Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOSHUA
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 1
Josh WelBeibl 1:1  Ar ôl i Moses, gwas yr ARGLWYDD, farw, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, gwas Moses:
Josh WelBeibl 1:2  “Mae Moses fy ngwas wedi marw. Dos, a chroesi afon Iorddonen. Dw i eisiau i ti arwain y bobl yma i'r tir dw i'n ei roi i chi.
Josh WelBeibl 1:3  Fel gwnes i addo i Moses, dw i'n mynd i roi i chi bob modfedd sgwâr fyddwch chi'n cerdded arni.
Josh WelBeibl 1:4  Bydd eich tir yn ymestyn yr holl ffordd o'r diffeithwch yn y de i Fryniau Libanus yn y gogledd. A'r holl ffordd o afon Ewffrates yn y dwyrain (gan gynnwys gogledd Syria hefyd) i Fôr y Canoldir yn y gorllewin.
Josh WelBeibl 1:5  Bydda i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses. Fydd neb yn gallu dy stopio di tra byddi di byw. Wna i ddim dy siomi di na dy adael di.
Josh WelBeibl 1:6  Bydd yn gryf a dewr. Ti'n mynd i arwain y bobl yma i goncro'r wlad wnes i addo ei rhoi i'w hynafiaid.
Josh WelBeibl 1:7  Ond rhaid i ti fod yn gryf ac yn ddewr iawn! Gwna'n siŵr dy fod yn gwneud popeth mae'r Gyfraith roddodd Moses i ti yn ei ddweud. Paid crwydro oddi wrthi o gwbl, a byddi di'n llwyddo beth bynnag wnei di.
Josh WelBeibl 1:8  Darllen sgrôl y Gyfraith yma yn rheolaidd. Myfyria arni ddydd a nos, a'i dysgu, er mwyn i ti wneud beth mae'n ei ddweud. Dyna sut fyddi di'n llwyddo.
Josh WelBeibl 1:9  Dw i'n dweud eto, bydd yn gryf a dewr! Paid bod ag ofn na phanicio. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn mynd i fod gyda ti bob cam o'r ffordd!”
Josh WelBeibl 1:10  Felly dyma Josua yn rhoi'r gorchymyn yma i arweinwyr y llwythau:
Josh WelBeibl 1:11  “Ewch drwy'r gwersyll a dweud wrth bawb i gael eu hunain yn barod. Y diwrnod ar ôl yfory dych chi'n mynd i groesi afon Iorddonen, a dechrau concro'r tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi.”
Josh WelBeibl 1:12  Yna dyma Josua yn troi at lwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse, a dweud:
Josh WelBeibl 1:13  “Cofiwch beth ddwedodd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wrthoch chi. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rhoi'r tir yma, sydd i'r dwyrain o afon Iorddonen, i chi setlo i lawr arno.
Josh WelBeibl 1:14  Gall eich gwragedd a'ch plant a'ch anifeiliaid aros yma, ar y tir roddodd Moses i chi. Ond rhaid i bob dyn sy'n gallu ymladd groesi'r afon o flaen gweddill eich brodyr, yn barod i frwydro gyda nhw. Rhaid i chi aros i'w helpu nhw
Josh WelBeibl 1:15  nes bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi lle iddyn nhw setlo hefyd, a nes bydd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi iddyn nhw wedi'i goncro. Wedyn cewch groesi'n ôl i'r tir wnaeth Moses ei roi i chi, i'r dwyrain o afon Iorddonen.”
Josh WelBeibl 1:16  A dyma nhw'n ateb Josua: “Byddwn ni'n gwneud popeth rwyt ti'n ddweud, a mynd ble bynnag wnei di'n hanfon ni.
Josh WelBeibl 1:17  Yn union fel gwnaethon ni wrando ar Moses, byddwn ni'n gwrando arnat ti. Boed i'r ARGLWYDD dy Dduw fod gyda ti, fel roedd e gyda Moses!
Josh WelBeibl 1:18  Os bydd unrhyw un yn gwrthryfela yn dy erbyn, ac yn gwrthod gwneud beth ti'n ddweud, y gosb fydd marwolaeth. Felly, bydd yn gryf a dewr!”