TITUS
Chapter 1
Titu | WelBeibl | 1:1 | Llythyr gan Paul, gwas i Dduw a chynrychiolydd personol Iesu y Meseia. Dw i'n gweithio er mwyn gweld y rhai mae Duw wedi'u dewis yn dod i gredu, a'u helpu nhw i ddeall y gwir yn well, iddyn nhw allu byw fel mae Duw am iddyn nhw fyw. | |
Titu | WelBeibl | 1:2 | Mae'n rhoi sicrwydd iddyn nhw fod ganddyn nhw fywyd tragwyddol. Dyma'r bywyd wnaeth Duw ei addo cyn i amser ddechrau – a dydy Duw ddim yn gallu dweud celwydd! | |
Titu | WelBeibl | 1:3 | Pan ddaeth yr amser iawn daeth â'r newyddion da i'r golwg a rhoi'r cyfrifoldeb i mi i'w gyhoeddi. Duw ein Hachubwr sydd wedi gorchymyn i mi wneud hyn. | |
Titu | WelBeibl | 1:4 | Titus, rwyt ti wir fel mab i mi, gan dy fod yn credu yn y Meseia fel dw i: Dw i'n gweddïo y byddi di'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw y Tad a'r Meseia Iesu, ein Hachubwr, yn ei roi i ni. | |
Titu | WelBeibl | 1:5 | Y rheswm pam adewais di ar Ynys Creta oedd er mwyn i ti orffen rhoi trefn ar bethau yno. Dwedais fod eisiau penodi arweinwyr yn yr eglwysi ym mhob un o'r trefi. | |
Titu | WelBeibl | 1:6 | Ddylai pobl ddim gallu pigo bai ar fywyd arweinydd yn yr eglwys. Rhaid iddo fod yn ffyddlon i'w wraig, a'i blant yn credu a ddim yn wyllt ac yn afreolus. | |
Titu | WelBeibl | 1:7 | Rhaid i arweinydd fod yn ddi-fai, am mai Duw sydd wedi rhoi'r cyfrifoldeb iddo. Dylai beidio bod yn benstiff, nac yn fyr ei dymer. Ddim yn meddwi, ddim yn ymosodol, a ddim yn gwneud arian ar draul pobl eraill. | |
Titu | WelBeibl | 1:8 | Dylai fod yn berson croesawgar. Dylai wneud beth sy'n dda, bod yn berson cyfrifol, yn gwbl deg, yn dduwiol ac yn gallu rheoli ei chwantau. | |
Titu | WelBeibl | 1:9 | Dylai fod yn rhywun sy'n credu'n gryf yn y neges glir gafodd ei dysgu. Wedyn bydd yn gallu annog pobl eraill gyda dysgeidiaeth gywir, ac argyhoeddi'r rhai sy'n dadlau yn ei erbyn. | |
Titu | WelBeibl | 1:10 | Mae llawer iawn o bobl allan yna sy'n tynnu'n groes i'r gwir. Dw i'n meddwl yn arbennig am yr Iddewon hynny sy'n siarad cymaint o nonsens, ac yn twyllo pobl i feddwl fod mynd drwy ddefod enwaediad yn hanfodol bwysig i gael eich achub. | |
Titu | WelBeibl | 1:11 | Mae'n rhaid rhoi taw arnyn nhw! Maen nhw wedi cael teuluoedd cyfan i gredu syniadau hollol anghywir. Dim ond eisiau'ch arian chi maen nhw! | |
Titu | WelBeibl | 1:12 | Mae un o'r Cretiaid eu hunain, un sy'n broffwyd yn eu golwg nhw, wedi dweud, “Mae Cretiaid yn bobl gelwyddog – bwystfilod drwg ydyn nhw, pobl farus a diog!” | |
Titu | WelBeibl | 1:13 | Ac mae'n hollol wir! Felly rhaid i ti eu rhybuddio nhw'n llym, er mwyn iddyn nhw gredu beth sy'n wir. | |
Titu | WelBeibl | 1:14 | Dwed wrthyn nhw am beidio cymryd sylw o chwedlau Iddewig, ac i stopio gwrando ar bobl sydd wedi troi cefn ar y gwir. | |
Titu | WelBeibl | 1:15 | Mae popeth yn bur i'r rhai sydd â chalon bur, ond does dim byd yn bur i'r rhai hynny sydd wedi'u llygru a ddim yn credu. Y ffaith ydy bod meddwl a chydwybod y bobl yma wedi'u llygru. | |