RUTH
Chapter 2
| Ruth | WelBeibl | 2:1 | Roedd gan Naomi berthynas i'w gŵr o'r enw Boas. Roedd yn ddyn pwysig, cyfoethog, ac yn perthyn i'r un teulu ag Elimelech. | |
| Ruth | WelBeibl | 2:2 | Dyma Ruth, y Foabes, yn dweud wrth Naomi, “Gad i mi fynd allan i'r caeau i gasglu grawn tu ôl i bwy bynnag fydd yn rhoi caniatâd i mi.” “Dos di, fy merch i,” meddai Naomi. | |
| Ruth | WelBeibl | 2:3 | Felly aeth Ruth i'r caeau i gasglu grawn ar ôl y gweithwyr. Ac yn digwydd bod, dyma hi'n mynd i'r rhan o'r cae oedd piau Boas, perthynas Elimelech. | |
| Ruth | WelBeibl | 2:4 | A phwy fyddai'n meddwl! Dyma Boas yn dod o Fethlehem a chyfarch y gweithwyr yn y cynhaeaf. “Duw fyddo gyda chi!” meddai wrthyn nhw. A dyma nhw'n ateb, “Bendith Duw arnat tithau hefyd!” | |
| Ruth | WelBeibl | 2:5 | Yna gofynnodd Boas i'r gwas oedd yn gofalu am y gweithwyr, “I bwy mae'r ferch acw'n perthyn?” | |
| Ruth | WelBeibl | 2:7 | “Gofynnodd ganiatâd i gasglu grawn rhwng yr ysgubau tu ôl i'r gweithwyr. Mae hi wedi bod wrthi'n ddi-stop ers ben bore, a dim ond newydd eistedd i orffwys.” | |
| Ruth | WelBeibl | 2:8 | Dyma Boas yn mynd at Ruth a dweud, “Gwranda, fy merch i, paid mynd o'r fan yma i gae neb arall i gasglu grawn. Aros gyda'r merched sy'n gweithio i mi. | |
| Ruth | WelBeibl | 2:9 | Sylwa ble fyddan nhw'n gweithio, a'u dilyn nhw. Bydda i'n siarsio'r gweithwyr i beidio dy gyffwrdd di. A phan fydd syched arnat ti, dos i gael diod o'r llestri fydd fy ngweision i wedi'u llenwi.” | |
| Ruth | WelBeibl | 2:10 | Dyma Ruth yn plygu i lawr ar ei gliniau o'i flaen. “Pam wyt ti mor garedig ata i, ac yn cymryd sylw ohono i, a finnau'n dod o wlad arall?” | |
| Ruth | WelBeibl | 2:11 | “Dw i wedi clywed am y cwbl rwyt i wedi'i wneud i dy fam-yng-nghyfraith ar ôl i dy ŵr farw,” meddai Boas. “Dw i wedi clywed sut wnest ti adael dy dad a dy fam, a'r wlad lle cest ti dy eni, a dod i fyw i ganol pobl oedd yn ddieithr i ti. | |
| Ruth | WelBeibl | 2:12 | Boed i Dduw dy wobrwyo di am wneud hyn. Byddi'n cael dy dâl yn llawn gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr un wyt wedi dod i gysgodi dan ei adain.” | |
| Ruth | WelBeibl | 2:13 | Dwedodd Ruth, “Ti'n garedig iawn ata i, syr. Ti wedi rhoi tawelwch meddwl i mi ac wedi codi fy nghalon i, er nad ydw i'n un o'r merched sy'n gweithio i ti.” | |
| Ruth | WelBeibl | 2:14 | Pan oedd hi'n amser bwyta, dyma Boas yn dweud wrth Ruth, “Tyrd i fwyta gyda ni! Dipia dy fara yn y saws.” Felly dyma hi'n eistedd gyda'r gweithwyr, a dyma Boas yn estyn grawn wedi'i grasu iddi. Cafodd Ruth ddigon i'w fwyta, ac roedd ganddi beth dros ben. | |
| Ruth | WelBeibl | 2:15 | Wedi iddi godi a mynd yn ôl i gasglu grawn, dyma Boas yn gorchymyn i'w weithwyr. “Gadewch iddi gasglu rhwng yr ysgubau a pheidiwch â'i dwrdio hi. | |
| Ruth | WelBeibl | 2:16 | Dw i am i chi hyd yn oed dynnu peth allan o'r ysgubau a'i adael iddi ei gasglu. Peidiwch dweud y drefn wrthi am ei gymryd.” | |
| Ruth | WelBeibl | 2:17 | Felly buodd Ruth wrthi'n casglu grawn nes iddi nosi. Ar ôl iddi ddyrnu yr hyn roedd wedi'i gasglu, roedd ganddi dros ddeg cilogram o haidd! | |
| Ruth | WelBeibl | 2:18 | Dyma hi'n ei gario yn ôl adre, a gwelodd ei mam-yng-nghyfraith gymaint roedd hi wedi'i gasglu. A dyma Ruth yn rhoi'r bwyd oedd dros ben ers amser cinio iddi hefyd. | |
| Ruth | WelBeibl | 2:19 | Gofynnodd Naomi iddi, “Ble fuost ti'n gweithio ac yn casglu grawn heddiw? Bendith Duw ar bwy bynnag gymrodd sylw ohonot ti!” A dyma Ruth yn esbonio lle roedd hi wedi bod. “Boas ydy enw'r dyn lle roeddwn i'n gweithio,” meddai. | |
| Ruth | WelBeibl | 2:20 | “Bendith yr ARGLWYDD arno!” meddai Naomi, “Mae e wedi bod yn garedig aton ni sy'n fyw a'r rhai sydd wedi marw. Mae'r dyn yma yn perthyn i ni. Mae e'n un o'r rhai sy'n gyfrifol amdanon ni.” | |
| Ruth | WelBeibl | 2:21 | Meddai Ruth y Foabes, “Dwedodd wrtho i hefyd, ‘Aros gyda fy ngweithwyr i nes byddan nhw wedi gorffen casglu'r cynhaeaf i gyd.’” | |
| Ruth | WelBeibl | 2:22 | A dyma Naomi yn dweud, “Ie, dyna'r peth gorau i ti ei wneud, fy merch i. Aros gyda'r merched sy'n gweithio iddo fe. Fel yna, fydd neb yn ymosod arnat ti mewn cae arall.” | |