JAMES
Chapter 5
Jame | WelBeibl | 5:1 | A chi bobl gyfoethog, gwrandwch! – dylech chi fod yn crio ac yn griddfan o achos y dioddefaint sydd o'ch blaenau. | |
Jame | WelBeibl | 5:3 | Mae'ch aur a'ch arian chi'n rhydu, a bydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chi. Cewch eich difa gan dân am gasglu cyfoeth i chi'ch hunain mewn byd sy'n dod i ben. | |
Jame | WelBeibl | 5:4 | Gwrandwch! Mae'r cyflogau dych chi heb eu talu i'r gweithwyr yn gweiddi'n uchel. Mae Arglwydd y Lluoedd wedi clywed cri y rhai hynny fu'n casglu'r cynhaeaf yn eich caeau chi. | |
Jame | WelBeibl | 5:5 | Dych chi wedi byw'n foethus ac wedi bod yn gwbl hunanol. Ydych! Dych chi wedi bod yn pesgi'ch hunain ar gyfer y diwrnod y byddwch chi'n mynd i'r lladd-dy! | |
Jame | WelBeibl | 5:6 | Mae pobl ddiniwed sydd ddim yn gallu'ch gwrthwynebu chi wedi'u hecsbloetio a'u condemnio i farwolaeth gynnoch chi. | |
Jame | WelBeibl | 5:7 | Felly, frodyr a chwiorydd annwyl, byddwch yn amyneddgar wrth ddisgwyl i'r Arglwydd ddod yn ôl. Meddyliwch am y ffermwr sy'n disgwyl yn amyneddgar am law yn yr hydref a'r gwanwyn i wneud i'r cnwd dyfu. | |
Jame | WelBeibl | 5:8 | Dylech chi fod yr un mor amyneddgar, a sefyll yn gadarn, gan fod yr Arglwydd yn dod yn fuan. | |
Jame | WelBeibl | 5:9 | Peidiwch grwgnach am eich gilydd, frodyr a chwiorydd, neu cewch chi'ch cosbi. Mae'r Barnwr yn dod! Mae'n sefyll y tu allan i'r drws! | |
Jame | WelBeibl | 5:10 | Ystyriwch y proffwydi hynny oedd yn cyhoeddi neges Duw – dyna i chi beth ydy amynedd yn wyneb dioddefaint! | |
Jame | WelBeibl | 5:11 | Fel dych chi'n gwybod, y rhai wnaeth ddal ati gafodd eu bendithio. Mae Job yn enghraifft dda o ddyn wnaeth ddal ati drwy'r cwbl, a chofiwch beth wnaeth yr Arglwydd iddo yn y diwedd. Mae tosturi a thrugaredd yr Arglwydd mor fawr! | |
Jame | WelBeibl | 5:12 | Ac yn olaf, frodyr a chwiorydd: peidiwch byth tyngu llw – ddim i'r nefoedd nac i'r ddaear na dim arall. Dylai dweud “ie” olygu “ie”, a dweud “na” olygu “na”, wedyn chewch chi mo'ch cosbi. | |
Jame | WelBeibl | 5:13 | Oes rhywun yn eich plith chi mewn trafferthion? Dylai weddïo. Oes rhywun yn hapus? Dylai ganu cân o fawl i Dduw. | |
Jame | WelBeibl | 5:14 | Oes rhywun yn sâl? Dylai ofyn i arweinwyr yr eglwys leol ddod i weddïo drosto a'i eneinio ag olew ar ran yr Arglwydd. | |
Jame | WelBeibl | 5:15 | Os gwnân nhw weddïo a chredu yn nerth Duw bydd y claf yn cael ei iacháu. Bydd yr Arglwydd yn ei godi ar ei draed, ac os ydy e wedi pechu, bydd yn cael maddeuant. | |
Jame | WelBeibl | 5:16 | Felly cyffeswch eich pechodau i'ch gilydd a gweddïwch dros eich gilydd, er mwyn i chi gael eich iacháu. Mae gweddi daer rhywun sydd â pherthynas iawn gyda Duw yn beth grymus ac effeithiol. | |
Jame | WelBeibl | 5:17 | Dyn cyffredin fel ni oedd Elias, a gweddïodd yn gyson iddi beidio glawio, a wnaeth hi ddim glawio am dair blynedd a hanner! | |
Jame | WelBeibl | 5:18 | Wedyn gweddïodd eto, a dyma hi'n tywallt y glaw, ac roedd cnydau yn dechrau tyfu ar y ddaear eto. | |
Jame | WelBeibl | 5:19 | Frodyr a chwiorydd, os bydd un o'ch plith chi'n troi i ffwrdd oddi wrth y gwirionedd, a rhywun arall yn ei arwain yn ôl, | |