II KINGS
Chapter 25
II K | WelBeibl | 25:1 | Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â'i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem. Digwyddodd hyn ar y degfed diwrnod o'r degfed mis o nawfed flwyddyn Sedeceia fel brenin. Dyma nhw'n gwersylla o gwmpas y ddinas, ac yn codi rampiau i warchae arni. | |
II K | WelBeibl | 25:2 | Buon nhw'n gwarchae ar y ddinas am flwyddyn a hanner (blwyddyn un deg un Sedeceia fel brenin). | |
II K | WelBeibl | 25:3 | Erbyn y nawfed diwrnod o'r pedwerydd mis y flwyddyn honno roedd y newyn yn y ddinas mor ddrwg doedd gan y werin bobl ddim byd o gwbl i'w fwyta. | |
II K | WelBeibl | 25:4 | Dyma'r gelyn yn llwyddo i fylchu wal y ddinas. A dyma filwyr Jwda i gyd yn ceisio dianc, a mynd allan o'r ddinas ganol nos drwy'r giât sydd rhwng y ddwy wal wrth ymyl gardd y brenin. Dyma nhw'n dianc i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen. (Roedd y Babiloniaid yn amgylchynu'r ddinas.) | |
II K | WelBeibl | 25:5 | Ond aeth byddin Babilon ar ôl y Brenin Sedeceia. Cafodd ei ddal ar wastatir Jericho, a dyma'i fyddin gyfan yn cael ei gyrru ar chwâl. | |
II K | WelBeibl | 25:6 | Dyma nhw'n mynd â'r brenin Sedeceia i sefyll ei brawf o flaen brenin Babilon yn Ribla. | |
II K | WelBeibl | 25:7 | Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd. Wedyn, dyma nhw'n tynnu llygaid Sedeceia allan a'i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e'n gaeth i Babilon. | |
II K | WelBeibl | 25:8 | Rhyw fis yn ddiweddarach, dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, un o swyddogion pwysica brenin Babilon, yn cyrraedd Jerwsalem (Roedd hyn ar y degfed diwrnod o'r pumed mis, a Nebwchadnesar wedi bod yn frenin Babilon ers un deg naw o flynyddoedd.) | |
II K | WelBeibl | 25:9 | Dyma fe'n rhoi teml yr ARGLWYDD, palas y brenin, a'r tai yn Jerwsalem i gyd ar dân. Llosgodd yr adeiladau pwysig i gyd. | |
II K | WelBeibl | 25:10 | Wedyn dyma fyddin Babilon, oedd gyda'r capten, yn bwrw'r waliau o gwmpas Jerwsalem i lawr. | |
II K | WelBeibl | 25:11 | A dyma Nebwsaradan yn mynd â'r bobl oedd wedi'u gadael ar ôl yn y ddinas, y milwyr oedd wedi mynd drosodd at y gelyn ac unrhyw grefftwyr oedd ar ôl, yn gaethion i Babilon. | |
II K | WelBeibl | 25:12 | Ond gadawodd rai o'r bobl mwyaf tlawd yn y wlad, a rhoi gwinllannoedd a thir iddyn nhw edrych ar ei ôl. | |
II K | WelBeibl | 25:13 | Wedyn, dyma'r Babiloniaid yn malu'r offer pres oedd yn y deml – y ddwy golofn bres, y trolïau dŵr pres, a'r basn mawr pres oedd yn cael ei alw ‛Y Môr‛. A dyma nhw'n cario'r metel yn ôl i Babilon. | |
II K | WelBeibl | 25:14 | Dyma nhw hefyd yn cymryd y bwcedi lludw, y rhawiau, y sisyrnau, y powlenni arogldarth, a phopeth arall o bres oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr addoliad. | |
II K | WelBeibl | 25:15 | Cymerodd capten y gwarchodlu y padellau a'r dysglau – popeth oedd wedi'i wneud o aur pur neu arian. | |
II K | WelBeibl | 25:16 | Roedd cymaint o bres yn y ddau biler, y gronfa ddŵr a'r trolïau oedd Solomon wedi'u gwneud ar gyfer y deml, roedd y cwbl yn ormod i'w bwyso. | |
II K | WelBeibl | 25:17 | Roedd y pileri yn wyth metr o uchder, gyda capan pres ar y top, ac roedd hwnnw yn fetr a hanner o uchder. O gwmpas top y capan roedd rhwyllwaith cain a phomgranadau yn ei haddurno, y cwbl wedi'i wneud o bres. Roedd y ddau biler yn union yr un fath. | |
II K | WelBeibl | 25:18 | Cymerodd capten y gwarchodlu brenhinol rai pobl yn garcharorion hefyd. Aeth â Seraia (y prif-offeiriad), Seffaneia (yr offeiriad cynorthwyol), a tri porthor y deml. | |
II K | WelBeibl | 25:19 | Wedyn o'r ddinas cymerodd swyddog y llys oedd yn gyfrifol am y milwyr, pump o gynghorwyr y brenin oedd wedi cael eu darganfod yn cuddio yn y ddinas, un o'r swyddogion oedd yn drafftio pobl i ymladd yn y fyddin, a chwe deg o'i ddynion gafodd eu darganfod yn y ddinas. | |
II K | WelBeibl | 25:21 | a dyma'r brenin yn eu curo nhw a'u dienyddio nhw yno. Felly roedd pobl Jwda wedi cael eu caethgludo o'u tir. | |
II K | WelBeibl | 25:22 | Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn penodi Gedaleia (mab Achicam ac ŵyr i Shaffan), yn llywodraethwr dros y bobl roedd wedi'u gadael ar ôl yng ngwlad Jwda. | |
II K | WelBeibl | 25:23 | Pan glywodd swyddogion byddin Jwda a'u milwyr fod brenin Babilon wedi penodi Gedaleia i reoli'r wlad, dyma nhw'n mynd i'w gyfarfod yn Mitspa: Ishmael fab Nethaneia, Iochanan fab Careach, Seraia fab Tanchwmeth o Netoffa, a Iaasaneia (mab y Maachathiad). Daeth y rhain i gyd gyda'u milwyr. | |
II K | WelBeibl | 25:24 | A dyma Gedaleia yn addo ar lw iddyn nhw, “Does dim rhaid i chi fod ag ofn swyddogion Babilon. Arhoswch yn y wlad a gwasanaethu brenin Babilon, a bydd popeth yn iawn.” | |
II K | WelBeibl | 25:25 | Ond yna yn y seithfed mis dyma Ishmael, oedd yn perthyn i'r teulu brenhinol (mab Nethaneia ac ŵyr i Elishama), yn mynd i Mitspa gyda deg o'i ddynion a lladd Gedaleia a'r dynion o Jwda a Babilon oedd yno gydag e. | |
II K | WelBeibl | 25:26 | Yna dyma'r boblogaeth i gyd (o'r ifancaf i'r hynaf) a swyddogion y fyddin, yn ffoi i'r Aifft am eu bod ofn beth fyddai'r Babiloniaid yn ei wneud. | |
II K | WelBeibl | 25:27 | Roedd Jehoiachin, brenin Jwda, wedi bod yn garcharor am dri deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Efil-merodach yn frenin ar Babilon. Ar y seithfed ar hugain o'r deuddegfed mis y flwyddyn honno dyma Efil-merodach yn rhyddhau Jehoiachin o garchar. | |
II K | WelBeibl | 25:28 | Buodd yn garedig ato, a'i anrhydeddu fwy nag unrhyw un o'r brenhinoedd eraill oedd gydag e yn Babilon. | |
II K | WelBeibl | 25:29 | Felly dyma Jehoiachin yn newid o'i ddillad carchar. Cafodd eistedd i fwyta'n rheolaidd wrth fwrdd brenin Babilon, | |