II KINGS
Chapter 15
II K | WelBeibl | 15:1 | Pan oedd Jeroboam wedi bod yn frenin ar Israel am ddau ddeg saith o flynyddoedd, dyma Wseia, mab Amaseia, yn dod yn frenin ar Jwda. | |
II K | WelBeibl | 15:2 | Un deg chwech oedd e pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am bum deg dwy o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Iecholeia, ac roedd hi'n dod o Jerwsalem. | |
II K | WelBeibl | 15:4 | Ond wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw. | |
II K | WelBeibl | 15:5 | Dyma'r ARGLWYDD yn ei daro'n wael – bu'n dioddef o glefyd heintus ar y croen nes iddo farw. Roedd rhaid iddo fyw ar wahân i bawb am weddill ei oes. Jotham, mab y brenin, oedd yn rhedeg y palas ac yn rheoli'r wlad bryd hynny. | |
II K | WelBeibl | 15:6 | Mae gweddill hanes Wseia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. | |
II K | WelBeibl | 15:7 | Pan fuodd Wseia farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd. Yna daeth Jotham, ei fab, yn frenin yn ei le. | |
II K | WelBeibl | 15:8 | Pan oedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg naw o flynyddoedd daeth Sechareia fab Jeroboam yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am chwe mis. | |
II K | WelBeibl | 15:9 | Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei hynafiaid o'i flaen. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu. | |
II K | WelBeibl | 15:10 | Dyma Shalwm fab Jabesh, yn cynllwynio yn ei erbyn a'i ladd o flaen pawb, yna dod yn frenin yn ei le. | |
II K | WelBeibl | 15:12 | Roedd y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jehw wedi dod yn wir: “Bydd dy ddisgynyddion di yn teyrnasu ar wlad Israel am bedair cenhedlaeth ar dy ôl.” A dyna'n union oedd wedi digwydd. | |
II K | WelBeibl | 15:13 | Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg naw o flynyddoedd pan ddaeth Shalwm fab Jabesh yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am fis. | |
II K | WelBeibl | 15:14 | Roedd Menachem fab Gadi wedi dod o Tirtsa i Samaria, lladd Shalwm, a chymryd ei le fel brenin. | |
II K | WelBeibl | 15:15 | Mae gweddill hanes Shalwm, a'r cynllwyn drefnodd e, i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. | |
II K | WelBeibl | 15:16 | Pan ddaeth Menachem o Tirtsa aeth i ymosod ar dre Tiffsa am i'r bobl yno wrthod ei dderbyn. Lladdodd bawb oedd yn byw yn y dre ac yn yr ardal o'i chwmpas, a hyd yn oed rhwygo'n agored yr holl wragedd beichiog oedd yno. | |
II K | WelBeibl | 15:17 | Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg naw o flynyddoedd pan ddaeth Menachem fab Gadi yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am ddeg mlynedd. | |
II K | WelBeibl | 15:18 | Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ar hyd ei oes. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu. | |
II K | WelBeibl | 15:19 | Pan oedd Menachem yn frenin dyma Tiglath-Pileser, brenin Asyria, yn ymosod ar y wlad. Ond dyma Menachem yn rhoi tri deg tair tunnell o arian iddo, er mwyn ennill ei gefnogaeth a chadw'i afael yn ei safle fel brenin. | |
II K | WelBeibl | 15:20 | Roedd Menachem wedi codi'r arian drwy drethu pobl gyfoethog Israel. Cododd dreth o dros bum can gram o arian ar bob un ohonyn nhw, a'i dalu i frenin Asyria. Felly dyma fyddin Tiglath-Pileser yn troi'n ôl; wnaethon nhw ddim aros yn y wlad. | |
II K | WelBeibl | 15:21 | Mae gweddill hanes Menachem, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. | |
II K | WelBeibl | 15:23 | Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am bum deg o flynyddoedd pan ddaeth Pecacheia, mab Menachem, yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am ddwy flynedd. | |
II K | WelBeibl | 15:24 | Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu. | |
II K | WelBeibl | 15:25 | Dyma'i is-gapten, Pecach fab Remaleia, yn cynllwynio yn ei erbyn. Aeth gyda hanner cant o ddynion o Gilead, a thorri i mewn i gaer y palas a lladd y Brenin Pecacheia, Argob ac Arie. Yna dyma Pecach yn cymryd ei le fel brenin. | |
II K | WelBeibl | 15:26 | Mae gweddill hanes Pecacheia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. | |
II K | WelBeibl | 15:27 | Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am bum deg dwy o flynyddoedd, pan ddaeth Pecach fab Remaleia, yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am ugain mlynedd. | |
II K | WelBeibl | 15:28 | Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu. | |
II K | WelBeibl | 15:29 | Pan oedd Pecach yn frenin ar Israel, dyma Tiglath-pileser, brenin Asyria, yn dod a gorchfygu gogledd y wlad i gyd – trefi Îon, Abel-beth-maacha, Ianoach, Cedesh, a Chatsor, hefyd ardaloedd Gilead, Galilea, a thir Nafftali i gyd. A dyma fe'n mynd â'r bobl i gyd yn gaethion i Asyria. | |
II K | WelBeibl | 15:30 | Yna dyma Hoshea fab Ela yn cynllwynio yn erbyn Pecach, ei ladd, a dod yn frenin yn ei le. Digwyddodd hyn pan oedd Jotham fab Wseia, wedi bod yn frenin am ugain mlynedd. | |
II K | WelBeibl | 15:31 | Mae gweddill hanes Pecach, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. | |
II K | WelBeibl | 15:32 | Yn ystod yr ail flwyddyn i Pecach fab Remaleia fel brenin ar Israel, daeth Jotham fab Wseia yn frenin at Jwda. | |
II K | WelBeibl | 15:33 | Roedd yn ddau ddeg pump pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Ierwsa, merch Sadoc. | |
II K | WelBeibl | 15:35 | Ond wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw. Jotham wnaeth adeiladu Giât Uchaf y deml. | |
II K | WelBeibl | 15:36 | Mae gweddill hanes Jotham, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. | |
II K | WelBeibl | 15:37 | Dyma pryd wnaeth yr ARGLWYDD ddechrau anfon Resin, brenin Syria, a Pecach fab Remaleia, i ymosod ar Jwda. | |