LAMENTATIONS
Chapter 1
Lame | WelBeibl | 1:1 | Y proffwyd: O! Mae'r ddinas oedd yn fwrlwm o bobl yn eistedd mor unig! Mae'r ddinas oedd yn enwog drwy'r byd bellach yn wraig weddw. Roedd hi fel tywysoges y taleithiau, ond bellach mae'n gaethferch. | |
Lame | WelBeibl | 1:2 | Mae hi'n beichio crio drwy'r nos, a'r dagrau'n llifo i lawr ei hwyneb. Does dim un o'i chariadon yno i'w chysuro. Mae ei ffrindiau i gyd wedi'i bradychu ac wedi troi'n elynion iddi. | |
Lame | WelBeibl | 1:3 | Mae pobl Jwda wedi'u cymryd i ffwrdd yn gaethion; ar ôl diodde'n hir maen nhw'n gaethweision. Maen nhw'n byw mewn gwledydd eraill ac yn methu'n lân a setlo yno. Mae'r gelynion oedd yn eu herlid wedi'u dal; doedd ganddyn nhw ddim gobaith dianc. | |
Lame | WelBeibl | 1:4 | Mae'r ffyrdd gwag i Jerwsalem yn galaru; Does neb yn teithio i'r gwyliau i ddathlu. Does dim pobl yn mynd drwy giatiau'r ddinas. Dydy'r offeiriaid yn gwneud dim ond griddfan, ac mae'r merched ifanc, oedd yno'n canu a dawnsio, yn drist. Mae Jerwsalem mewn cyflwr truenus! | |
Lame | WelBeibl | 1:5 | Ei gelynion sy'n ei rheoli, ac mae bywyd mor braf iddyn nhw am fod yr ARGLWYDD wedi'i chosbi hi am wrthryfela yn ei erbyn mor aml. Mae ei phlant wedi'u cymryd i ffwrdd yn gaethion gan y gelyn. | |
Lame | WelBeibl | 1:6 | Mae popeth oedd hi'n ymfalchïo ynddo wedi'i gymryd oddi ar Jerwsalem. Roedd ei harweinwyr fel ceirw yn methu dod o hyd i borfa, ac yn rhy wan i ddianc oddi wrth yr heliwr. | |
Lame | WelBeibl | 1:7 | Mae Jerwsalem, sy'n dlawd a digartref, yn cofio ei holl drysorau – sef y pethau gwerthfawr oedd piau hi o'r blaen. Pan gafodd ei choncro gan ei gelynion doedd neb yn barod i'w helpu. Roedd ei gelynion wrth eu boddau, ac yn chwerthin yn ddirmygus wrth iddi gael ei dinistrio. | |
Lame | WelBeibl | 1:8 | Roedd Jerwsalem wedi pechu'n ofnadwy, felly cafodd ei thaflu i ffwrdd fel peth aflan. Mae pawb oedd yn ei hedmygu bellach yn gwneud sbort wrth ei gweld hi'n noeth. A dyna lle mae hithau'n griddfan ar lawr ac yn cuddio'i hwyneb mewn cywilydd. | |
Lame | WelBeibl | 1:9 | Wnaeth hi ddim meddwl beth fyddai'n digwydd yn y diwedd. Mae gwaed ei misglwyf wedi difetha ei dillad. Roedd ei chwymp yn rhyfeddol! Doedd neb yno i'w chysuro. “O ARGLWYDD, edrych arna i'n diodde!” meddai, “Mae'r gelyn wedi fy nghuro.” | |
Lame | WelBeibl | 1:10 | Mae'r gelyn wedi cymryd ei thrysorau hi i gyd. Ydy, mae hi wedi gorfod gwylio milwyr paganaidd yn mynd i mewn i'r deml sanctaidd. Ie, y bobl wnest ti wrthod gadael iddyn nhw fod yn rhan o'r gynulleidfa o addolwyr! | |
Lame | WelBeibl | 1:11 | Mae pobl Jerwsalem yn griddfan wrth chwilio am rywbeth i'w fwyta. Maen nhw'n gorfod gwerthu popeth gwerthfawr i gael bwyd i gadw'n fyw. Jerwsalem: “Edrych, ARGLWYDD, dw i'n dda i ddim bellach!” | |
Lame | WelBeibl | 1:12 | Ydy e ddim bwys i chi sy'n pasio heibio? Edrychwch arna i'n iawn. Oes rhywun wedi diodde fel dw i wedi diodde? Yr ARGLWYDD wnaeth hyn i mi pan oedd wedi digio'n lân. | |
Lame | WelBeibl | 1:13 | Anfonodd dân i lawr o'r nefoedd, oedd yn llosgi yn fy esgyrn. Gosododd rwyd i'm dal i, rhag i mi fynd ddim pellach. Mae wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun; dw i'n teimlo'n sâl drwy'r amser. | |
Lame | WelBeibl | 1:14 | Mae ngwrthryfel wedi'i rwymo fel iau ar fy ngwddf. Duw ei hun sydd wedi'i rwymo. Mae e wedi gosod ei iau ar fy ngwar, a'm gwneud i'n hollol wan. Mae'r Meistr wedi fy rhoi yn nwylo'r gelyn, ac alla i wneud dim yn eu herbyn. | |
Lame | WelBeibl | 1:15 | Mae'r Meistr wedi taflu allan y milwyr dewr oedd yn fy amddiffyn. Mae wedi galw byddin i ymladd yn fy erbyn ac i sathru fy milwyr ifanc dan draed. Ydy, mae'r Meistr wedi sathru pobl Jwda annwyl fel sathru grawnwin mewn gwinwasg. | |
Lame | WelBeibl | 1:16 | Dyna pam dw i'n crio. Dyna pam mae'r dagrau'n llifo. Does gen i neb wrth law i'm cysuro; neb i godi fy nghalon. Does gan fy mhlant ddim dyfodol. Mae'r gelyn wedi'u gorchfygu. | |
Lame | WelBeibl | 1:17 | Y proffwyd: Mae Seion yn begian am help, ond does neb yno i'w chysuro hi. Mae'r ARGLWYDD wedi gorchymyn i'r gwledydd o'u cwmpas ymosod ar bobl Jacob. Mae Jerwsalem yn eu canol nhw fel peth aflan y dylid ei daflu i ffwrdd. | |
Lame | WelBeibl | 1:18 | Jerwsalem: Yr ARGLWYDD sy'n iawn; dw i wedi tynnu'n groes i beth ddwedodd e. Gwrandwch arna i, bawb! Edrychwch gymaint dw i'n ei ddiodde. Mae fy merched a'm dynion ifanc wedi cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion. | |
Lame | WelBeibl | 1:19 | Rôn i'n galw ar fy ffrindiau am help ond dyma nhw i gyd yn troi cefn arna i. Bu farw'r offeiriaid a'r arweinwyr yn y ddinas wrth edrych am fwyd i gadw eu hunain yn fyw. | |
Lame | WelBeibl | 1:20 | ARGLWYDD, edrych mor ddrwg mae hi arna i! Dw i'n corddi tu mewn. Dw i'n torri fy nghalon, achos dw i'n gwybod mod i wedi gwrthryfela'n llwyr. Allan ar y stryd mae'r gelyn yn lladd; yn y tai mae pobl yn marw o newyn. | |
Lame | WelBeibl | 1:21 | Maen nhw wedi fy nghlywed i'n griddfan, a does yna neb i'm cysuro. Mae fy ngelynion wedi clywed am fy helyntion, ac maen nhw'n falch dy fod wedi gwneud hyn i mi. Brysied y diwrnod rwyt wedi sôn amdano, pan gân nhw eu cosbi run fath â fi! | |