ZECHARIAH
Chapter 4
| Zech | WelBeibl | 4:1 | Wedyn dyma'r angel oedd wedi bod yn siarad â mi yn dod yn ôl a'm hysgwyd, fel petai'n deffro rhywun oedd wedi bod yn cysgu. | |
| Zech | WelBeibl | 4:2 | Gofynnodd i mi, “Beth wyt ti'n weld?” A dyma fi'n ateb, “Menora o aur pur, gyda phowlen ar y top a saith lamp arni, a saith sianel yn rhedeg iddyn nhw. | |
| Zech | WelBeibl | 4:6 | Yna dwedodd wrtho i, “Dyma neges yr ARGLWYDD i Serwbabel: ‘Nid grym na chryfder sy'n llwyddo, ond fy Ysbryd i.’ Ie, dyna mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud. | |
| Zech | WelBeibl | 4:7 | Fyddi di fynydd mawr yn ddim rhwystr i Serwbabel! Byddi fel tir gwastad! Bydd e'n dod â'r garreg olaf i'w gosod yn ei lle, i sŵn gweiddi, ‘Mae'n hyfryd! Mae'n hyfryd!’” | |
| Zech | WelBeibl | 4:9 | “Serwbabel wnaeth osod sylfeini y deml yma, a bydd e'n gorffen y gwaith.” Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi. | |
| Zech | WelBeibl | 4:10 | “Pwy wnaeth ddirmygu'r dechreuadau bach? Byddwch yn dathlu wrth weld y garreg â'r plât tin arni yn llaw Serwbabel! Felly mae'r saith lamp yn cynrychioli llygaid yr ARGLWYDD, sy'n gwylio popeth sy'n digwydd ar wyneb y ddaear.” | |
| Zech | WelBeibl | 4:11 | A dyma fi'n gofyn i'r angel, “Beth ydy ystyr y ddwy goeden olewydd, un bob ochr i'r menora?” | |
| Zech | WelBeibl | 4:12 | A gofynnais hefyd, “Beth ydy ystyr y ddau estyniad i'r coed olewydd sy'n tywallt olew euraid i'r sianeli?” | |