ZECHARIAH
Chapter 7
Zech | WelBeibl | 7:1 | Yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Dareius, ar y pedwerydd o fis Cislef (sef y nawfed mis), dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Sechareia. | |
Zech | WelBeibl | 7:2 | Roedd pobl Bethel wedi anfon Saretser a Regem-melech a'i ddynion i ofyn am fendith yr ARGLWYDD. | |
Zech | WelBeibl | 7:3 | Roedden nhw hefyd i fynd i deml yr ARGLWYDD hollbwerus, a gofyn i'r offeiriaid a'r proffwydi, “Ddylen ni ddal i alaru ac ymprydio yn y pumed mis, fel dŷn ni wedi gwneud ar hyd y blynyddoedd?” | |
Zech | WelBeibl | 7:5 | “Dwed wrth bobl y wlad, a'r offeiriaid i gyd: ‘Dych chi wedi bod yn ymprydio ac yn galaru yn y pumed a'r seithfed mis ers saith deg mlynedd. Ond ydych chi wir wedi bod yn gwneud hynny i mi? | |
Zech | WelBeibl | 7:7 | Dyna'n union beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ddweud drwy ei broffwydi bryd hynny, pan oedd Jerwsalem a'r pentrefi o'i chwmpas yn ffynnu, a phobl yn byw yn y Negef i'r de a'r iseldir yn y gorllewin.” | |
Zech | WelBeibl | 7:9 | “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus wedi bod yn ei ddweud, ‘Byddwch yn deg bob amser, yn garedig a thrugarog at eich gilydd. | |
Zech | WelBeibl | 7:10 | Peidiwch cam-drin gwragedd gweddwon, plant amddifad, mewnfudwyr a phobl dlawd. A pheidiwch bwriadu drwg i unrhyw un arall.’ | |
Zech | WelBeibl | 7:11 | “Ond doedden nhw'n cymryd dim sylw. Roedden nhw'n hollol benstiff, ac yn gwrthod yn lân a gwrando. | |
Zech | WelBeibl | 7:12 | Roedd eu calonnau'n galed fel diemwnt, nes eu bod yn gwrthod gwrando ar fy nysgeidiaeth, nac ar y negeseuon eraill roedd fy Ysbryd wedi'u rhoi i'r proffwydi cynnar yna eu cyhoeddi. A dyna pam wnaeth yr ARGLWYDD hollbwerus dywallt ei lid arnyn nhw. “Dwedodd yr ARGLWYDD hollbwerus. | |
Zech | WelBeibl | 7:13 | ‘Pan oeddwn i'n galw arnyn nhw, doedden nhw ddim yn gwrando. Felly pan fyddan nhw'n galw arna i, fydda i ddim yn gwrando chwaith. | |