II KINGS
Chapter 2
II K | WelBeibl | 2:1 | Roedd yr ARGLWYDD ar fin cymryd Elias i'r nefoedd mewn chwyrlwynt. Roedd Elias ac Eliseus yn gadael Gilgal, | |
II K | WelBeibl | 2:2 | a dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd ymlaen i Bethel.” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma nhw'n mynd i Bethel. | |
II K | WelBeibl | 2:3 | Daeth aelodau o urdd proffwydi Bethel allan i gyfarfod Eliseus, a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat ti heddiw?” “Ydw, dw i'n gwybod, ond peidiwch sôn am y peth,” meddai Eliseus. | |
II K | WelBeibl | 2:4 | Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd i Jericho.” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma nhw'n dod i Jericho. | |
II K | WelBeibl | 2:5 | Daeth aelodau o urdd proffwydi Jericho at Eliseus, a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat ti heddiw?” “Ydw, dw i'n gwybod, ond peidiwch sôn am y peth,” meddai Eliseus. | |
II K | WelBeibl | 2:6 | Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd at afon Iorddonen.” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma'r ddau'n mynd yn eu blaenau. | |
II K | WelBeibl | 2:7 | Roedd pum deg aelod o'r urdd o broffwydi wedi'u dilyn nhw, a phan oedd y ddau'n sefyll ar lan yr afon, roedd y proffwydi yn eu gwylio nhw o bell. | |
II K | WelBeibl | 2:8 | Dyma Elias yn cymryd ei glogyn a'i rolio, a tharo'r dŵr gydag e. Dyma lwybr yn agor drwy'r afon, a dyma'r ddau'n croesi drosodd ar dir sych. | |
II K | WelBeibl | 2:9 | Yna ar ôl iddyn nhw groesi, dyma Elias yn gofyn i Eliseus, “Dwed wrtho i be ga i wneud i ti cyn i mi gael fy nghymryd oddi wrthot ti?” “Plîs gad i mi gael siâr ddwbl o dy ysbryd di,” meddai Eliseus. | |
II K | WelBeibl | 2:10 | Atebodd Elias, “Ti wedi gofyn am rhywbeth anodd. Os byddi di'n fy ngweld i'n cael fy nghymryd i ffwrdd, fe'i cei. Os ddim, gei di ddim.” | |
II K | WelBeibl | 2:11 | Yna wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau yn sgwrsio dyma gerbyd o fflamau tân yn cael ei dynnu gan geffylau o dân yn dod rhyngddyn nhw, a chipio Elias i fyny i'r nefoedd mewn chwyrlwynt. | |
II K | WelBeibl | 2:12 | Gwelodd Eliseus e, a dyma fe'n gweiddi, “Fy nhad, fy nhad! Ti oedd arfau a byddin Israel!” Yna diflannodd o'i olwg. A dyma Eliseus yn gafael yn ei ddillad a'u rhwygo'n ddau. | |
II K | WelBeibl | 2:13 | Dyma fe'n codi clogyn Elias, oedd wedi syrthio oddi arno, a mynd yn ôl at lan afon Iorddonen. | |
II K | WelBeibl | 2:14 | Gafaelodd yn y clogyn oedd wedi syrthio oddi ar Elias, a gofyn, “Ydy'r ARGLWYDD, Duw Elias, wedi'n gadael hefyd?” Yna dyma fe'n taro'r dŵr gyda'r clogyn a dyma lwybr yn agor drwy'r afon, a chroesodd Eliseus i'r ochr arall. | |
II K | WelBeibl | 2:15 | Pan welodd proffwydi Jericho beth ddigwyddodd, dyma nhw'n dweud, “Mae ysbryd Elias wedi disgyn ar Eliseus.” A dyma nhw'n mynd ato a plygu i lawr o'i flaen, | |
II K | WelBeibl | 2:16 | a dweud, “Edrych syr, mae gynnon ni bum deg o ddynion abl yma. Gad iddyn nhw fynd i chwilio am dy feistr, rhag ofn bod y gwynt cryf anfonodd yr ARGLWYDD wedi'i ollwng ar ben rhyw fynydd neu yn rhyw gwm.” Atebodd Eliseus, “Na, peidiwch a'u hanfon nhw.” | |
II K | WelBeibl | 2:17 | Ond buon nhw'n pwyso arno nes iddo ddechrau teimlo'n annifyr. Felly yn y diwedd dyma fe'n cytuno, a dyma'r proffwydi'n anfon y dynion i chwilio am Elias. Buon nhw'n chwilio am dri diwrnod ond methu cael hyd iddo. | |
II K | WelBeibl | 2:18 | Arhosodd Eliseus yn Jericho nes iddyn nhw ddod yn ôl ato. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Wel? Wnes i ddim dweud wrthoch chi am beidio mynd?” | |
II K | WelBeibl | 2:19 | Dyma bobl y dre yn dweud wrth Eliseus, “Mae'r dre yma mewn safle da, fel ti'n gweld, syr. Ond mae'r dŵr yn wael a dydy'r cnydau ddim yn tyfu.” | |
II K | WelBeibl | 2:20 | “Dewch â jar newydd i mi, a rhoi halen ynddo,” meddai Eliseus. Felly dyma nhw'n gwneud hynny, | |
II K | WelBeibl | 2:21 | a dyma Eliseus yn mynd at lygad y ffynnon a thaflu'r halen i mewn iddi; yna dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n puro'r dŵr yma. Fydd e ddim yn achosi marwolaeth nac anffrwythlondeb byth eto.’” | |
II K | WelBeibl | 2:23 | Aeth Eliseus o Jericho yn ôl i Bethel. Pan oedd e ar ei ffordd dyma griw o fechgyn ifanc yn dod allan o'r dre a dechrau gwneud hwyl am ei ben. Roedden nhw'n gweiddi, “Bacha hi, y moelyn! Bacha hi, y moelyn!” | |
II K | WelBeibl | 2:24 | Dyma fe'n troi rownd a rhythu arnyn nhw, a galw ar yr ARGLWYDD i'w melltithio nhw. A dyma ddwy arth yn dod allan o'r goedwig a llarpio pedwar deg dau o'r bechgyn. | |