Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
TITUS
1 2 3
Prev Up Next
Chapter 3
Titu WelBeibl 3:1  Atgoffa pobl fod rhaid iddyn nhw fod yn atebol i'r llywodraeth a'r awdurdodau. Dylen nhw fod yn ufudd bob amser ac yn barod i wneud daioni;
Titu WelBeibl 3:2  peidio enllibio neb, peidio achosi dadleuon, ond bod yn ystyriol o bobl eraill, a bod yn addfwyn wrth drin pawb.
Titu WelBeibl 3:3  Wedi'r cwbl, roedden ninnau hefyd yn ffôl ac yn anufudd ar un adeg – wedi'n camarwain, ac yn gaeth i bob math o chwantau a phleserau. Roedd ein bywydau ni'n llawn malais a chenfigen a chasineb. Roedd pobl yn ein casáu ni, a ninnau'n eu casáu nhw.
Titu WelBeibl 3:4  Ond dyma garedigrwydd a chariad Duw ein Hachubwr yn dod i'r golwg.
Titu WelBeibl 3:5  Wnaeth e ddim ein hachub ni am ein bod ni'n dda, ond am ei fod e'i hun mor drugarog! Golchodd ni'n lân o'n pechod a rhoi bywyd newydd i ni drwy'r Ysbryd Glân.
Titu WelBeibl 3:6  Tywalltodd yr Ysbryd arnon ni'n hael o achos beth oedd Iesu Grist wedi'i wneud i'n hachub ni.
Titu WelBeibl 3:7  Am ei fod wedi bod mor garedig â gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn, dŷn ni'n gwybod y byddwn ni'n etifeddu bywyd tragwyddol.
Titu WelBeibl 3:8  Mae beth sy'n cael ei ddweud mor wir! Dyma'r pethau dw i am i ti eu pwysleisio, er mwyn i bawb sy'n credu yn Nuw fod ar y blaen yn gwneud daioni. Mae hynny'n beth da ynddo'i hun, ac mae'n gwneud lles i bawb.
Titu WelBeibl 3:9  Ond paid cael dim i'w wneud â'r dyfalu dwl am achau, a'r holl gecru a dadlau am ryw fân reolau yn y Gyfraith Iddewig. Does dim pwynt – mae'r cwbl yn wastraff amser llwyr!
Titu WelBeibl 3:10  Pwy bynnag sy'n creu rhaniadau, rhybuddia nhw i stopio. Os ydyn nhw ddim yn gwrando ar ôl i ti eu rhybuddio nhw'r ail waith paid cael dim i'w wneud â nhw.
Titu WelBeibl 3:11  Mae pobl felly wedi gwyro oddi wrth y gwirionedd, ac wedi pechu. Nhw sy'n condemnio eu hunain!
Titu WelBeibl 3:12  Dw i'n bwriadu anfon Artemas neu Tychicus atat ti. Cyn gynted ag y bydd y naill neu'r llall wedi cyrraedd tyrd i'm gweld i yn Nicopolis. Dw i wedi penderfynu aros yno dros y gaeaf.
Titu WelBeibl 3:13  Gwna dy orau i helpu Zenas y twrnai ac Apolos ar eu taith. Gwna'n siŵr fod ganddyn nhw bopeth sydd ei angen.
Titu WelBeibl 3:14  Dylai ein pobl ni ddysgu arwain y ffordd wrth wneud daioni, yn cwrdd ag anghenion y rhai sydd mewn angen go iawn. Fyddan nhw ddim yn gwastraffu eu bywydau felly.
Titu WelBeibl 3:15  Mae pawb sydd yma gyda mi yn cofio atat ti. Cofia di ni hefyd at bawb sy'n credu ac yn ein caru ni. Dw i'n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol Duw.