JAMES
Chapter 2
Jame | WelBeibl | 2:1 | Frodyr a chwiorydd, dydy dangos ffafriaeth ddim yn beth iawn i bobl sy'n dweud eu bod nhw'n credu yn ein Harglwydd bendigedig ni, Iesu Grist. | |
Jame | WelBeibl | 2:2 | Er enghraifft, meddyliwch petai rhywun cyfoethog, yn gwisgo dillad crand a modrwyau aur a gemau, yn dod i mewn i un o'ch cyfarfodydd, ac yna cardotyn tlawd mewn dillad budron yn dod i mewn hefyd. | |
Jame | WelBeibl | 2:3 | Petaech chi'n rhoi'r sylw i gyd i'r person yn y dillad crand, ac yn dweud wrtho, “Eisteddwch yma, dyma'r sedd orau”, ond wedyn yn dweud wrth y cardotyn, “Dos di i sefyll yn y cefn, fan acw” neu, “Eistedd di ar lawr yn y gornel yma”, | |
Jame | WelBeibl | 2:4 | fyddech chi ddim yn awgrymu fod un person yn well na'r llall ac yn dangos fod eich cymhellion chi'n anghywir? | |
Jame | WelBeibl | 2:5 | Gwrandwch arna i, frodyr a chwiorydd annwyl. Onid y bobl sy'n dlawd yng ngolwg y byd mae Duw wedi'u dewis i fod yn gyfoethog yn ysbrydol? Byddan nhw'n cael rhannu yn y deyrnas mae wedi'i haddo i'r rhai sy'n ei garu. | |
Jame | WelBeibl | 2:6 | Ond dych chi'n amharchu'r tlawd! Y cyfoethog ydy'r bobl sy'n eich cam-drin chi! Onid nhw sy'n eich llusgo chi o flaen y llysoedd? | |
Jame | WelBeibl | 2:8 | Os ydych chi'n ufudd i orchymyn pwysica'r ysgrifau sanctaidd: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun,” da iawn chi. | |
Jame | WelBeibl | 2:9 | Ond os ydych chi'n dangos ffafriaeth dych chi'n pechu, ac mae Cyfraith Duw yn dweud eich bod chi'n droseddwr. | |
Jame | WelBeibl | 2:11 | Dwedodd Duw “Paid godinebu” (sef cael rhyw tu allan i dy briodas), a dwedodd hefyd “Paid llofruddio”. Felly os wyt ti'n lladd rhywun, rwyt ti wedi torri'r Gyfraith, hyd yn oed os wyt ti ddim wedi godinebu. | |
Jame | WelBeibl | 2:12 | Dylech chi siarad a byw fel pobl sy'n mynd i gael eu barnu gan gyfraith cariad, sef ‛y gyfraith sy'n eich rhyddhau chi‛. | |
Jame | WelBeibl | 2:13 | Fydd dim trugaredd i chi os ydych chi heb ddangos trugaredd at eraill, ond mae dangos trugaredd yn trechu barn. | |
Jame | WelBeibl | 2:14 | Frodyr a chwiorydd, beth ydy'r pwynt i rywun honni ei fod yn credu, ac wedyn gwneud dim byd o ganlyniad i hynny? Ai dyna'r math o ‛gredu‛ sy'n achub rhywun? | |
Jame | WelBeibl | 2:15 | Er enghraifft, os ydych chi'n gweld brawd neu chwaer yn brin o ddillad neu heb fwyd, | |
Jame | WelBeibl | 2:16 | ac yna'n dweud, “Pob bendith i ti! Cadw'n gynnes, a gobeithio cei di rywbeth i'w fwyta.” Beth ydy'r pwynt os ydych chi'n ei adael yno heb roi dim byd iddo? | |
Jame | WelBeibl | 2:17 | Mae ‛credu‛ ar ei ben ei hun yn union yr un fath. Os ydy'r ‛credu‛ ddim yn arwain at wneud rhywbeth, mae'n farw gelain. | |
Jame | WelBeibl | 2:18 | Ond wedyn mae rhywun yn dadlau, “Mae gan rai pobl ffydd ac mae eraill yn gwneud daioni.” A dw i'n ateb, “Wyt ti'n gallu dangos dy ffydd i mi heb wneud dim? Dw i'n dangos fy mod i'n credu drwy beth dw i'n ei wneud!” | |
Jame | WelBeibl | 2:19 | Rwyt ti'n credu mai un Duw sy'n bod, wyt ti? Wel da iawn ti! Ond cofia fod y cythreuliaid yn credu hynny hefyd, ac yn crynu mewn ofn! | |
Jame | WelBeibl | 2:20 | Y twpsyn! Oes rhaid i mi brofi i ti fod ‛credu‛ sydd ddim yn arwain at wneud rhywbeth yn dda i ddim? | |
Jame | WelBeibl | 2:21 | Meddylia am ein cyndad Abraham. Onid y ffaith ei fod wedi gweithredu, a mynd ati i offrymu ei fab Isaac ar yr allor wnaeth ei berthynas e gyda Duw yn iawn? | |
Jame | WelBeibl | 2:22 | Roedd ei ffydd i'w weld drwy beth wnaeth e. Roedd y gweithredu yn dangos ei fod yn credu go iawn, dim rhyw hanner credu. | |
Jame | WelBeibl | 2:23 | Daeth beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn wir: “Credodd Abraham, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.” Cafodd ei alw'n ffrind Duw! | |
Jame | WelBeibl | 2:24 | Felly dylet ti weld mai beth mae rhywun yn ei wneud sy'n dangos ei fod yn iawn gyda Duw, nid dim ond bod rhywun yn dweud ei fod yn credu. | |
Jame | WelBeibl | 2:25 | I roi enghraifft hollol wahanol, meddylia am Rahab y butain; onid beth wnaeth hi ddaeth â hi i berthynas iawn gyda Duw? Rhoddodd groeso i'r ysbiwyr a'u cuddio nhw, ac wedyn eu hanfon i ffwrdd ar hyd ffordd wahanol. | |