg dau ohonyn nhw. | |
II K | WelBeibl | 10:15 | Wrth adael y fan honno dyma Jehw yn dod ar draws Jonadab fab Rechab oedd wedi bod yn chwilio amdano. Dyma Jehw'n ei gyfarch a gofyn iddo, “Wyt ti'n fy nghefnogi i fel dw i ti?” “Ydw,” meddai Jonadab. “Felly rho dy law i mi,” meddai Jehw. Dyma fe'n estyn ei law, a dyma Jehw yn ei godi ato i'w gerbyd. | |
II K | WelBeibl | 10:16 | Yna dwedodd wrtho, “Tyrd gyda mi, i ti gael gweld gymaint dw i ar dân dros yr ARGLWYDD.” A dyma Jonadab yn mynd gydag e yn ei gerbyd | |
II K | WelBeibl | 10:17 | i Samaria. Ar ôl cyrraedd yno, dyma Jehw yn lladd pawb oedd ar ôl o deulu Ahab, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Elias. | |
II K | WelBeibl | 10:18 | Wedyn, casglodd Jehw y bobl i gyd at ei gilydd, a dweud, wrthyn nhw, “Roedd Ahab yn addoli Baal rhywfaint, ond dw i, Jehw, yn mynd i'w addoli o ddifrif. | |
II K | WelBeibl | 10:19 | Dw i am gynnal aberth mawr i Baal. Felly galwch broffwydi Baal i gyd at ei gilydd, a'i addolwyr a'i offeiriaid. Peidiwch a gadael neb allan. Bydd unrhyw un sy'n absennol yn cael ei ladd.” (Ond tric cyfrwys oedd y cwbl. Roedd Jehw yn bwriadu lladd addolwyr Baal.) | |
II K | WelBeibl | 10:20 | Yna dyma Jehw yn gorchymyn, “Trefnwch ddathliad sbesial i addoli Baal!” A dyma nhw'n gwneud hynny. | |
II K | WelBeibl | 10:21 | Dyma Jehw yn anfon neges i bob rhan o wlad Israel. A dyma bawb oedd yn addoli Baal yn dod at ei gilydd – doedd neb yn absennol. Roedd teml Baal yn llawn i'r ymylon! | |
II K | WelBeibl | 10:22 | Yna dyma Jehw yn dweud wrth yr un oedd yn gofalu am y gwisgoedd, “Tyrd â gwisg i bob un o'r addolwyr.” A dyma fe'n gwneud hynny. | |
II K | WelBeibl | 10:23 | Yna dyma Jehw a Jonadab fab Rechab yn mynd i deml Baal. A dyma Jehw yn dweud wrth addolwyr Baal, “Gwnewch yn siŵr fod yna neb yma sy'n addoli'r ARGLWYDD. Dim ond addolwyr Baal sydd i fod yma.” | |
II K | WelBeibl | 10:24 | Yna dyma nhw'n dechrau aberthu a chyflwyno offrymau i'w llosgi i Baal. Roedd Jehw wedi gosod wyth deg o ddynion tu allan i'r deml. Ac roedd wedi dweud wrthyn nhw, “Os bydd rhywun yn gadael i un o'r bobl yma ddianc, bydd yn talu gyda'i fywyd!” | |
II K | WelBeibl | 10:25 | Ar ôl gorffen cyflwyno'r offrwm i'w losgi, dyma Jehw yn rhoi gorchymyn i'r gwarchodlu a'i swyddogion, “Ewch i mewn a lladdwch bawb. Peidiwch gadael i neb ddianc.” A dyma nhw'n eu lladd nhw i gyd a gadael y cyrff yn gorwedd yno. Yna dyma'r gwarchodlu a'r swyddogion yn rhuthro i mewn i gysegr mewnol teml Baal, | |
II K | WelBeibl | 10:27 | Dyma nhw'n dinistrio'r golofn a theml Baal hefyd. Mae'r safle'n cael ei ddefnyddio fel toiledau cyhoeddus hyd heddiw. | |
II K | WelBeibl | 10:29 | Ond wnaeth e ddim stopio pobl addoli'r eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu. Roedd y ddau darw ifanc aur yn dal yn Bethel ac yn Dan. | |
II K | WelBeibl | 10:30 | Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jehw, “Ti wedi gwneud yn dda iawn a'm plesio i, a gwneud beth roeddwn i eisiau'i weld yn digwydd i linach Ahab. Felly, bydd dy ddisgynyddion di yn teyrnasu ar wlad Israel am bedair cenhedlaeth ar dy ôl.” | |
II K | WelBeibl | 10:31 | Ac eto doedd Jehw ddim yn gwbl ufudd i ddeddfau'r ARGLWYDD, Duw Israel. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam wedi'u codi i wneud i Israel bechu. | |
II K | WelBeibl | 10:32 | Tua'r adeg yna dyma'r ARGLWYDD yn dechrau cymryd tir oddi ar Israel. Roedd Hasael yn ymosod ar ffiniau Israel i gyd. | |
II K | WelBeibl | 10:33 | Concrodd diroedd Gilead, sydd i'r dwyrain o afon Iorddonen (sef tir llwythau Gad, Reuben a Manasse). Tir sy'n ymestyn yr holl ffordd o dref Aroer yn nyffryn Arnon, drwy Gilead i ardal Bashan. | |
II K | WelBeibl | 10:34 | Mae gweddill hanes Jehw – y cwbl wnaeth e a'i lwyddiant milwrol – i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. | |
II K | WelBeibl | 10:35 | Pan fuodd Jehw farw, cafodd ei gladdu yn Samaria, a dyma'i fab, Jehoachas, yn dod yn frenin yn ei le. | |