REVELATION OF JOHN
Chapter 14
Reve | WelBeibl | 14:1 | Edrychais wedyn, a dyma welais: yr Oen yn sefyll ar Fynydd Seion. Roedd cant pedwar deg pedair mil o bobl gydag e, ac roedd ei enw e ac enw ei Dad ar eu talcennau. | |
Reve | WelBeibl | 14:2 | Yna clywais sŵn o'r nefoedd oedd yn debyg i raeadrau o ddŵr neu daran uchel. Sŵn telynorion yn canu eu telynau oedd e. | |
Reve | WelBeibl | 14:3 | Dyna ble roedden nhw, yn canu cân newydd o flaen yr orsedd a'r pedwar creadur byw a'r arweinwyr ysbrydol. Dim ond y cant pedwar deg pedair mil o bobl oedd wedi'u rhyddhau o'r ddaear oedd yn gallu dysgu'r gân hon. | |
Reve | WelBeibl | 14:4 | Dyma'r rhai sydd wedi cadw eu hunain yn bur, a heb halogi eu hunain gyda gwragedd. Maen nhw'n dilyn yr Oen ble bynnag mae e'n mynd. Maen nhw wedi cael eu prynu i ryddid o blith y ddynoliaeth a'u cyflwyno i Dduw a'r Oen fel ffrwythau cyntaf y cynhaeaf. | |
Reve | WelBeibl | 14:6 | Wedyn gwelais angel arall yn hedfan yn uchel yn yr awyr, ac roedd ganddo neges dragwyddol i'w chyhoeddi i bawb sy'n byw ar y ddaear; i bobl o bob cenedl, llwyth, iaith, a hil. | |
Reve | WelBeibl | 14:7 | Roedd yn cyhoeddi'n uchel, “Ofnwch Dduw, a rhoi'r clod iddo! Mae'r amser iddo farnu wedi dod. Addolwch yr Un greodd y nefoedd, y ddaear, y môr a'r ffynhonnau dŵr!” | |
Reve | WelBeibl | 14:8 | Dyma ail angel yn ei ddilyn gan gyhoeddi hyn: “Mae wedi syrthio! Mae Babilon fawr wedi syrthio! – yr un wnaeth i'r holl genhedloedd yfed gwin ei chwant anfoesol nwydwyllt.” | |
Reve | WelBeibl | 14:9 | Yna daeth trydydd angel ar eu hôl yn cyhoeddi'n uchel: “Pwy bynnag sy'n addoli'r anghenfil a'i ddelw, ac sydd â'i farc ar eu talcen neu ar eu llaw, | |
Reve | WelBeibl | 14:10 | bydd rhaid iddyn nhw yfed gwin digofaint Duw. Mae'n win cryf ac wedi'i dywallt i gwpan ei lid. Byddan nhw'n cael eu poenydio gyda thân a brwmstan yng ngwydd yr angylion sanctaidd a'r Oen. | |
Reve | WelBeibl | 14:11 | A bydd y mwg o'r tân sy'n eu poenydio yn codi am byth bythoedd. Fydd dim gorffwys o gwbl i'r rhai sy'n addoli'r anghenfil a'i ddelw, nac i unrhyw un sydd wedi'i farcio â'i enw.” | |
Reve | WelBeibl | 14:12 | Mae hyn yn dangos fod dycnwch pobl Dduw yn golygu bod yn ufudd i orchmynion Duw ac aros yn ffyddlon i Iesu. | |
Reve | WelBeibl | 14:13 | Wedyn clywais lais o'r nefoedd yn dweud: “Ysgrifenna hyn: Mae'r bobl sydd wedi marw ar ôl dod i berthyn i'r Arglwydd wedi'u bendithio'n fawr!” “Ydyn wir!” meddai'r Ysbryd, “Byddan nhw'n gorffwys o'u gwaith caled. A bydd cofnod o beth wnaethon nhw yn mynd ar eu holau.” | |
Reve | WelBeibl | 14:14 | Edrychais eto, ac roedd cwmwl gwyn o mlaen i. Roedd un “oedd yn edrych fel person dynol” yn eistedd ar y cwmwl; roedd ganddo goron o aur am ei ben a chryman miniog yn ei law. | |
Reve | WelBeibl | 14:15 | Yna daeth angel arall allan o'r deml a galw'n uchel ar yr un oedd yn eistedd ar y cwmwl, “Defnyddia dy gryman i ddechrau medi'r cynhaeaf! Mae cynhaeaf y ddaear yn aeddfed ac mae'n amser medi.” | |
Reve | WelBeibl | 14:16 | Felly dyma'r un oedd yn eistedd ar y cwmwl yn defnyddio'i gryman ar y ddaear ac yn casglu'r cynhaeaf. | |
Reve | WelBeibl | 14:17 | Daeth angel arall allan o'r deml yn y nefoedd, ac roedd ganddo yntau gryman miniog. | |
Reve | WelBeibl | 14:18 | Yna daeth angel arall eto allan o'r cysegr (yr un oedd yn gofalu am y tân ar yr allor). Galwodd yn uchel ar yr angel oedd â'r cryman miniog ganddo, “Defnyddia dy gryman i gasglu y sypiau grawnwin o winwydden y ddaear. Mae ei ffrwyth yn aeddfed.” | |
Reve | WelBeibl | 14:19 | Felly dyma'r angel yn defnyddio'i gryman ar y ddaear, ac yn casglu'r cynhaeaf grawnwin a'i daflu i mewn i winwryf mawr digofaint Duw. | |